Grant adfer mawndiroedd 2025

Er mwyn gwrthdroi colli cynefinoedd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru, mae gennym grantiau adfer mawndiroedd rhwng £10,000 a £250,000 ar gael.  

Bydd y grant datblygu yn galluogi unigolion a sefydliadau i gyflawni prosiectau adfer mawndiroedd yn ystod Mai 2025 – Mawrth 2026.

Blaenoriaethau’r prosiect

Bydd angen i bob prosiect fynd i’r afael ag un neu fwy o flaenoriaethau’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:

  • Erydiad ar fawndiroedd
  • Draeniad mewn mawndiroedd
  • Rheoli gorgorsydd mawn yn gynaliadwy
  • Rheoli mawndiroedd yr iseldir yn gynaliadwy
  • Adfer mawndiroedd a goedwigwyd
  • Gwaith adfer graddol ar y mawndiroedd sy’n rhyddhau’r mwyaf o garbon

Rhaid i'r mawndir hefyd fod yng Nghymru - ar gyfer unrhyw gynigion trawsffiniol, byddwn yn ystyried y rhan sydd yng Nghymru yn unig.

Yn y pen draw, bydd prosiectau a ariennir gan grant yn cyfrannu at y targed presennol o 1800ha o weithgarwch adfer yng Nghymru bob blwyddyn.

Pwy all wneud cais

  • Unigolion
  • Sefydliadau’r sector cyhoeddus
  • Elusennau cofrestredig
  • Prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill a sefydliadau ymchwil
  • Sefydliadau’r trydydd sector
  • Sefydliadau’r sector preifat

Rhaid i’r prif ymgeiswyr:

  • ddangos tystiolaeth eu bod wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir yn ystod y degawd diwethaf, neu
  • ddarparu cadarnhad o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o adfer mawndiroedd ar lawr gwlad - ac sy'n gallu darparu cymorth technegol

Faint y gallwch wneud cais amdano

Gallwch wneud cais am rhwng £10,000 a £250,000 o gyllid. Dylid gwario o leiaf 30% o’r grant erbyn 20 Mawrth 2024.

Gallwch ofyn am hyd at 100% o gostau eich prosiect.

Byddwn yn ystyried gwerth am arian pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio arian cyhoeddus i gyflawni ein polisi. 

Byddwn ein hystyriaeth o arian cyfatebol yn ffafriol. Gall arian cyfatebol gynnwys:

  • cyfraniad arian parod
  • amser gwirfoddolwyr
  • amser staff

Gwario a hawlio

Rhaid i ymgeiswyr wario a hawlio 100% o werth y grant erbyn 31 Mawrth 2026. Ni chewch gario arian heb ei wario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf. 

Y dyddiad olaf ar gyfer hawlio fydd 31 Mawrth 2026. 

Pryd y gallwch wneud cais

Rydym yn derbyn ceisiadau o 18 Rhagfyr 2024.

Rhaid i chi wneud cais cyn hanner nos ar 18 Mawrth 2025.

Ein nod yw rhoi penderfyniad i chi ar eich cais erbyn mis Mai 2025.

Sut i wneud cais

Bydd arnoch angen cyfeirnod i'w ychwanegu at eich cais am grant.


Sut i wneud cais ar-lein.

Ar beth gewch chi wario’r grant

Cewch wario ein grant cyflawni gwaith adfer mawndir ar y canlynol:

  • costau swyddi prosiect uniongyrchol, offer, contractwyr ac ymgynghorwyr, ffioedd proffesiynol untro sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chostau prosiect
  • costau staff yn ymwneud â chyflawni gwaith adfer cyfalaf
  • costau rhwydweithio i gysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, er enghraifft llogi lleoliad neu deithio
  • gorbenion - rydym yn defnyddio cyfradd unffurf o 15% o gostau staff prosiect uniongyrchol ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau - ond byddwn hefyd yn derbyn Adennill Costau Llawn cyhyd ag y dangosir hynny gyda thystiolaeth lawn. Costau staff y prosiect, hynny yw staff y mae’r ymgeisydd yn eu cyflogi - nid staff y mae contractwyr yn eu cyflogi

Mae taliadau iawndal y gymwys o dan y cyllid y grant hwn 

Mae CNC yn darparu canllawiau ar gyfer y cyd-destun canlynol: 

  • Yr arwynebedd sy’n gymwys ar gyfer taliadau iawndal yw 5m y naill ochr i ffos wedi’i blocio ar orgors yr ucheldir sy’n cael ei rheoli ar hyn o bryd ar gyfer amaethyddiaeth ac sydd wedi’i dynodi’n SoDdGA a/neu ACA. 
  • Taliad untro o £660/ha yw hwn a dylid ei wneud yn yr un flwyddyn ag y gwneir y gwaith adfer. Mae’r cyfradd yma yn amodol ar adolygiad. 
  • Os ceisir taliadau iawndal ar gyfer gwahanol gyd-destunau, dylid rhoi cyfiawnhad i CNC adolygu fel rhan o’r broses ymgeisio am grant. Fe’ch cynghorir i drafod gyda CNC cyn y broses ymgeisio ffurfiol.
  • Dim ond ar gyfer gwariant a dynnir drwy gytundeb ffurfiol rhwng dau barti y gellir gwneud taliadau.
    h.y. lle bu’n rhaid i chi dalu iawndal i eraill. 

Gweithgareddau y gallwch eu cynnwys yn eich cais

Gall eich cais gynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • gweithgareddau adfer sy’n mynd i’r afael ag un neu fwy o themâu blaenoriaeth y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
  • gwelliannau mynediad er mwyn galluogi peiriannau i gyrraedd y safle, hyd at uchafswm gwerth o 15% o gyfanswm cost y prosiect
  • gwaith arolygu a mapio’r safle er mwyn dylunio ymyriadau (yn hytrach na monitro cyffredinol ac arolygon o gynefinoedd)
  • ymgysylltu â rheolwyr neu neu berchnogion tir
  • cwmpasu a chael caniatâd
  • gwaith dylunio technegol
  • costio dyluniad y gwaith adfer
  • datblygu manyleb sy’n barod i fynd i dendr

Yr hyn na allwch chi wario’r grant arno

Ni allwch wario grant Cyfoeth Naturiol Cymru ar y canlynol:

  • Costau refeniw (hynny yw, nad ydynt yn ymwneud â chyflawni cyfalaf)
  • Adfer cyfalaf nad yw'n cyflawni blaenoriaethau adfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
  • Gwaith arolygu neu fonitro nad yw’n gysylltiedig â’r gwaith adfer cyfalaf a gynigiwyd
  • Clirio coed neu brysgwydd lle nad oes unrhyw gamau rheoli cynaliadwy eraill megis newidiadau i hydroleg neu bori hefyd yn cael eu gweithredu
  • Prynu offer megis coleri System Leoli Fyd-eang (GPS), ffensys neu seilwaith pori heb fod yn ffyddiog y cânt eu defnyddio wedyn, er enghraifft drwy gytundeb pori.
  • Llwybrau pren
  • Paneli gwybodaeth mewn safleoedd ymwelwyr
  • Ariannu gweithgareddau craidd eich sefydliad
  • Gwaith rheoli neu gynnal a chadw parhaus
  • Gwaith y tu allan i Gymru
  • Ariannu gweithgareddau masnachol neu sy’n creu elw
  • Costau cynnal a chadw ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Cynlluniau lle mae gwaith wedi’i gwblhau neu ar y gweill
  • Astudio personol neu er mwyn ennill cymwysterau academaidd neu broffesiynol fel unigolyn
  • Gwaith sydd o fewn cylch gwaith statudol CNC
  • Er mwyn ariannu rhaglenni grant
  • TAW: dylai’r costau eithrio unrhyw Dreth ar Werth y gellir ei adennill
  • Gweithgarwch y mae gennych neu y bydd gennych ddyletswydd i’w gyflawni drwy amodau cynllunio
  • Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer unrhyw brosiect lliniaru/iawndal oherwydd difrod i fawndiroedd mewn mannau eraill

Ni chewch dderbyn y cyllid hwn ar y cyd ag unrhyw gynlluniau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r un canlyniadau, er enghraifft Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cynefin Cymru Glastir. 

Yr hyn y bydd angen i dderbynwyr y grant ei ddarparu

Ar gyfer prosiectau dichonoldeb, byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr am grant:

  • fod yn hyderus bod ardal eu prosiect arfaethedig ar fawn. Dylai map Mawndir Cymru eich helpu gyda hyn. Os nad yw ardal eich prosiect wedi’i nodi fel mawndir ar y map hwn ar hyn o bryd, rhowch fanylion yn eich cais am yr ardal a pham eich bod o’r farn ei fod yn fawndir y mae angen ei adfer.
  • nifer yr hectarau o waith adfer a ddisgwylir h.y. ar y ffordd i fod wedi’u hadfer

Ar gyfer prosiectau cyflawni, dylai derbynwyr grant allu mesur a darparu:

  • nifer yr hectarau o waith adfer a ddisgwylir h.y. ar y ffordd i fod wedi’u hadfer
  • cofnodion GIS o unrhyw ddata ar ddyfnder mawn
  • cofnod System Gwybodaeth Ddaearyddol o'r holl ymyriadau (yn unol â phrotocolau adrodd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r hectarau a ddisgwylir eu hadfer fel rhan o'ch cais (yn yr adran 'disgrifiad o'r prosiect' ar y ffurflen gais).

Caniatâd neu gydsyniad arall

Os oes angen trwydded, cydsyniad neu unrhyw fath arall o ganiatâd oddi wrthon ni, bydd angen i chi gwblhau hyn yn ogystal â’r cais hwn am gyllid. Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o amser ar gyfer hyn yn eich cynllun prosiect ar gyfer grant.

Dylech fod wedi cael, neu wneud cais am ganiatadau neu gydsyniadau perthnasol cyn i chi wneud cais. Os nad oes gennych gydsyniadau ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, bydd angen cynllun arnoch i sicrhau eich bod yn eu cael o fewn yr amserlenni gofynnol.  

Sut ydym yn sgorio ceisiadau

Sut ydym yn sgorio ceisiadau am grantiau cystadleuol i ddatblygu mawndiroedd.

Opsiynau eraill am gyllid

Os oes gennych ddiddordeb mewn adfer mawndir ond nad yw’r grant hwn yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â ni yn npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf