Rhoi hyfforddiant gweminar CNC ar waith – Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Y Fflint
Wedi mynychu’r gweminarau ‘Bywyd ar yr Afon’ a ‘Llwybr Arfordir Cymru’, mae Paul Phillips y Pennaeth yn esbonio sut mae’r athrawon yn Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Y Fflint wedi rhoi'r gweminarau hyfforddiant a gynhaliwyd gan CNC ar waith.
“Roedd yr hyfforddiant yn bwysig iawn. Roedd cael recordiadau o’r sesiynau’n ddefnyddiol iawn i’r athrawon gyfeirio atyn nhw. Cawsom hefyd ddogfennau gyda dolenni defnyddiol. Roedd hyn yn eithriadol o ddefnyddiol ac yn arbed amser. Mae’r adnoddau ar wefan CNC yn ardderchog a bu’r plant yn eu defnyddio’n helaeth.
Roedd y cynllunio ar gyfer pob pwnc yn dilyn pedwar cam:
- Cysylltu gwaith newydd gyda’r hyn a wnaed yn flaenorol a’r hyn sydd i ddilyn nesaf.
- Penderfynu pa wybodaeth hanfodol roedden ni am i’r plant ei derbyn.
- Adnabod sut gallai hyn gyd-fynd â’r datganiadau beth sy’n bwysig ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad yn ogystal â dysgu sut mae modd ymgorffori rhai o’r themâu trawsbynciol a sgiliau cyfannol.
- Dewis gweithgareddau.”
Blwyddyn 3: Bywyd ar lannau’r Afon Dyfrdwy
“Gallwch weld moryd yr Afon Dyfrdwy o fynedfa flaen ein hysgol felly roedden ni’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y plant yn dysgu am sut mae’r defnydd o’r afon wedi newid dros gyfnod o amser. Treuliodd 29 o ddisgyblion Blwyddyn 3 naw wythnos yn astudio’r pwnc ‘Bywyd ar lannau’r Afon Dyfrdwy.”
“Ar ôl gwylio’r weminar ‘Bwyd ar yr Afon’ yn ogystal â derbyn yr adnoddau gan CNC, roedden ni’n gweld bod llawer iawn y gallem ni ei wneud yn ymwneud â’r afon. Roedd yn rhaid i ni feddwl yn ofalus am ba agweddau roedden ni am ganolbwyntio arnyn nhw fel ein bod yn gallu meithrin dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth ac nid ehangder gwybodaeth yn unig. Penderfynon ni ar astudio: Nodweddion afonydd (tarddiad, aber, dolennau ac ati); Pwysigrwydd strategol yr Afon Dyfrdwy i anheddau lleol, e.e. Y Fflint a Chaer; Pam bod yr Afon Dyfrdwy mor bwysig? - twristiaeth a chludiant – sydd wedi newid dros amser. Mae afonydd yn ffurfio cynefin ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt; mae rhai o’n hafonydd yn cael eu llygru o ganlyniad weithgareddau dynol, a gallwn leihau llygredd yn ein hafonydd.
“Roedden ni eisoes wedi nodi rhai cysyniadau allweddol ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad roedden ni am eu cynnwys o fewn y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol gyfan. Fe wnaethon ni nodi sut y gellid ymgorffori’r datganiadau beth sy’n bwysig o ran Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, Rhifedd, Y Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles, ond ar gyfer yr uned waith hon, roeddem yn canolbwyntio’n bennaf ar feysydd Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a’r cysyniadau canlynol yn benodol:
- Dyniaethau 10. Cynefin – ymdeimlad o le a pherthyn
- Dyniaethau 11. Tirluniau ac amgylcheddau lleol
- Dyniaethau 14. Newid hinsawdd a’r argyfwng natur
- Dyniaethau 15. Y rhyngberthynas rhwng pobl a’r byd naturiol
- Dyniaethau 19: Sut mae ein hanes yn effeithio ar ein dealltwriaeth o’r presennol a’n hunaniaeth
- Dyniaethau 18. Prosesau ffisegol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 12. Amrywiaeth pethau byw, esblygiad a detholiad naturiol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 14: Effaith pobl ar y byd naturiol”
“Wedi i ni benderfynu mai’r rhain oedd y cysyniadau allweddol ar gyfer yr uned waith hon, edrychodd yr athrawon ar y disgrifiadau dysgu ar gyfer Cam Cynnydd 2 Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau i gael syniad bras o ba lefel i osod eu hastudiaeth. Roedden nhw'n cydnabod bod amrywiaeth eithaf eang o gyrhaeddiad blaenorol yn y garfan honno felly byddai’n rhaid iddyn nhw addasu eu cymorth a’u her yn unol â hynny.”
