Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun – Cymeradwywyd 23 Hydref 2023

Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun yn cynnwys wyth bloc o goedwig a chyfanswm ei arwynebedd yw 749 ha. Ar y cyfan, mae'r gwahanol flociau coedwig yn rhai conifferaidd yn bennaf, er bod rhai blociau unigol yn cynnwys cyfrannau uchel o goed llydanddail. Mae'r blociau wedi'u gwasgaru ar draws ardal o tua 100 km2 o gwmpas trefi yr Wyddgrug, Rhuthun a Dinbych, gyda'r tri bloc mwyaf dwyreiniol – Moel Famau, Nercwys a Llangwyfan - yn gorwedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae'r holl flociau ar wahân i Langwyfan o fewn 4 km i ffordd yr A494, sy'n rhedeg tua'r gogledd-ddwyrain trwy ardal y cynllun. Moel Famau, sy'n 428 hectar, yw'r bloc mwyaf ac mae’n gorwedd ar asgwrn cefn ucheldir Bryniau Clwyd tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.

Mae’r cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun yn cynnwys tir fferm amgaeëdig wedi'i bori, rhostir agored a blociau o goedwigoedd conwydd masnachol, sydd fel arfer wedi'u lleoli ar y tir uwch, gyda choetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau isaf ac ar hyd glannau afonydd. Mae coedwig fawr Clocaenog, a reolir hefyd gan CNC, i'r gorllewin o Gynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun. Mae holl flociau coedwig Rhuthun wedi'u neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ac mae hefyd yn caniatáu mynediad caniatáol i geffylau a beiciau. Ceir rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy'n cysylltu'r blociau â'r dirwedd ehangach, gyda llwybr pellter hir Clawdd Offa'n rhedeg ar hyd ymyl blociau Moel Famau a Llangwyfan.

Mae Coedwig Rhuthun yn syrthio i chwe dalgylch afon gwahanol fel y'u diffinnir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae'r dalgylchoedd hyn i gyd yn perthyn i ddalgylchoedd mwy Clwyd a Dyfrdwy, ac o'r chwech, mae dau yn meddu ar statws cyffredinol 'Da', dau yn statws cyffredinol 'Cymedrol' a dau statws cyffredinol 'Gwael'.

Map lleoliad cynllun adnoddau coedwig Rhuthun

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Tynnu llarwydd ac amrywio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig i gynyddu gwytnwch yn erbyn plâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio pa rywogaethau i’w dewis ar gyfer torri ac ailstocio.
  • Cynyddu ardaloedd coetir olyniaethol, torlannol a llydanddail ar gyfer gwella gwytnwch cynefinoedd a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb o ran cadwraeth.
  • Cynnal a gwella profiadau ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel a phleserus.

Mapiau

Gweledigaeth hirdymor:

Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo:

Mathau o goedwigoedd ac ailstocio:

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf