Deddf Llwgrwobrwyo 2010

Cyflwynodd Deddf Llwgrwobrwyo 2010 droseddau a chosbau newydd ar gyfer llwgrwobrwyo a llygredd. Creodd drosedd gorfforaethol hefyd sef methiant i atal llwgrwobrwyo, sy'n gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru  weithredu gweithdrefnau digonol i atal sefyllfaoedd o'r fath rhag digwydd.

Mae llwgrwobrwyo'n drosedd a gall y cosbau a gwmpesir gan y ddeddf olygu hyd at 10 mlynedd o garchar. Mae cosbau ychwanegol yn cynnwys y posibilrwydd o ddirwy ddiderfyn ac atafaelu asedau. Gallai methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llwgrwobrwyo olygu bod y sefydliad yn atebol yn droseddol a bod dirwy sylweddol yn cael ei rhoi.

Diffiniad o lwgrwobrwyo

Mae llwgrwobrwyo yn golygu rhoi neu dderbyn mantais mewn cysylltiad â "pherfformiad amhriodol" swydd gyfrifol, neu swyddogaeth y disgwylir iddi gael ei chyflawni’n ddiduedd neu mewn ewyllys da:

  • i neu gan unrhyw unigolyn
  • gan aelod o staff, staff anweithredol (h.y. aelodau bwrdd), contractwyr, cleientiaid neu unrhyw unigolyn arall sy'n gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • i ennill unrhyw fantais fasnachol neu gytundebol mewn ffordd anfoesegol.
  • i ennill unrhyw fantais bersonol, ariannol neu fel arall, i'r unigolyn neu unrhyw sy'n gysylltiedig â'r unigolyn

Nid oes rhaid i lwgrwobrwyo gynnwys arian parod na chyfnewid taliad gwirioneddol a gall fod ar sawl ffurf megis rhodd, triniaeth foethus yn ystod taith fusnes neu docynnau i ddigwyddiad.

Mae llwgrwobrwyo'n drosedd a gall y cosbau a gwmpesir gan y ddeddf olygu hyd at 10 mlynedd o garchar. Mae cosbau ychwanegol yn cynnwys y posibilrwydd o ddirwy ddiderfyn ac atafaelu asedau. Gallai methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llwgrwobrwyo olygu bod y sefydliad yn atebol yn droseddol a bod dirwy sylweddol yn cael ei rhoi.

Ymrwymiad Cyfoeth Naturiol Cymru i chi

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi unrhyw un sy'n codi pryderon gwirioneddol didwyll o dan y polisi hwn, hyd yn oed os canfyddir nad oeddent yn gywir.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i sicrhau na fydd unrhyw un yn dioddef triniaeth andwyol o ganlyniad i wrthod cymryd rhan mewn llwgrwobrwyo neu lygredd, neu o ganlyniad i adrodd ei amheuon didwyll fod trosedd o lwgrwobrwyo gwirioneddol neu bosibl wedi digwydd, neu fod posibilrwydd iddi ddigwydd.

Byddwn yn ymchwilio i unrhyw achos o rwystro neu atal rhywun rhag adrodd yn yr amgylchiadau hyn, ac yn ymdrin ag ef yn unol â Pholisi a Gweithdrefn Rheoli Camymddwyn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cwmpas y polisi

Mae'r polisi hwn yn gymwys i'r holl aelodau staff, staff anweithredol (h.y. aelodau bwrdd), contractwyr, cleientiaid neu unrhyw unigolyn arall sy'n gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfrifoldebau

Mae pob aelod o staff neu unigolion sy'n gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am lwyddiant y polisi hwn.

Caiff unrhyw achos o fethu â chydymffurfio ei drin fel trosedd ddisgyblaethol a gallai arwain at ddwyn achos troseddol.

