Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn, ger Abertawe

Y ffen tir isel fwyaf yng Nghymru

Beth sydd yma

Natur
Parcio

Trosolwg

Cors Crymlyn yw un o’r safleoedd gwlyptir pwysicaf yn Ewrop.

Mae’n rhyfeddol ei bod wedi goroesi o ystyried mor agos ydyw at Abertawe ddiwydiannol.

Dros y blynyddoedd, bu’n gymydog i burfa olew, gorsaf bŵer a thip sbwriel, ynghyd â sawl pwll glo a safleoedd diwydiannol eraill, ac eto, arhosodd y gors yn gyflawn a di-nam i bob pwrpas.

Y ffordd orau o brofi’r warchodfa yw drwy gerdded ar hyd y llwybrau sy’n cynnwys llwybrau pren drwy ganol y gors.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, sydd ychydig yn llai, ond ceir llwybr pren yma sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Cors ynteu ffen?

Mae corsydd yn cael eu bwydo gan ddŵr glaw yn unig, tra bo ffeniau’n cael eu bwydo gan nentydd a dŵr sy’n codi o’r ddaear.

Mae sawl nant yn bwydo’r ‘gors’ yma, gan greu cynefin cyfoethog sy’n llawer mwy nodweddiadol o dir ffen Dwyrain Anglia na De Cymru.

Felly, i fod yn fanwl gywir, dylai gael ei enwi’n Ffen Crymlyn.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Mae Ystagbwll yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Uchafbwyntiau bywyd gwyllt

Mae’r corsleoedd ble mae cyrs a hesg yn tyfu’n gartref i amrywiaeth enfawr o blanhigion, adar a thrychfilod y gwlyptiroedd.

Corsleoedd gwych i gartrefu adar

Bydd niferoedd mawr o deloriaid amrywiol yn cael eu magu yma – telor y cawn a thelor yr helyg yn enwedig, ynghyd â thelor Cetti, telor y gwair, bras y cyrs a rhegen y dŵr.

Ar ddechrau’r haf bydd y warchodfa’n fwy gan sŵn adar yn canu wrth iddynt sefydlu’u tiriogaeth.

Ymysg ymwelwyr prinnach, a welir fel arfer yn ffeniau Dwyrain Anglia, mae boda’r wern, titw barfog ac aderyn y bwn.

Fe allwch chi hefyd weld y boda, cudyll coch, gwalch glas a’r barcud yn hedfan uwchlaw’r warchodfa.  

Lle rhyfeddol i drychfilod

Mae’n hawdd iawn gweld gwas y neidr a’r fursen, sydd mor niferus yma wrth iddynt hofran a gwibio dros ddŵr agored y gors.

Mae ieir bach yr haf yn lluosog yma hefyd, fel y glöyn brwmstan.

Mae corryn mwyaf a phrinnaf Prydain, corryn rafft y ffen, yn byw yma. Dim ond mewn ardaloedd o ddŵr agored y bydd yn byw, felly mae’n annhebygol iawn y gwelwch chi un ohonynt pan fyddwch chi’n ymweld.

Planhigion y gwlyptiroedd

Ymysg y cyrs a’r hesg, gwelir blodau sy’n nodweddiadol o dir gwlyb gan gynnwys y gellesgen felen, pumbys y gors a’r llafnlys mawr.

Chwiliwch am y clystyrau mawr o’r rhedyn blodeuog hefyd, sy’n un o nodweddion hynod Crymlyn.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar gyfer y ddau lwybr cerdded.

Bydd ceffylau a merlod yn pori ar hyd rhai darnau o’r llwybrau.

Llwybr y Gors

1 milltir, 1.4 cilometr, hawdd

Mae’r llwybr hwn yn dilyn y llwybrau pren allan i ganol y gors. Gwrandewch am gân adar y gorsle ar ddechrau’r haf, a chadwch lygad am yr arddangosfa hyfryd o flodau gwylltion yn ystod y gwanwyn a’r haf.

Llwybr y Gors a’r Balŵn

1¼ milltir, 2.21 cilometr, hawdd

Mae’r llwybr hwn, sydd ychydig yn hirach, hefyd yn dilyn y llwybr pren, ond mae’n dychwelyd heibio i’r ‘Cae Balŵn’. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dyma ble roedd safle balŵn mawr a osodwyd i geisio atal ymosodiadau o’r awyr gan yr Almaenwyr ar burfa olew Llandarcy – mae’r pwyntiau angori concrit crwn yn dal yn amlwg yn y ddaear.

Crymlyn Bog NNR panel

Llwybrau eraill

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n pasio heibio i ymyl y warchodfa.

Ceir llwybr cyhoeddus i ben Bryn Cilfái cyfagos, gyferbyn â’r maes parcio.

Amseroedd agor

Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos

Dim ond ar gyfer ymweliadau neu ddigwyddiadau a archebir ymlaen llaw y bydd y ganolfan ymwelwyr yn agor.

Sut i gyrraedd yma

Ceir mynediad i faes parcio Cors Crymlyn ar hyd ffyrdd cul oddi ar Ffordd Fabian (ffordd ddeuol yr A483). Mae’r warchodfa rhyw filltir (1.6km) oddi ar yr A483.

Y cyfeirnod grid OS yw SS 685 942.

Cyfarwyddiadau

O Abertawe: dilynwch yr A483 (Ffordd Fabian) i’r dwyrain allan o ganol y ddinas i gyfeiriad Caerdydd. Ewch heibio i barc manwerthu mawr a chroeswch yr afon. 100 metr ar ôl cyffordd Parcio a Theithio Ffordd Fabian, trowch i’r chwith yn syth ar ôl y garej BMW a gerllaw tafarn y Mile End. Dilynwch yr heol hon (Teras Wern) a throwch i’r dde yn y gyffordd-T gyda Heol Tir John. Dilynwch y lôn gul hon, gan fyd tua’r chwith ger mynedfa’r safle amwynder dinesig. Ar ôl ½ milltir, mae’r maes parcio ar y dde.

O’r M4: dewch oddi ar y draffordd ar Gyffordd 42 ar i’r A483 (Ffordd Fabian) i ganol dinas Abertawe. Pasiwch Gampws y Bae Prifysgol Abertawe ar y chwith ac yna trowch i’r dde ar gyffordd Parcio a Theithio Ffordd Fabian. Trowch o gwmpas yn y Parcio a Theithio ac ailymunwch â’r A483, gan deithio’n ôl tua’r dwyrain a’r M4. Trowch i’r chwith ar ôl 100m (yn syth ar ôl y garej BMW a gerllaw tafarn y Mile End). Dilynwch yr heol hon (Teras Wern) a throwch i’r dde yn y gyffordd-T gyda Heol Tir John. Dilynwch y lôn gul hon, gan fyd tua’r chwith ger mynedfa’r safle amwynder dinesig. Ar ôl ½ milltir, mae’r maes parcio ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae gwasanaeth bws yn mynd i Bort Tennant, tua hanner milltir i ffwrdd.

I gael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.traveline-cymru.info

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.