Iechyd, addysg a dysgu – dan sylw
Ceir arferion rhagorol ledled Cymru gyda gwahanol grwpiau'n manteisio ar yr amgylchedd naturiol i sicrhau cyfleoedd o ran iechyd, dysgu ac addysg, a gwneud y mwyaf ohonynt. Dyna sydd dan sylw ar y dudalen hon – lleoliadau, sefydliadau, unigolion a phynciau sydd wedi cael sylw yn ein cylchlythyr Addysg a Dysgu misol am eu harferion da, ynghyd â rhagor o wybodaeth a syniadau i’ch helpu i ddatblygu neu wella'r hyn ydych yn ei wneud yn eich lleoliad chi.
Hoffech chi dderbyn diweddariadau bob mis ynglŷn â sut y gall eich grŵp chi ddysgu yn, dysgu am a dysgu ar gyfer yr amgylchedd naturiol? Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Addysg a Dysgu i gael ysbrydoliaeth, cymorth a’r newyddion diweddaraf drwy anfon e-bost i ni.
Rhoi hyfforddiant gweminar CNC ar waith – Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Y Fflint
Medi 2023
Un ysgol sydd wedi mynychu’n gweminarau yn y gorffennol yw Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Y Fflint. Fe wnaethon ni siarad â’r Pennaeth sef Paul Phillips i weld sut wnaeth yr athrawon a oedd yn bresennol yn ein gweminarau ‘Bywyd ar yr Afon’ a ‘Llwybr Arfordir Cymru’ roi'r wybodaeth a ddysgwyd ar waith.
Disgyblion Ysgol Licswm yn ymchwilio i effaith cais cynllunio ar yr amgylchedd naturiol
Medi 2023
‘Diogelu neu ddatblygu ardal naturiol?’ Dyna oedd y cwestiwn osododd Stacey Jones, athrawes ar ddosbarth cymysg o blant ar gyfer Blynyddoedd 4, 5 a 6 yn Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir yn Wirfoddol yn Sir y Fflint, i’r plant yn ddiweddar. Gyda chais cynllunio i adeiladu canolfan manwerthu a hamdden fawr ar gyrion y wedi ei gyflwyno gan gwmni datblygu, bu'r dysgwyr yn cwblhau ystod o weithgareddau dysgu trawsgwricwlaidd yn yr awyr agored i ymchwilio i’r hyn sy’n arbennig am yr ardal naturiol leol. A oedd y dysgwyr yn cefnogi syniadau’r cwmni datblygu mentrus a chreadigol oedd am ddatblygu’r tir, rhoi hwb i’r economi leol, a chreu swyddi? Neu a oedden nhw’n ddinasyddion moesegol a gwybodus oedd yn gwrthwynebu’r cynigion ac am ddiogelu’r tirlun ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol? Cafodd Ffion Hughes o’n tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol sgwrs â Stacey i weld beth oedd eu barn.
‘Llongddrylliad yn Costa Del Sychdyn’ – disgyblion yn goroesi gyda dim ond y Cwricwlwm i Gymru i’w cefnogi
Gorffennaf 2023
Yn ddiweddar, rhoddodd Megan Hughes, athrawes Blwyddyn 4 o Sychdyn, Sir y Fflint, y gweithgareddau a rannwyd yn ystod ein hyfforddiant ‘Llongddrylliad’ ar waith gyda’i dysgwyr. Cafodd Ffion o’n tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol sgwrs gyda hi i gael gwybod sut aeth ei morwyr ati i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith er mwyn cael eu hachub.
Datblygu dawn tyfu planhigion gydag Ysgol Gynradd Greenway
Mehefin 2023
Fel rhan o'n hymateb cenedlaethol i effeithiau newid yr hinsawdd, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni addasu'r ffordd y mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu.
Mae Ysgol Gynradd Greenway, yn Nhredelerch, Caerdydd, eisoes wedi dechrau arni, gan roi berfa llawn gwybodaeth am arddio i’w dysgwyr gyda’u gwaith garddio bwytadwy. Siaradodd Karen Clarke, ein Prif Gynghorydd Arbenigol: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda Simon Evans o’r ysgol i ddysgu mwy.
