Cynllun rheoli Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy (2008)

Trosolwg

Mae'r cynllun rheoli hwn yn ymwneud â Physgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy (y Bysgodfa).

O 1 Ebrill 2013, daeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ddau grantî ar wahân gyda chyfrifoldeb dros reoli'r Bysgodfa yn unol â Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 (y Gorchymyn). Daeth CNC yn grantî mewn perthynas â'r ardal honno o'r Bysgodfa yng Nghymru a daeth Asiantaeth yr Amgylchedd yn grantî ar gyfer yr ardal honno o'r Bysgodfa yn Lloegr. Fel grantïon dan y Gorchymyn, mae gan CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd bwerau i reoleiddio'r Bysgodfa tan 30 Mehefin 2028. I sicrhau dilyniant rheolaeth a rheoleiddio ar draws y Bysgodfa, mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno y bydd CNC yn arwain ar y gwaith o reoli a rheoleiddio pob rhan o’r Bysgodfa o ddydd i ddydd. Mae'r cynllun rheoli hwn felly yn nodi nodau ac amcan CNC wrth reoli'r Bysgodfa ac yn nodi trefniadau manwl ar gyfer cocos (Cerastoderma edule) wrth iddo reoli’r Bysgodfa.

Bydd y cynllun rheoli hwn yn destun adolygiad cyffredinol ar gyfnodau o ddim mwy na phum mlynedd.

Nodau ac amcanion rheoli

Nod cyffredinol CNC wrth reoli'r Bysgodfa yw datblygu pysgodfa gocos ffyniannus yn aber afon Dyfrdwy sy'n cefnogi, yn diogelu ac yn gwella anghenion y gymuned, a'r amgylchedd y mae'n dibynnu arno. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cynnwys gofyniad i CNC ymgorffori egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy'r ffordd rydym yn gweithio. Drwy ddefnyddio'r egwyddorion hyn, gallwn fwyafu ein cyfraniad i'r nodau llesiant a cheisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae pysgodfa gocos o'r fath sy'n ffynnu yn agwedd bwysig ar Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2016, y mae afon Dyfrdwy yn Ardal Warchodedig Dŵr Pysgod Cregyn oddi tanynt.

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae CNC wedi nodi’r tri nod canlynol, y bydd yn ceisio eu cyflawni wrth reoli'r Bysgodfa:

Amcan 1: cyflawni a chynnal pysgodfa gynaliadwy sy'n gallu darparu incwm rheolaidd i drwyddedeion.

Amcan 2:  osgoi effeithiau niweidiol ar y rhwydwaith o safleoedd cenedlaethol y DU ac ar drigolion lleol.

Amcan 3:   gwella gwaith rheoli, monitro, rheoleiddio a gorfodi yn rhannau gwyllt y Bysgodfa.

Disgrifiad daearyddol o'r Bysgodfa

Mae'r Bysgodfa wedi'i lleoli yn aber afon Dyfrdwy rhwng gogledd Cymru a Wirral. Fe'i diffinnir i'r gogledd gan linell rhwng Red Rocks, pwynt mwyaf gogleddol Ynys Hilbre a'r hen oleudy, y Parlwr Du, ac i'r de gan linell wedi’i thynnu ar onglau de i'r wal gyfeirio sy'n croestorri golau sianel y Fflint yn 53° 15’ 13”G, 003° 06’ 45”Gn.

Yn yr aber ar hyn o bryd mae yna naw gwely cocos yn y Bysgodfa, sef West Kirby, Thurstaston, Mostyn, Mostyn Deep, Talacre, Caldy, Bwi Rhif 3, Salisbury Ganol a Salisbury. Mae'r gwelyau hyn yn amrywio'n ofodol yn ôl spatfall, defnydd, newidiadau gwaddod a ffactorau allanol eraill ac mae'n bosib y gall gwelyau newid yn y dyfodol.

Mae ffigurau yn Atodiad 1 yn dangos y map diffiniol o'r Gorchymyn Rheoleiddio, ynghyd â lleoliadau gwelyau cocos yn 2020.

Cyfanswm arwynebedd y Bysgodfa, islaw penllanw cymedrig y gorllanw ar y map diffiniol, yw 10,656 o hectarau.

