Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cerdded

Darganfod ble gallwch chi gerdded yng Nghymru a pha wybodaeth y gallwch ei chael er mwyn cynllunio eich ymweliad

Two women walking along a trail at Pont Llam yr Ewig, Coed y Brenin Forest Park

Ble galla i gerdded yng Nghymru?

Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, mynd am dro bach hamddenol neu daith gerdded hir, mae cerdded yn ffordd wych o fwynhau’r awyr agored.

Gallwch gerdded mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru, ac mewn llawer iawn o leoedd eraill hefyd.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod ble gallwch chi gerdded.

  • Tir mynediad agored: Gallwch gerdded ble bynnag y mynnwch ar dir sydd wedi cael ei ddynodi’n dir “mynediad agored”. Gall cyfyngiadau fod ar waith ar dir mynediad o dro i dro – oherwydd rhesymau’n ymwneud â rheoli’r tir neu ddiogelwch y cyhoedd
  • Llwybrau cyhoeddus: Mae llwybrau cyhoeddus ym mhob cwr o Gymru. Maen nhw’n cael eu cynnal gan sefydliadau amrywiol, fel awdurdodau lleol, y Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llawer o berchnogion tir eraill
  • Hawliau tramwy cyhoeddus eraill: Gallwch gerdded ar lwybrau ceffylau a chilffyrdd.  Mae’r rhain yn agored i ddefnyddwyr eraill hefyd, fel beicwyr a phobl ar gefn ceffylau
  • Llwybrau hir: Mae gan Gymru lawer o lwybrau hir, gan gynnwys tri Llwybr Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru, llwybr 870 milltir o hyd o amgylch Cymru
  • Coetiroedd a gwarchodfeydd natur cenedlaethol: Gallwch gerdded yn y rhan fwyaf o’r coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae yna lwybrau ag arwyddbyst drwy lawer o’r lleoedd arbennig hyn yn ogystal â chyfleusterau fel canolfannau ymwelwyr a phaneli gwybodaeth i’ch helpu i fwynhau eich ymweliad

I gael mwy o wybodaeth am dir mynediad agored a hawliau tramwy cyhoeddus, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.

Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru

Mae Llwybrau Cenedlaethol yn llwybrau pell drwy rai o’r tirweddau gorau yng Nghymru a Lloegr.

Mae tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru:

  • Llwybr Glyndŵr
  • Llwybr Clawdd Offa
  • Llwybr Arfordir Sir Benfro

Er mwyn cael gwybodaeth am bob llwybr a chynllunio eich taith, edrychwch ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.

Llwybr Arfordir Cymru

O gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de, mae Llwybr Arfordir Cymru’n darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Llwybrau cerdded i gestyll, eglwysi a chapeli

Mae gwefan Croeso Cymru’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gerdded, gan gynnwys 10 o’r llwybrau cerdded a’r llwybrau beicio gorau er mwyn gweld cestyll, eglwysi a chapeli.

Gallwch hefyd weld y llwybrau yma ar wefan cynllunio a rhannu llwybrau ar-lein Trailzilla.

Cerdded mewn coetiroedd a gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae pob cofnod yn yr adran lleoedd i fynd iddyn nhw ar y wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am lwybrau cerdded yn y coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os oes gennych chi ffôn clyfar, gallwch lawrlwytho’r ap PlacesToGo yn rhad ac am ddim. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob un o’r llwybrau cerdded hyn ac am gyfleusterau hamdden.

Beth am lwybrau cerdded hygyrch?

Mae rhai o’r llwybrau cerdded sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

Ar gyfer pob un o’r llwybrau hyn, mae yna ddolen gyswllt sy’n eich cyfeirio o’r map MyRec at wybodaeth ynglŷn â hygyrchedd ar wefan y sefydliad sy’n rheoli’r llwybr.

Ble mae’r llwybrau hygyrch yn y coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae rhai o’r llwybrau cerdded yn y coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

Cewch grynodeb isod o’r llwybrau sy’n addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn – cliciwch ar y dolenni cyswllt i gael mwy o wybodaeth am bob lle.