Tyfu a meithrin 'Dyfodol' cynaliadwy yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr
Mai 2023
Er mwyn cydnabod anghenion amrywiol ei disgyblion, mae Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu darpariaeth ar gyfer dysgwyr blynyddoedd 7-9 o'r enw Dyfodol. Mae’r ddarpariaeth hon yn cefnogi dysgwyr sydd efallai'n gweld amserlen arferol ysgol gyfun yn heriol. Buom yn siarad gyda Lauren Feeley, Cydlynydd Dysgu Darpariaeth Dyfodol i weld sut mae'r ddarpariaeth Dyfodol yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu yn yr amgylchedd naturiol, am yr amgylchedd naturiol ac ar ei gyfer.
Ysgol Penrhyn Dewi — gofalu'n ffyddlon am eu Cynefin
Mai 2023
Mae Ysgol Penrhyn Dewi yn gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a phentref Solfach. Fel yr Ysgol Eglwys Wirfoddol a Gynorthwyir 3-16 gyntaf yng Nghymru, mae gan yr ysgol ddysgwyr wedi’u gwasgaru dros 3 champws ac ardal wledig helaeth. Trafodwyd sut mae'r ysgol yn ymgorffori CGM a dysgu awyr agored gyda Cilla Bramley, y Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Addysgu a Dysgu.
Dysgwyr Sir Fynwy yn cysylltu â'u cynefin
Ebrill 2023
Mae’r term 'cynefin' yn fwy na lleoliad daearyddol yn unig a gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio ein perthynas â'r amgylchedd naturiol a sut mae'r cysylltiad hwnnw'n siapio ein hunaniaeth, ein lles, a'n synnwyr o berthyn. Gyda 'cynefin' fel thema ar gyfer tymor y gwanwyn, mae Kate Peacock, Pennaeth dros dro yn Ysgol Gynradd Tryleg yn rhannu sut mae’r ysgol wedi defnyddio’r thema i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
Rhowch y byrddau gwyn o’r neilltu a chliriwch yr adeilad – mabwysiadwch ddull lleoliad cyfan yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru eleni
Mawrth 2023
A fyddwch chi a’ch lleoliad yn mabwysiadu dull lleoliad cyfan o ddysgu yn yr awyr agored yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru eleni? Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn eich gwahodd i ddathlu gofod chwarae a dysgu mwyaf a gorau Cymru – ein hamgylchedd naturiol yn ystod #WythnosDysguAwyrAgored, 24 – 30 Ebrill 2023. Y thema eleni yw dysgu gweithredol yn yr awyr agored - annog unigolion iach hyderus. Er mwyn sicrhau bod pob un o’ch dysgwyr yn elwa o ddysgu yn, am ac ar gyfer yr ystafell ddosbarth fwyaf a’r gorau sydd gennym yng Nghymru; ein hamgylchedd naturiol, dyma rai awgrymiadau penigamp ar sut i sicrhau cyfranogiad eich holl leoliad.
Hau hadau cysylltiad cynnar â byd natur trwy'r cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy
Mawrth 2023
Mae’r cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy yn gynllun achredu cenedlaethol sy’n cydnabod lleoliadau cyn ysgol fel cyfranwyr at iechyd a lles plant. Mae'r cynllun yn ymdrin ag ystod o saith pwnc iechyd gan gynnwys yr amgylchedd. Sut mae'r cynllun yn helpu i ddatblygu cysylltiad cynnar â byd natur? Buom yn siarad ag Emma Coleman, Swyddog Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd i gael gwybod.
Mwynhau hud y gaeaf gyda’ch dysgwyr
Ionawr 2023
Nid yw'r ffaith ei bod hi’n oer y tu allan yn golygu bod eich dysgwyr wedi colli eu hegni na’u hawydd i chwarae. Mae'r gaeaf yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ysgogi dychymyg trwy chwarae – dyma ein syniadau.