Cefndir 

Cynhaliwyd adolygiad diwethaf o'r cynllun rheoli yn 2015. Mae'r fersiwn hon o'r cynllun rheoli wedi cael ei diwygio i ystyried safoni, cyhyd ag sy'n ymarferol bosib, arferion rheoli'r unig bysgodfeydd cocos sy’n destun Gorchymyn Rheoleiddio yng Nghymru (Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy a Physgodfa Gocos Cilfach Tywyn) ac i ystyried cynlluniau a strategaeth newydd, gan gynnwys:

  • “Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015”, sy'n gofyn i gyrff cyhoeddus feddwl am effeithiau tymor hir eu penderfyniadau a gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd i atal problemau parhaus megis anghydraddoldeb iechyd a'r newid yn yr hinsawdd
  • “Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru 2019–2025”, sef agenda gydweithredol ar gyfer monitro a dadansoddi ymchwil forol
  • “Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru 2019”, sy'n ffurfio'r polisi ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf ar gyfer y defnydd cynaliadwy o'n moroedd 

Safle gaeafu o bwys rhyngwladol yw aber afon Dyfrdwy ar gyfer adar hela ac adar hirgoes ac mae o bwys Ewropeaidd ar gyfer ei gynefinoedd a'i gymunedau aberol, fflatiau llaid a thywod, a morfa heli. Mae wedi'i ddynodi fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) dan Gyfarwyddeb Adar y Comisiwn Ewropeaidd, fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd, a Safle Ramsar dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Wlyptiroedd. Mae aber afon Dyfrdwy hefyd yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi'u dynodi dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: SoDdGA Aber Afon Dyfrdwy, SoDdGA Blaendraeth Gogledd Wirral, SoDdGA Twyni Gronant a Chwningar Talacre, SoDdGA Red Rocks, SoDdGA Morlynnoedd a Gwelyau Cyrs Shotton, SoDdGA Inner Marsh Farm, SoDdGA Clogwyni Dyfrdwy – a rhan o Warchodfa Natur Leol Ynys Hilbre.

Mae aber afon Dyfrdwy wedi cynnal pysgodfa gocos fasnachol ers ymhell dros ganrif. Yn dilyn cais gan Asiantaeth yr Amgylchedd i'r Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am Orchymyn Rheoleiddio dan Adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967, gwnaed y Gorchymyn yn 2008, gan roi'r hawl i Asiantaeth yr Amgylchedd (ac CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd bellach) i reoleiddio'r Bysgodfa ar gyfer cocos.

Yn gyffredinol, mae'r Gorchymyn yn gwahardd pysgota am gocos heb drwydded ac yn caniatáu i gyfyngiadau gael eu gorfodi (gyda chaniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru) sy'n gwahardd neu'n rheoleiddio pysgota am gocos. Mae Gorchmynion Rheoleiddio hefyd yn annog buddsoddiad tymor hir yn y Bysgodfa.

Monitro hylendid pysgod cregyn

Dosberthir ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn yn unol ag ehangder halogiad microbig (ysgarthol), fel a ddengys drwy fonitro coli mewn cnawd pysgod cregyn. Caiff prosesau triniaeth eu hamodi yn ôl dosbarthiad statws yr ardal.

Rhagor o wybodaeth am ddosbarthiad dyfroedd pysgod cregyn yn afon Dyfrdwy.

Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyfrifoldeb statudol dros sicrhau bod gwaith monitro stociau cocos, a’u dosbarthu wedi hynny, yn mynd rhagddo. Cynhelir hyn mewn cydweithrediad â thimau iechyd yr amgylchedd yng nghynghorau Sir y Fflint a Wirral.

Os bydd canlyniadau monitro'n tynnu sylw at yr angen am gau'r Bysgodfa, bydd CNC yn dilyn unrhyw hysbysiadau cau a ddyrennir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac atal cynaeafu cocos nes bydd yr hysbysiad cau ar y gwely yn cael ei godi. Bydd CNC yn gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a chynghorau lleol yn ystod unrhyw gyfnodau cau o’r fath i hwyluso ailagor gwelyau pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Arolygon asesu stociau a chyfanswm y ddalfa a ganiateir

Fel arfer, cynhelir arolygon asesu stociau ddwywaith y flwyddyn yn y gwanwyn a'r hydref gan ddefnyddio methodoleg safonol (Moore, 2011). Bydd arolygon yn amcangyfrif y biomas cocos ar gyfer dosbarth pob blwyddyn o bob gwely yn y Bysgodfa.

Pennir cyfanswm dalfa a ganiateir ar gyfer agor y bysgodfa bob blwyddyn yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg y gwanwyn a gofynion bwyd adar gaeafu AGA Aber Afon Dyfrdwy. Mae modelau unigol yn seiliedig ar adar, megis yr un a ddatblygwyd gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, wedi'u cydnabod gan bawb fel y dull mwyaf priodol o osod cyfanswm dalfa a ganiateir. Caiff gofynion bwyd yr adar eu cyfrifo gan ddefnyddio'r model dwyd adar diweddaraf.

