Dyma estyniad arfaethedig i AGA bresennol Skokholm a Skomer, sydd eisoes wedi ei dynodi er mwyn gwarchod nythfeydd magu adar môr o bwys rhyngwladol, yn enwedig y boblogaeth anferth o adar drycin Manaw sydd yn magu yma, yn ogystal â niferoedd mawr o balod a gwylanod cefnddu lleiaf, ac amryw o rywogaethau eraill. Mae’r AGA arfaethedig yn cynnwys yr ynysoedd eu hunain, y dyfroedd sydd yn eu hamgylchynu yn ogystal ag ardal helaeth o fôr sydd yn ymestyn o arfordir Penfro tua’r gorllewin i’r Môr Celtaidd, gan gynnwys dyfroedd y DU y tu hwnt i derfyn 12 milltir fôr Môr Tiriogaethol Cymru. Mae'r safle arfaethedig yma yn argymhelliad ar y cyd gan CNC a’r JNCC i Lywodraethau Cymru a'r DU.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Amcanion cadwraeth drafft PDF [188.7 KB]
Map PDF [14.6 MB]
Asesiad Effaith Drafft PDF [315.7 KB]