Pryd i gyhoeddi ar wefan LLYW.CYMRU neu wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae hwn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi

Diben y canllawiau hyn

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar sut i benderfynu p'un a ddylid cyhoeddi gwybodaeth ar www.llyw.cymru neu www.cyfoethnaturiol.cymru.

Cyd-destun

Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd:

  • Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y strategaeth gyffredinol ac mae’n pennu blaenoriaethau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i wireddu’r strategaeth a blaenoriaethau cyffredinol, er enghraifft drwy reoli adnoddau, rheoleiddio, ac ymateb i ddigwyddiadau

Gall y ddau sefydliad hefyd fod yn gyfrifol am wahanol agweddau ar yr un pwnc.

Mae hyn yn creu rhai heriau ar gyfer cyhoeddi ar-lein:

  • gall gwybodaeth i’w chyhoeddi ar-lein gael ei chreu mewn partneriaeth ac mae’n bosibl y bydd yn aneglur o ran ble i’w chyhoeddi
  • mae'n bosibl y bydd cynnwys sy'n diwallu anghenion cysylltiedig defnyddwyr yn cael ei gyhoeddi i wahanol wefannau

Gallai’r heriau hyn leihau effeithiolrwydd ein gwaith a’i gwneud yn anoddach i gyflawni ein hamcanion a rennir. Er enghraifft, os bydd defnyddiwr yn cyrraedd un wefan, mae'n bosibl na fydd yn cael gwybod am wybodaeth berthnasol bwysig ar y wefan arall.

Egwyddorion ar gyfer cynnwys sy'n eiddo llawn i un sefydliad yn unig

Mae gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig gwefan yr un. Mae’r cynigion hyn yn disgrifio ble i gyhoeddi cynnwys sy’n eiddo llawn i un sefydliad yn unig:

Maent yn datgan y dylai gwybodaeth sy'n eiddo llawn i un sefydliad gael ei chyhoeddi i'w gwefan yn unig. Er enghraifft, dylid cyhoeddi'r canlynol:

  • strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar llyw.cymru
  • strategaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar cyfoethnaturiol.cymru
  • ffurflen gais am grant a weinyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar cyfoethnaturiol.cymru
  • ffurflen gais am grant a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ar llyw.cymru

Egwyddorion ar gyfer cynnwys a rennir

Dylai gwybodaeth a gynhyrchir mewn partneriaeth ystyried y canlynol:

  • anghenion defnyddwyr, er enghraifft lle mae defnyddwyr yn disgwyl dod o hyd i'r wybodaeth
  • pwy sydd â mwy o gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am y canllawiau neu'r gwasanaeth
  • lleoliad cynnwys sy'n bodoli eisoes ac sy'n perthyn yn agos

Yn gyffredinol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu mwy o’r canllawiau ymarferol sy’n galluogi defnyddwyr i ymddwyn yn y modd gofynnol neu ddymunol.

Dylai'r arbenigwyr pwnc o'r ddau sefydliad gytuno ar eu dull gweithredu dewisol ar gyfer pob pwnc. Dylent drafod eu hoff ddull gyda dylunwyr cynnwys yn eu sefydliad:

Cysylltiad rhwng y gwefannau

Dylai arbenigwyr pwnc nodi cyfleoedd i gysylltu'r gwefannau pan fydd anghenion defnyddwyr sy'n perthyn yn agos yn cael eu diwallu ar draws y ddwy. Dylent drafod y cyfleoedd hyn gyda dylunwyr cynnwys yn eu sefydliad.

Er enghraifft, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi sawl tudalen, pob un yn diwallu anghenion defnyddwyr gwahanol mewn perthynas â gwastraff peryglus:

  • cyflwyno eich datganiad gwastraff peryglus
  • cofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus
  • sut i gwblhau nodyn trosglwyddo gwastraff peryglus

Gall Llywodraeth Cymru gynhyrchu cynnwys sy’n ymwneud ag agwedd arall ar wastraff peryglus a nodi’r angen i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynnwys cysylltiedig ar cyfoethnaturiol.cymru. Efallai mai ffordd dda o gysylltu yw'r canlynol:

Mae'n annhebygol y bydd ail-greu strwythur y wefan arall yn opsiwn da. Er enghraifft, creu sawl tudalen ar LLYW.CYMRU gyda theitlau union yr un fath â’r rhai ar cyfoethnaturiol.cymru sy’n cysylltu â cyfoethnaturiol.cymru i gael y manylion. Mae gwneud hyn yn ymdrech ychwanegol ac yn creu canlyniadau chwilio cystadleuol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf