Gyngor Dinas Caerdydd - Trosglwyddiad ar gyfer Tynnu a Chronni Dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Gyngor Dinas Caerdydd am drwydded i drosglwyddo dŵr o Nant Glandulas yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 20615 80760 ar gyfer ei drosglwyddo i Lyn Pentwyn yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 20668 80722 , yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 3.96 metr ciwbig yr awr, 95.04 metr ciwbig y dydd a 34,689.6 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.
Bydd y dŵr yn cael ei dynnu ar gyfer ei drosglwyddo rhwng y ffynonellau cyflenwi y cyfeirir atynt isod heb ddefnydd rhyngol.
Gwneir cais hefyd am drwydded i rwystro neu atal llif Llyn Pentwyn yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 20789 80653 ym Mhentwyn, Caerdydd. Diben cronni dŵr drwy wneud y gwaith yw cynnal lefel y llyn.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN—024224 and PAN-024225 wrth Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Trwyddedu, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 14/06/2024 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).