Beicio mewn ein coetiroedd

Yn y coetiroedd a’r coedwigoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru y mae rhai o’r llwybrau beicio mynydd enwocaf yng Nghymru – edrychwch ar ein tudalen beicio mynydd i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych chi’n chwilio am lwybr beicio mwy hamddenol, gallwch feicio ar unrhyw ffordd goedwig.

Mae llwybrau beicio neu gyfleusterau eraill ar gyfer beicio yn y coetiroedd a’r coedwigoedd hyn:

  • Coed Nercwys, ger yr Wyddgrug. Mae yma rwydwaith da o ffyrdd gweddol wastad sy’n caniatáu mynediad ar droed, ar gefn ceffyl neu ar feic drwy’r coetir conwydd hwn
  • Coedwig Hiraethog, ger Dinbych. Mae milltiroedd o ffyrdd tawel yn y goedwig hon, felly mae’n lle delfrydol i feicio. Gallwch logi beiciau o Ganolfan Ymwelwyr Dŵr Cymru i ddefnyddio’r llwybr o amgylch Llyn Alwen
  • Coedwig Niwbwrch, ym Môn. Yn y goedwig hon y mae Llwybr Beicio Corsica, cylchdaithdrwy ardaloedd o goetir cymysg â golygfeydd o’r aber
  • Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot, yw’r man cychwyn ar gyfer llwybr beicio isel ar lwybr llydan a gwastad yr hen reilffordd a fu unwaith yn cario teithwyr a glo drwy Gwm Afan
  • Coedwig Crychan - Halfway, ger Llanymddyfri yw’r man cychwyn ar gyfer llwybr beicio sy’n dilyn ffyrdd coedwig â graddfeydd graddol ac yn croesi dyfroedd Nant y Dresglen

Llwybrau'n addas ar gyfer beiciau addasol

Mae rhai o'n llwybrau'n addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio beiciau addasol.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai rhai o'r llwybrau hyn fod cyn i chi ymweld.

Person anabl sy’n siarad ar bob ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol.

I wylio’r ffilmiau ewch i Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybrau beicio eraill yng Nghymru

Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd – llwybr tawel neu un sy’n cynnig tipyn mwy o her - mae beicio’n ffordd wych o fwynhau’r awyr agored.

Gallwch feicio ar y ffordd, ond mae digonedd o leoedd eraill i feicio yng Nghymru hefyd.

  • Llwybrau beicio: Llwybrau cyhoeddus sydd wedi cael eu creu’n arbennig ar gyfer beicio yw llwybrau beicio (gall pobl gerdded a marchogaeth ceffylau ar rai ohonyn nhw hefyd)
  • Hawliau tramwy cyhoeddus: Cewch feicio ar lwybrau ceffylau a chilffyrdd.  Mae’r rhain yn agored i ddefnyddwyr eraill hefyd, er enghraifft cerddwyr a phobl ar gefn ceffylau
  • Llwybrau cerdded pell: Gallwch feicio ar rai rhannau o’r tri Llwybr Cenedlaethol sydd yng Nghymru ac ar rai rhannau o Lwybr Arfordir Cymru
  • Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: gweler gwefan Sustrans am fwy o wybodaeth.

Cau a dargyfeirio llwybrau beicio

Weithiau mae’n rhaid cau neu ddargyfeirio llwybrau wrth inni wneud gwaith cynnal a chadw neu waith coedwig neu am resymau eraill fel tywydd gwael.

Rydyn ni’n rhoi manylion am gau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd ar wefannau’r coetiroedd neu’r canolfannau ymwelwyr perthnasol.

Rydyn ni hefyd yn gosod arwyddion sy’n sôn am gau neu ddargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.

Gofynnwn yn garedig i chi ddilyn yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle er eich diogelwch eich hun.

Caniatâd ar gyfer digwyddiadau

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.

Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn mynd ar eich beic.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd god ymddygiad ar gyfer beicio mewn coedwigoedd. Gallwch weld y cod ar ein tudalen beicio mynydd.

Diweddarwyd ddiwethaf