Unwaith y bydd yr arolwg wedi'i gwblhau, caiff y canlyniadau eu hasesu a chyfrifir tunelledd y cocos i adael digon o fwyd ar gyfer gofynion adar gaeafu ac ar gyfer cyfanswm dalfa a ganiateir i'r pysgotwyr. Caiff datganiadau dalfa gan y trwyddedeion eu monitro i weld faint o gocos sy'n cael eu tynnu bob mis mewn perthynas â chyfanswm y ddalfa a ganiateir sydd wedi’i bennu. Mae hyn yn galluogi cyfanswm y ddalfa a ganiateir neu'r cwota dyddiol i gael ei ddiwygio os oes angen i sicrhau bod digon o fwyd ar ôl i'r adar, a bod y Bysgodfa'n gynaliadwy dros y tymor hir ac yn darparu bywoliaeth i'r trwyddedeion.

Yn dilyn egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, bydd CNC yn rheoli'r Bysgodfa'n addasol, gan asesu'r angen i ymateb i farwolaethau, newid maint demograffeg neu ddigwyddiadau amgylcheddol naturiol megis cocos yn crynhoi ar dywod y lan (gweler Atodiad 2).

Cyd-destun deddfwriaethol

Gall CNC ddyrannu trwyddedau dan y Gorchymyn (Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967) mewn niferoedd ac i bobl o'r fath, ac yn weithredol am gyfnodau o'r fath, a gall awdurdodi treillio, pysgota am neu gymryd pysgod cregyn ar adegau o'r fath, yn y fath fodd ac i'r graddau y bydd yn penderfynu. Mae hyn yn cynnwys gosod amodau trwyddedau, cwotâu dyddiol a blynyddol a chyfyngiadau maint, a phenderfynu ar amserau, ardaloedd a dulliau pysgota.

Dan ddarpariaethau Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967, gall CNC, gyda chaniatâd y Gweinidog priodol, wneud y canlynol:

  • diwygio'r holl dollau taladwy dan y Gorchymyn
  • gwneud neu newid rheoliadau a wnaed dan y Gorchymyn
  • mabwysiadu neu newid unrhyw bolisi o ran pwy, ac o dan ba amodau, maent yn bwriadu dyrannu trwyddedau

Yn ôl Erthygl 4 Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008:

(1) Ni all unrhyw unigolyn dreillio, pysgota am na chymryd cocos o'r bysgodfa oni bai eu bod yn gwneud hyn dan amodau—

  • trwydded a ddyrannwyd gan y grantî; neu
  • awdurdodiad [cymeradwyaeth] dan erthygl 6.

(2) Mae'n rhaid i drwyddedai ddangos copi o’r drwydded os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig ac ni all dreillio, pysgota am na chymryd cocos o fewn terfynau'r bysgodfa nes bod y drwydded wedi cael ei chyflwyno.

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw unigolyn sy'n gwneud y canlynol—

  • cymryd â llaw dim mwy na phum cilogram mewn pwysau byw o gocos o'r bysgodfa mewn un diwrnod er mwyn eu bwyta'n bersonol; neu sy’n
  • treillio, pysgota am neu’n cymryd cocos yn unol â darpariaeth a wnaed dan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf [lluosogi pysgod cregyn].

(4) Mae Atodlen 1 (rheoliadau a chyfyngiadau sy'n gymwys i'r bysgodfa) ar waith.

Cyfyngiadau a rheoliadau cynaeafu

Mae'r cyfyngiadau a rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r Bysgodfa:

