Penderfyniad Rheoleiddiol: Gweithredu Generadur Penodol Tranche B, Atodlen 25B ar gyfer ymchwil a datblygiad
Penderfyniad Rheoleiddiol
Dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygiad) 2018, mae'n rhaid i chi gael trwydded erbyn 1 Ionawr 2019 i weithredu generadur penodol, atodlen 25B gydag un neu fwy o generaduron tranche B, ar gyfer profi ymchwil a datblygiad.
Fodd bynnag, os ydych yn cydymffurfio ag amodau'r Penderfyniad Rheoleiddiol, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorfodi'r gofyniad hwn tan 1 Ionawr 2023.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno'r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn oherwydd peryglon amgylcheddol isel wrth brofi'r generaduron hyn am gyfnodau byr. Maent hefyd yn cydnabod nad yw'n ymarferol nac yn fuddiol o ran cost i addasu'r generaduron hyn er mwyn bodloni gwerthoedd cyfyngiad allyriadau.
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi ddefnyddio'r Penderfyniad Rheoleiddiol hwn.
Yr amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Mae'n rhaid i chi sicrhau'r canlynol:
- rydych yn profi generadur unigol ag uchafswm capasiti o 20 megawat thermol yn unig
- rydych yn profi mwy nag un generadur gyda chyfanswm capasiti o lai na 50 megawat thermol yn unig ar yr un pryd
- prif ddiben y generadur yw profi ac nid generadu trydan
- rydych yn llunio ac yn dilyn system reoli sy'n nodi ac sy'n lleihau'r peryglon o lygredd NOx (ocsidau nitrogen) i'r aer.
Mae'n rhaid i chi sicrhau nad yw eich gweithgarwch yn peryglu iechyd dynol neu’r amgylchedd. Ni ddylech wneud y canlynol:
- peri risg i'r ansawdd aer lleol
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Gorfodi
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn cyn belled â'ch bod yn sicrhau'r canlynol:
- bod eich gweithgarwch yn unol â'r disgrifiad a nodir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn
- eich bod yn cydymffurfio â'r amodau a nodir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn
- nad yw eich gweithgarwch yn achosi llygredd amgylcheddol neu niwed i iechyd dynol, ac nad yw'n debygol o wneud hynny.
Cyswllt
E-bostiwch: mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyfynnwch y penderfyniad rheoleiddiol 075 a nodwch enw cyswllt a chyfeiriad y gweithgarwch ymchwil a datblygiad.
Cyfnod y Penderfyniad Rheoleiddiol hwn
1 Ionawr 2023
Os nad oes gennych drwydded erbyn 1 Ionawr 2023 i weithredu generadur penodol atodlen 25B gydag un neu fwy generadur tranche B ar gyfer profi ymchwil a datblygiad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau gweithredu gorfodol yn eich erbyn.