Cyfrifoldebau staff

  • Dylech adrodd unrhyw bryderon neu amheuon ar unwaith drwy eich cadwyn rheoli llinell ac yn uniongyrchol i'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol.
  • Os yw eich amheuon yn cynnwys eich rheolwr llinell neu'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol, neu os nad ydych yn teimlo bod eich cyhuddiad yn derbyn sylw priodol, mae'n rhaid i chi ei uwchgyfeirio i fyny'r gadwyn rheoli llinell neu gyfeirio at ein polisi chwythu'r chwiban.
  • Sicrhewch eu bod wedi darllen a deall eu cyfrifoldebau dan y canlynol:
    • Y cod ymddygiad
    • Polisi rhoddion a lletygarwch
    • Polisi gwrthdaro buddiannau
  • Byddwch yn effro i'r posibilrwydd y gallai digwyddiad neu drafodyn anarferol fod yn arwydd o lwgrwobrwyo a/neu lygredd
  • Cydweithiwch yn llawn â phwy bynnag sy'n cwblhau gwiriadau mewnol, adolygiadau neu ymchwiliadau llwgrwobrwyo a llygredd
  • Cwblhewch bob hyfforddiant gorfodol yn ôl y cyfarwyddyd

Cyfrifoldebau’r rheolwr llinell

Yn ogystal â'i gyfrifoldebau fel y'u nodwyd uchod, rhaid i bob rheolwr llinell wneud y canlynol:

  • Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer ei staff er mwyn adrodd unrhyw bryderon am lwgrwobrwyo neu lygredd
  • Asesu'r mathau o risgiau mewn perthynas â'i faes cyfrifoldeb a sicrhau bod rheolaethau'n gymesur ac y cydymffurfir â hwy
  • Adolygu a phrofi'r holl reolaethau sy'n berthnasol i'w faes gwaith yn rheolaidd, yn gymesur â lefel y risg
  • Sicrhau bod pawb sy'n atebol yn uniongyrchol iddo wedi darllen a deall y polisi hwn
  • Sicrhau bod pawb sy'n atebol yn uniongyrchol iddo'n cwblhau eu hyfforddiant gorfodol yn ôl y cyfarwyddyd

Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol a'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol yn darparu cyngor ac arweiniad i reolwyr llinell fel y bo'n briodol.

Cyfrifoldebau’r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol

Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer adrodd unrhyw bryderon am weithgarwch twyllodrus

Cysylltu â staff perthnasol mewn perthynas ag unrhyw gyhuddiadau

Darparu cyngor yn ôl yr angen er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi gwrth-lwgrwobrwyo a gwrthlygredd

Adolygu'r polisi gwrth-lwgrwobrwyo a gwrthlygredd a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig pan fydd newidiadau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodloni ei ofynion deddfwriaethol

. Cofnodi a chadw trosolwg o bob achos lle ceir amheuaeth o lwgrwobrwyo, gan sicrhau yr hysbysir y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) am bob achos yn gyson gan gynnwys unrhyw ddatblygiadau

Llunio adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru.

Cyfrifoldebau'r Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Adolygu pob achos honedig o lwgrwobrwyo a llygredd

Cymeradwyo unrhyw waith angenrheidiol i benderfynu a yw'n ofynnol cynnal ymchwiliad ffurfiol

Cymeradwyo cychwyn pob ymchwiliad ffurfiol a chymeradwyo dod ag unrhyw ymchwiliad ffurfiol i ben

Cyfrifoldeb dros y polisi gwrth-lwgrwobrwyo a gwrthlygredd

Mae'r Swyddog Cyfrifyddu'n gyfrifol am sefydlu'r system reolaeth fewnol sydd wedi'i dylunio i wrthsefyll y risgiau y mae'r busnes yn eu hwynebu. Mae'n atebol am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn.

. Mae'r Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi hwn yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol. Mae hefyd yn gyfrifol am weithredu'r polisi hwn, monitro'i effeithiolrwydd a sicrhau bod pwynt cyswllt yn ei le er mwyn ymdrin ag unrhyw ymholiadau mewn perthynas â dehongli'r polisi.

Adrodd amheuon neu bryderon

Gallwch adrodd amheuon a phryderon yn uniongyrchol i'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol drwy ffonio, e-bost neu lythyr fel a ganlyn:

Rhif ffôn:
07976814886

E-bost:
cfbc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyfeiriad:
Tîm Llywodraethu Ariannol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR

Diweddarwyd ddiwethaf