  • Bydd y dull hwn yn gyfyngedig i gasglu â llaw yn unig gyda phen rhaca heb fod yn fwy na 30 cm o led.
  • Bydd gwelyau cocos yn cael eu hagor a'u cau'n unigol, gan ddibynnu ar lefelau cynaeafu a chanlyniadau arolygon (cyfanswm y ddalfa a ganiateir) yn unol â disgresiwn y grantïon, er mwyn diogelu lefel boblogaeth gynaliadwy.
  • Dim ond cocos sy'n cael eu cadw gan fesurydd sydd ag agoriad sgwâr o 20 mm ar hyd pob ochr o'r sgwâr sy'n gallu cael eu cymryd.
  • Ystyrir bod cocysen wedi cael ei symud o'r Bysgodfa cyn gynted ac y bo wedi cael ei rhoi mewn unrhyw gynhwysydd (gan gynnwys bagiau, sachau a chynwysyddion tebyg eraill), trelar, cerbyd neu gwch.
  • Mae'n rhaid didoli a golchi cocos cyn i'r cocos gael eu symud o'r Bysgodfa.
  • Ni ddylai unrhyw bagiau cocos, na chyfarpar na sbwriel arall, gael eu gadael ar y gwelyau ar ôl pysgota.
  • Ni ddylai unrhyw unigolyn gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n aflonyddu neu'n difrodi'r Bysgodfa heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y grantïon.
  • Ni chaniateir unrhyw gerbydau mecanyddol ar y Bysgodfa heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog y tir a'r grantïon.
  • Ni chaniateir i unrhyw gychod sy'n fwy na 10 metr gael eu defnyddio at ddiben symud na derbyn cocos ac mae'n rhaid iddynt gael eu gweithredu gan ddeiliad trwydded yn unig, ac eithrio â chymeradwyaeth ysgrifenedig gan y grantïon at ddiben sicrhau mordwyo diogel y cwch.
  • Bydd y tymor cau blynyddol o 1 Ionawr tan 30 Mehefin sy’n dilyn.
  • Dim pysgota ar gyfer cocos rhwng un awr ar ôl machlud yr haul ac un awr cyn codiad yr haul.
  • Bydd cyfnod cau wythnosol ar ddydd Sul oni bai fod y grantïon yn dweud fel arall.
  • Caiff y penderfyniad i agor y Bysgodfa ai peidio ei wneud ym mis Mai/Mehefin bob blwyddyn, yn dilyn cwblhau arolygon asesu stociau ac ymgynghoriad â Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy.
  • Caiff cyfanswm dalfa a ganiateir ei sefydlu bob blwyddyn yn seiliedig ar cynaeafu cyfran a gyfrifir yn wyddonol o'r biomas sydd ar gael uwchben y dwysedd 'rhoi’r gorau iddi' ar unrhyw wely ar 1 Gorffennaf. Mae'r gyfran hon yn debygol o fod oddeutu 30% yn y rhan fwyaf o flynyddoedd ond gall y gyfran a’r "dwysedd rhoi’r gorau iddi" fod yn amrywiol fel y mae’r grantïon yn ystyried yn briodol er budd cynnal pysgodfa gynaliadwy, gan ystyried yr arolwg asesu stociau ac mewn ymgynghoriad â Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy.
  • Ni chaniateir pysgota yn ystod cyfnodau lle mae gorchymyn tywydd gwael ar waith dan adran 2(6) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: bydd cau ac ailagor y gwelyau yn unol â'r canllawiau a sefydlwyd ar gyfer oedi statudol saethu adar dŵr mewn tywydd gwael.
  • Ac eithrio mewn argyfyngau neu oni chytunir yn wahanol gan y grantïon, ni all unrhyw unigolyn gael mynediad i'r bysgodfa at ddibenion treillio, pysgota am na chymryd cocos, na gadael y Bysgodfa ar ôl casglu cocos, ac eithrio:
  • ar bwyntiau yn uwch na'r penllanw cymedrig, ac ar adegau a allai gael eu dynodi gan y grantïon o bryd i'w gilydd; ac
  • mewn cydymffurfiaeth ag amodau a thelerau unrhyw gytundeb o'r fath a roddir gan y grantïon.
  • Bydd y grantïon yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad ynghylch dynodi mynediad at ddibenion y rheoliadau hyn yn derbyn y cyhoeddusrwydd priodol yn ardal y Bysgodfa ac i ddeiliad y drwydded.
  • Gall y grantïon, yn ysgrifenedig, eithrio unrhyw unigolyn o unrhyw reoliad neu gyfyngiad os yw'n angenrheidiol at ddibenion cadw, gwella neu ddatblygu'r Bysgodfa at ddibenion gwyddonol, stocio neu fridio.

Trwyddedau pysgota

Y ffordd orau o gyflawni rheolaeth ddeinamig ac adweithiol o bysgodfa fasnachol yn yr amgylchedd morol, a fydd yn ôl ei natur yn destun amodau sy'n anodd eu rhagfynegi, yw trwy orfodi amodau trwydded.

Bydd CNC yn defnyddio amodau trwydded i reoli'r Bysgodfa'n effeithiol ac yn effeithlon. Dengys enghreifftiau o’r amodau trwydded a ddyrannwyd ar ddechrau tymor 2020/21 isod.

