Drwy'r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am eich barn ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i fap prif afonydd Cymru drwy israddio rhan o Nant Morfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ein bwriad yw clywed eich barn a chanfod a ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig.

O dan Ddeddf Dŵr 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gynnal a diweddaru map prif afonydd Cymru.  Diffinnir prif afon fel yr un a gynhwysir ar y map prif afonydd, y gellir ei gweld yma: Mapiau perygl llifogydd.  Os yw cwrs dŵr wedi'i ddynodi'n brif afon, bydd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i arfer pwerau yn uniongyrchol arno.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 5yp ar 21 Mehefin 2019, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

E-bost:

main.river.enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

neu trwy'r

Post:

Cydlynydd Prif Afonydd

Rheoli Risg Llifogydd a Gweithredol
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP

Cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad

Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad yn dilyn yr ymgynghoriad ar ein gwefan erbyn 2 Awst 2019.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ymgynghoriad ar newidiadau i fap prif afonydd Cymru Manylion yr ymgynghoriad WORD [891.8 KB]