“Fe wnaethom ni rannu ein hastudiaeth o’r Afon Dyfrdwy yn dair rhan sef afonydd fel cynefinoedd naturiol, afonydd fel cyrchfannau twristiaeth a sut mae’r Afon Dyfrdwy wedi bod yn bwysig ers i bobl sefydlu yma.”
“Ar ôl paratoi grid KWL (K = i bennu beth maen nhw’n ei wybod; (W = beth maen nhw eisiau ei wybod, ac L = beth maen nhw wedi ei ddysgu), dechreuodd y plant astudio’r pwnc gydag ymweliad gan Dŵr Cymru i ddysgu am bwysigrwydd arbed dŵr. Gwnaethon nhw ddysgu sut i ddarllen map a dysgu am gwrs yr Afon Dyfrdwy o’i tharddiad i’r môr. Wedyn, fe edrychon nhw ar rai o’r rhywogaethau bywyd gwyllt y bydden nhw’n eu gweld yn y Dyfrdwy a’u cylchred bywyd, cyn edrych ar yr Afon Dyfrdwy yng Nghaer fel cyrchfan i dwristiaid a sut mae pobl yn defnyddio’r Afon Dyfrdwy ar gyfer hamdden. Pan aethon nhw ar eu taith i weld yr Afon Dyfrdwy yng Nghaer, fe wnaethon nhw ddysgu pam yr oedd yr afon mor bwysig i’r Rhufeiniaid, a sut yr oedd barics Deva, lle mae Caer bellach wedi’i sefydlu, yn safle strategol, yn rheoli mynediad i’r môr trwy Afon Dyfrdwy. Fe wnaethon nhw orffen eu huned gwaith trwy drafod eu cyfrifoldeb i helpu cadw’r Afon Dyfrdwy yn iach ac yn rhydd o lygredd.”
“Fe wnaeth y pwnc hwn helpu’r plant i werthfawrogi pwysigrwydd yr Afon Dyfrdwy i bobl ein hardal. Fe wnaethon nhw ddysgu mwy am afonydd yn gyffredinol, ac roedden nhw’n gallu rhoi hyn yn ei gyd-destun gyda’u gwybodaeth am yr Afon Dyfrdwy. Cynorthwyodd y gwaith a gwblhawyd gan y plant dros y tymor iddynt ddatblygu ym mhob un o bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Blwyddyn 5: Llwybr Arfordir Cymru
“Treuliodd 73 o ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 naw wythnos yn astudio ‘Llwybr Arfordir Cymru’. Roedden ni eisiau i’r plant wybod mwy am Lwybr Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd ond i wybod mwy hefyd am ein hardal ni. Roedden ni eisiau i’r plant ddysgu am ddaearyddiaeth Cymru gyfan drwy astudio Llwybr Arfordir Cymru. Yn olaf, roedden ni eisiau i’r plant wybod am y bywyd gwyllt y gellid ei weld ger y rhan Lwybr Arfordir Cymru yn y gogledd, a sut mae gwahanol grwpiau o bobl yn defnyddio’r llwybr. Rhannwyd yr uned yn ddwy ran. Fe wnaethon ni gynnwys cwestiynau fel:
- Beth yw pwrpas Llwybr Arfordir Cymru?
- I ble mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd?
- Pwy sy’n defnyddio Llwybr Arfordir Cymru yn Sir y Fflint?
- Pa fywyd gwyllt sydd i’w weld ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?”
