Mae AGA arfaethedig Anglesey Terns / Morwenoliaid Ynys Môn yn ymestyn o amgylch y rhan fwyaf o arfordir dwyreiniol, gogleddol a gorllewinol Ynys Môn, yn gyffredinol o’r marc penllanw cymedrig allan i rhwng 10 a 20 km o’r lan. Fe’i cynigir fel estyniad morol i’r AGA bresennol a ddynodwyd yn 1992 er mwyn gwarchod safleoedd nythu morwenoliaid ar Ynys Feurig, Bae Cemlyn ac Ynysoedd y Moelrhoniaid, er mwyn cynnwys yr ardal forol a ddefnyddir gan forwenoliaid i chwilota am fwyd yn ystod y tymor magu. Ni chynigir gwarchod unrhyw rywogaethau ychwanegol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map PDF [4.1 MB]
Asesiad Effaith Drafft PDF [258.7 KB]