Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr SWE24-008: Ynyslas

Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.

Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 7 Gorffennaf 2024

Teitl y lleoliad:

SWE24-008 Ynyslas

Lleoliad:

Ynyslas

Swyddfa/Depo:

Canolfan Ymwelwyr Ynyslas

Dyddiad dechrau:

Dydd Llun 22 a dydd Llun 29 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen:

Dydd Gwener 26 Gorffennaf a dydd Gwener 2 Awst 2024

Oriau’r lleoliad:

9am - 5pm

Nifer y lleoliadau sydd ar gael:

2

Lefel y Lleoliad:

Israddedig

Lefel A/AS neu gyfwerth

TGAU neu gyfwerth

Pawb 15+

 

Unrhyw un 16+ oed

Y Gymraeg:

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg

Gwybodaeth Ychwanegol

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gwiriadau diogelwch safle
  • Codi sbwriel
  • Monitro bywyd gwyllt
  • Cyfarch a dosbarthu gwybodaeth iechyd a diogelwch/safle i ymwelwyr
  • Gwerthu nwyddau trwy'r til yn y Ganolfan Ymwelwyr
  • Ailstocio
  • Glanhau
  • Staffio'r giât a chymryd taliadau ar gyfer y maes parcio
  • Cynorthwyo grwpiau/unrhyw ymwelwyr sydd angen cymorth

Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio

Hannah (Swyddog Canolfan Ymwelwyr) ac Andrea, Roger, Helen a Katja (staff y Ganolfan Ymwelwyr). Justin (rheolwr tir) o bosibl am ddiwrnod neu ddau.

Ble byddwch chi'n gweithio

Canolfan Ymwelwyr Ynyslas a'r warchodfa ehangach

Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad

Mae Ynyslas yn lleoliad agored iawn, mae'n mynd yn boeth yn ystod misoedd yr haf ac ychydig iawn o gysgod sydd yno. Rydym yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd heblaw’r tywydd mwyaf eithafol, ond yn sicrhau bod staff yn cael seibiant digonol bob dydd. Rydym hefyd yn gwneud gwaith corfforol ysgafn fel codi sbwriel (weithiau bydd eitemau trwm yn cael eu golchi i’r lan ar y traeth ac mae angen i ni ddod â nhw’n ôl i’r ganolfan i’w gwaredu’n ddiogel), ysgubo, rhawio tywod oddi ar y grisiau, symud byrddau a chadeiriau a thorri llystyfiant yn ôl.

Bydd angen esgidiau cryf, het haul, eli haul, dillad addas ar gyfer gweithio yn yr awyr agored, pecyn bwyd a photel ddŵr.

 

Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad

Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30/06/2024

Cyflwyno eich cais

Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod

Ffurflen gais

Ffurflen monitro cydraddoldeb

I wneud cais: anfonwch eich Ffurflen Gais wedi’i chwblhau a’ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb i lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Am ragor o fanylion: cysylltwch â Rheolwr y Lleoliad.

Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Diweddarwyd ddiwethaf