“Nodwyd sut gallai hyn gyd-fynd â’r datganiadau beth sy’n bwysig ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad. Fel yr uned waith Blwyddyn 3 yn ymwneud â’r Afon Dyfrdwy, roedd pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cael ei gynnwys, ond roedd yr uned yn seiliedig yn bennaf ar y Dyniaethau, Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu. Dysgodd y plant am drywydd y llwybr a, thrwy hynny, am siroedd Cymru. Dysgodd y plant enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg o amgylch y llwybr a gwnaethon nhw gwblhau tasgau mathemategol yn ymwneud â hyd y gwahanol rannau o Lwybr Arfordir Cymru. Cafwyd cyfle i gyfrifo pa mor bell y byddai’n rhaid iddyn nhw gerdded rhwng dau leoliad a pha mor hir y gallai gymryd iddyn nhw gwblhau pob rhan. Bu cyfle hefyd i edrych ar gostau trefnu taith rhwng un rhan o’r Llwybr a’r llall gan gynnig cyfle i ymarfer eu sgiliau rhifedd.”
“Daeth yr arlunydd lleol Nicky Humphries (yn y llun gyda’r plant) i’r ysgol i weithio gyda’r plant i greu gwaith celf am y bywyd gwyllt y gellir ei weld o Lwybr Arfordir Cymru, a chafodd y gwaith ei arddangos yn Llyfrgell Y Fflint.”
“Cynlluniwyd taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer y plant er mwyn iddyn nhw gael cyfle i wneud gwaith maes. Roedden ni am eu cerdded o Bagillt i dref Fflint ar hyd y llwybr, gan orffen yng Nghastell y Fflint. Fodd bynnag, wrth gynllunio’r daith, fe wnaethon ni ddarganfod nad oedd mynediad i bobl anabl yn dda iawn, ac roedd hyn yn hanfodol ar gyfer ein grŵp. Nododd y plant bod rheolwyr y llwybr wedi ceisio gwneud y llwybr mor hygyrch â phosibl a’u bod yn falch bod rhannau sylweddol yn cynnig mynediad i bawb ond nad ydy defnyddwyr cadair olwyn a rhieni â phram yn gallu cael mynediad i bob rhan. Roedd yna broblem o ran arwyddion a osodwyd i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond sy’n rhwystro defnyddwyr cadair olwyn a phram rhag cael mynediad. Mae hyn hefyd yn gallu ei gwneud hi’n anodd i feicwyr. Cafodd y plant drafodaethau diddorol iawn ar y problemau hyn ac fe ddangoson nhw sut maen nhw’n dod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru trwy eu trafodaethau am fynediad i Lwybr Arfordir Cymru. Cyflwynwyd nifer o sylwadau dilys a synhwyrol, gan gytuno yn y pen draw y dylid gosod yr arwyddion mewn ardaloedd gyda llawer o broblemau, ond na ddylid eu gosod ar bob rhan, fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn ac ati yn gallu defnyddio cymaint o’r llwybr â phosibl.”
I grynhoi
“Roedd y gweminarau hyfforddiant a dderbyniwyd gan CNC yn bwysig iawn. Roedd derbyn y recordiad o’r sesiynau yn ddefnyddiol iawn i’r athrawon gyfeirio atyn nhw. Cawsom hefyd ddogfennau’n cynnwys dolenni defnyddio. Roedd hyn yn eithriadol o ddefnyddiol ac yn arbed amser. Mae’r adnoddau ar wefan CNC yn ardderchog hefyd ac fe ddefnyddiodd y plant, yn enwedig felly Blwyddyn 5, y rhain yn eang.”
“Dyniaethau oedd y prif Faes Dysgu a Phrofiad ar gyfer y ddwy uned waith ond fe gyfeiriwyd at bob un o’r chwe Maes Profiad a Dysgu hefyd. Cyflwynodd y plant ym mhob grŵp blwyddyn waith ysgrifennu a chyflwyniadau PowerPoint a oedd yn rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu. Dyma’r tro cyntaf i ni wneud yr unedau gwaith hyn ac mae’r athrawon eisoes wedi ystyried sut y byddai modd g wella’r unedau y tro nesaf y byddan nhw’n eu defnyddio gyda’r plant. Bydd dysgwyr Blwyddyn 3 yn dysgu mwy am y RNLI, gan fod gorsaf bad achub yn y Fflint, a bydd Blwyddyn 5 yn mentro i Talacre i ddysgu sut mae’r arfordir (a Llwybr Arfordir Cymru) yn wahanol i’r arfordir yn ardal y Fflint. Byddwn yn parhau i wella’r unedau wrth eu defnyddio.”