Mudiad Meithrin – defnyddio’r awyr agored i feithrin datblygiad yr iaith Gymraeg
Ionawr 2023
Dyma Nia Chapman, Swyddog Cefnogi Gogledd Powys, a Mirain Jones, Arweinydd Cylch Meithrin Dyffryn Banw yn rhannu eu barn am fuddion treulio amser yn yr awyr agored a sut mae hyn yn helpu i hyrwyddo datblygiad yr iaith Gymraeg.
Timau teuluol – Prosiect yn tynnu pobl ifanc oddi wrth ei sgriniau ac yn cynnig chwa o awyr iach i deuluoedd Conwy
Ionawr 2023
Mae Greg Woolley o Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn yn rhannu ei brofiadau o gynnal prosiect sy'n dod â phobl ifanc a'u teuluoedd at ei gilydd yn yr awyr agored.
Cyfranwyr mentrus, creadigol - disgyblion Pen-y-garn yn creu ‘Arty Parky’
Rhagfyr 2022
Ar ôl treulio amser yn archwilio ac yn cymryd sylw o harddwch naturiol eu hamgylchedd naturiol lleol, mae disgyblion Blwyddyn 4 a 6 Ysgol Gynradd Pen-y-garn, ger Pont-y-pŵl wedi bod yn sianelu eu dawn greadigol gan greu darnau o gelf naturiol.
Cyfle i ddysgu am goed Nadolig
Rhagfyr 2022
Mae’r Nadolig ar ei ffordd, ond ydych chi erioed wedi cymryd eiliad i fmeddwl sut y daeth coed bytholwyrdd, boed yn goed pinwydd, sbriws neu ffynidwydd, i fod yn symbol o’r Nadolig? Pam fyddwn ni'n torri coeden dda, yn ei llusgo i'r tŷ ac yn ei haddurno? Beth am edrych ar darddiad yr arferiad gyda'ch dysgwyr?
"Mae'n oer y tu allan!" - Sut i 'barhau' i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol yn ystod misoedd y gaeaf
Tachwedd 2022
Rydych chi'n edrych allan drwy'r ffenest ac yn gweld diwrnod llwyd a diflas neu'n teimlo awel oer, ffres yn dod drwy'r drws wrth i chi ei agor. "Byddwn ni’n ei adael tan yfory", rydych chi'n dweud wrthoch chi eich hun. Mae'n hawdd meddwl am esgusodion am beidio â mentro allan i'r amgylchedd naturiol gyda'ch dysgwyr pan fydd y tymheredd yn gostwng ond dyw'r ffaith ei bod hi'n oer y tu allan ddim yn golygu bod eich dysgwyr wedi colli eu hegni na'u hawydd i chwarae. Dyma ein syniadau ar sut i fwynhau'r awyr agored gyda'ch dysgwyr yn ystod y misoedd oer sydd o'n blaenau.
Gwreiddio cariad at yr amgylchedd naturiol a gwerthfawrogiad ohono ymhlith plant bach yn Rachael's Playhouse
Mae Hannah Jones a Rachael Barnett yn cynnal safleoedd gofal plant llwyddiannus yn Hirwaun ac Aberdâr i blant 18 mis i 5 oed. Eglura Hannah sut mae safle Aberdâr yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr o oed ifanc gymryd rhan yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu ag ef.
Ysgol Rhos Helyg, Ceredigion ar daith ar hyd Llwybr Arfordir
Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac yn ymestyn ledled arfordir Cymru, yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu. A'r Llwybr yn dathlu ei 10fed pen-blwydd yn 2022, lansiwyd cyfres o adnoddau addysg i gefnogi grwpiau i ddysgu ar y llwybr, am y llwybr ac ar gyfer y llwybr. Hefyd, cynigiwyd i grwpiau addysg a fynychodd ein gweminarau 'Llwybr Arfordir Cymru - eich llwybr i ddysgu arfordirol' hyd at £200 o fwrsariaeth deithio i helpu tuag at gost ymweld â'r llwybr. Un safle a fanteisiodd ar y cynnig oedd Ysgol Rhos Helyg, ger Tregaron, Ceredigion. Dyma’r athrawes Sioned Owen yn rhannu eu profiadau.