  • Coedwig Brechfa, ger Caerfyrddin: Mae’r llwybr cerdded 450 metr o hyd o faes parcio Gwarallt wedi cael ei gynllunio ar gyfer cadeiriau olwyn, ond mae’n cynnwys un rhan sy’n mynd ar i fyny’n raddol am 100 troedfedd (30 metr)
  • Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nantyrarian, ger Aberystwyth: Mae’r llwybr o amgylch y llyn yn addas i gadeiriau olwyn. Mae’n bosibl defnyddio cadair olwyn yn y ganolfan ymwelwyr a’r caffi hefyd ac mae toiledau hygyrch a dolen sain yn y caffi
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau: Mae’r ddau lwybr cylchol byr sy’n cychwyn yn y maes parcio yn wastad ac yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae’n bosibl defnyddio cadair olwyn yn y ganolfan ymwelwyr a’r caffi, ac mae yna lifft i fynd i’r arddangosfa a thoiledau hygyrch
  • Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau: Mae nifer o lwybrau cerdded sy’n addas i bobl o bob gallu ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. Mae’r rhain yn cynnwys llwybr ar hyd glan yr afon a llwybr i waith copr Glasdir. Mae yno hefyd lwybr beicio mynydd sy’n addas i feiciau wedi’u haddasu. Gallwch hurio beiciau o’r fath o’r siop feiciau sydd ar y safle. Mae yna lifft yn y ganolfan ymwelwyr, ynghyd â thoiledau hygyrch a dolen sain
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber, ger Bangor: Mae’r prif lwybr o faes parcio Bont Newydd i’r Rhaeadr Fawr yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae pob giât mochyn yn agor yn llydan gan fod clo RADAR wedi’i osod arnyn nhw ac mae yna doiledau hygyrch yn y maes parcio
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron: Mae’r llwybr pren cylchol o amgylch y gors yn gwbl hygyrch ac mae lleoedd pasio a gorffwys ar y ffordd.  Mae yna doiledau hygyrch yn y prif faes parcio
  • Cwm Rhaeadr, ger Llanymddyfri: Mae’r llwybr hwn yn addas i bobl o bob gallu. Mae’n mynd drwy’r coetir a heibio dau lyn. Mae’n addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn
  • Craig y Ddinas, ger Castell-nedd: Mae’r llwybr byr ar hyd glan yr afon drwy geunant coediog cul ac at y rhaeadrau’n addas i gadeiriau olwyn cryf. Mae toiledau hygyrch ym maes parcio Cwm Porth
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, ger Aberystwyth: Mae yma faes parcio ar gyfer ymwelwyr anabl a gallwch fynd dros y tywod (ar hyd trac arwyneb caled a ramp pren sy’n addas i gadeiriau olwyn) i Ganolfan Ymwelwyr Ynys-las.  Mae’r toiledau sydd yn y ganolfan ymwelwyr yn hygyrch
  • Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudfu: Mae llwybr cylchol hanner milltir (un cilometr) o hyd yn cychwyn yn y maes parcio, ac mae’n addas i bobl o bob gallu. Mae’n bosibl defnyddio cadair olwyn yn y ganolfan ymwelwyr a’r caffi ac mae yno ddolen sain.  Mae’r toiledau hygyrch yn cynnwys toiled Changing Places (sydd angen allwedd RADAR)
  • Coedwig Hafren, ger Llanidloes: Mae’r llwybr pren sy’n addas i bobl o bob gallu yn mynd ar hyd glan yr afon i lwyfan uwch â mainc bicnic ger Rhaeadr Hafren. Mae’r toiledau i bobl anabl sydd yn y maes parcio ar agor o’r Pasg tan fis Hydref
  • Coedwig Irfon (Pwll Bo), ger Llanwrtyd: Mae’r llwybr ar hyd glan yr afon a thrwy goetiroedd amrywiol yn addas i bawb ac mae nifer o feinciau ar y ffordd
  • Llyn Crafnant, Parc Coedwig Gwydir, ger Llanrwst: Mae Llwybr Afon Crafnant yn addas i bobl o bob gallu, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae yno feinciau ar y ffordd ac mae toiledau hygyrch yn y maes parcio
  • Coedwig Niwbwrch, Ynys Môn: Gallwch ddefnyddio cadair olwyn mewn dwy orsaf ymarfer ar y Llwybr Ymarfer ac mae yna doiledau hygyrch yn y maes parcio
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, ger Casnewydd: Mae’r llwybrau o amgylch y gwelyau cyrs yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn ac mae yna leoedd pwrpasol i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn wrth y sgriniau gwylio ac yn y guddfan. Gallwch ddefnyddio cadair olwyn yn y ganolfan ymwelwyr a’r caffi ac mae yna doiledau ar gyfer pobl anabl. Mae yna hefyd dri sgwter trydan ar gael i’w hurio
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll, ger Penfro: Mae yma lwybr addas wrth y llyn ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, a thoiledau addas i bobl anabl (mae’r cyfleusterau i gyd yn cael eu darparu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar y warchodfa ac sy’n ei rheoli mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru)

Sut alla i gael gwybodaeth am lwybrau sydd wedi cael eu cau neu eu gwyro?

Weithiau mae’n rhaid cau neu wyro hawl dramwy gyhoeddus.

Dylai arwyddion ar y safle ddweud wrthych chi ydy hawl dramwy gyhoeddus ar agor neu wedi cau.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae gwaharddiadau neu gyfyngiadau’n cael eu defnyddio ar dir mynediad agored, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.

Sut alla i gael caniatâd ar gyfer digwyddiad cerdded mewn coetir sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Ewch i Coetiroedd a Chi i ddarganfod sut i gael caniatâd i drefnu digwyddiad cerdded yn un o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.

Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn mynd i gerdded.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.