"Brwydr goncyrs – beth yw hynny?" Beth sydd wedi digwydd i'r gêm iard chwarae?
Concyrs bach, sgleiniog yw rhai o emau naturiol trysor yr hydref. Ar un adeg, mawr oedd y chwilio amdanynt, cyn eu paratoi am frwydr trwy eu pobi yn y ffwrn neu eu socian mewn finegr, yna eu rhoi ar linyn yn barod i’r iard chwarae. Gofynnwn yn awr pam mae un o'r gemau hynaf fel petai wedi mynd yn angof?
Edrych tuag at ddyfodol naturiol: Sir y Fflint yn gobeithio tyfu ei darpariaeth dysgu yn yr awyr agored
Mae Jane Borthwick, Cynghorydd Dysgu Gwelliant Cynradd, Sir y Fflint yn rhannu'r gwersi addysgwyd ac mae’n gobeithio cynyddu'r ddarpariaeth dysgu yn yr awyr agored yn fwy fyth wrth i'r sir fyndi’r afael â’r Cwricwlwm i Gymru.
Plant bach bywyd gwyllt: gofal plant gyda natur
Mae creu amser a lle ar gyfer profiadau dysgu actif a difyr yn yr amgylchedd naturiol i’r plant dan ei gofal yn ail natur i’r gwarchodwr plant o Sir Gaerfyrddin, Kelly Still.
Gwersi y gallwn eu dysgu o fyd natur
Pa wersi allwn ni eu dysgu o fyd natur? Dyma ein syniadau ni.
Sut gall dysgu yn, amdan ac ar gyfer yr amgylchedd naturiol helpu ein hiechyd a lles?
Yn 2008, cyhoeddodd y Sefydliad Economeg Newydd astudiaeth 'Pum ffordd tuag at les', a nododd gamau gweithredu seiliedig ar dystiolaeth i wella lles. Mae gan bob cam gysylltiad â bod ym myd natur.
Sut mae Natur wedi tyfu
Yn 2021, fe wnaethom ni gyflwyno Natur i chi, ardal ddysgu awyr agored weledigaethol yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo a oedd yn y camau cynllunio. Yn ddiweddar, buom yn siarad â Phennaeth Cynorthwyol yr ysgol, Ian Chriswick, i ddarganfod sut mae wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Disgyblion Ysgol Abererch, Pwllheli rhannu eu barn ar arddio ysgol
mae disgyblion Ysgol Abererch, Pwllheli, enillwyr cystadleuaeth ‘Gardd Ysgol y Flwyddyn 2021’ S4C, yn cymryd hoe o dyfu blodau, perlysiau a chennin er mwyn rhannu eu barn ar arddio ysgol.
“Dyw e ddim yn chwyldroadol nac yn galed. Dim ond plant cyffredin ydyn ni sydd wedi cymryd camau bach i wneud ein cornel ni o'r byd yn wyrddach”
Gwyliwch fideo o’r dysgwyr a'u hathrawes yn trafod eu hymdrechion.
Gwneud y gorau o'r awyr agored er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd
Sut y gellir defnyddio'r amgylchedd naturiol er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd? Dyma rai o’n syniadau ni.
Athrawes Sir y Fflint yn rhoi hyfforddiant troseddu amgylcheddol CNC ar waith
Yn dilyn hyfforddiant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), penderfynodd Megan Hughes, athrawes Blwyddyn 3 yn Ysgol Sychdyn, Sir y Fflint, roi'r hyfforddiant 'O Safle’r Drosedd i‘r Llys Barn: Troseddu amgylcheddol’ ar waith.
“O na fyddai’n haf o hyd” - arferion i ddathlu dechrau’r haf o bob cwr o’r byd
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r Nadolig yn cael ei ddathlu ar draws y byd, ond a ydych chi erioed wedi gofyn i’ch dysgwyr feddwl ac ymchwilio i ddathliadau dechrau’r haf?