Amodau trwydded

  • Ni ddylai unrhyw drwyddedai bysgota am gocos, na cheisio pysgota am gocos, na'u cymryd o'r Bysgodfa, ac eithrio yn unol ag amodau'r drwydded a chyfyngiadau a rheoliadau pysgota.
  • Caiff trwydded ei dyrannu i unigolyn yn unig.
  • Ni fydd trwydded yn drosglwyddadwy, er y gall ardystiad dros dro gael ei roi (gweler y canllawiau ar ardystiadau yn Atodiad 3).
  • Mae'n rhaid i drwydded gael ei chludo gan y trwyddedai a bod ar gael i'w harchwilio ar bob adeg.
  • Mae'n rhaid cyflwyno trwydded ddilys ar gais gan swyddog y grantî ac ni ddylai’r trwyddedai barhau i bysgota am gocos nes bod trwydded ddilys yn cael ei chyflwyno.
  • Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn, bydd trwydded yn cynnwys y Bysgodfa gyfan.
  • Bydd pob trwyddedai (ac eithrio trwyddedai prentis) yn derbyn cwota dyddiol unigol a/neu flynyddol yn seiliedig ar gyfanswm y ddalfa a ganiateir, ac yn dilyn ymgynghoriad â Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy.
  • Ni ddylai’r trwyddedai, ac eithrio â chymeradwyaeth ymlaen llawn gan CNC, gludo y tu hwnt i benllanw cymedrig fwy na'i gwota dyddiol yn y cyfnod rhwng 0001 a 2359 o’r gloch o’r un diwrnod, neu’n fwy na'i gwota blynyddol yn ystod cyfnod y tymor agored.
  • Bydd gwybodaeth ofynnol ar drwydded yn cynnwys ffotograff o'r trwyddedai, rhif trwydded unigryw, enw a chyfeiriad y trwyddedai, a'r cyfnod dilys.
  • Bydd trwyddedau'n parhau'n flynyddol am y cyfnod a nodir ar y drwydded.
  • Pan fydd y gwelyau ar agor, rhaid i’r trwyddedai gwblhau a chyflwyno datganiadau dalfa ddyddiol yn fisol. Bydd datganiadau o'r fath yn cynnwys y dyddiad y cymerwyd y cocos, a’r gwelyau iddynt gael eu cymryd ohonynt, y pwysau (kg) a gynaeafwyd, a (lle y bo'n briodol) manylion y prynwr.
  • Ni ddylai’r trwyddedai bysgota am, cymryd, na cheisio pysgota am na symud cocos o'r Bysgodfa oni bai fod y trwyddedai wedi cydymffurfio â darpariaethau Amod 10.
  • Oni bai fod awdurdodiad ysgrifenedig blaenorol wedi'i gael gan CNC, ni ddylai unrhyw unigolion, oni bai am drwyddedeion, gael eu cludo ar gychod/cerbydau sydd wedi'u hawdurdodi at gael eu defnyddion ar gyfer pysgota am gocos wrth i'r trwyddedai ymwneud â gweithgareddau pysgota am gocos.
  • Oni bai fod awdurdodiad ysgrifenedig wedi'i gael gan CNC ymlaen llaw, ni chaniateir i drwyddedeion gael cymorth gan unrhyw unigolyn ac eithrio prentisiaid, mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys rhacanu, rhidyllu, bagio, cludo, clirio cocos meirw a thrin cychod.
  • Mae'n rhaid i drwyddedeion sy'n gweithredu cwch gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir iddynt gan Feistr Harbwr Gwarchodaeth Afon Dyfrdwy neu Feistr Harbwr Porth Mostyn.
  • Gall trwyddedai ddefnyddio ‘jymbo’ (offeryn â sail wastad a dolen fertigol a ddefnyddir i ddod â chocos i'r arwyneb) i helpu i gasglu â llaw cyhyd ag nad yw'r sylfaen yn fwy na 140 cm o hyd a 40 cm o led.
  • Rhaid i drwyddedai beidio â symud cocos o'r Bysgodfa ac eithrio mewn bagiau glanio a ddyrennir gan CNC (Bagiau Glanio) yn uniongyrchol i'r trwyddedai hwnnw ac sy'n cael eu nodi fel y cyfryw gan dag â rhif. Rhaid i drwyddedeion beidio â throsglwyddo Bagiau Glanio, defnyddio Bagiau Glanio a ddyrennir i drwyddedeion eraill, newid neu ymyrryd â Bagiau Glanio, neu drin Bagiau Glanio mewn ffordd arall lle nad oes modd nodi’r Bag Glanio unigol yn ôl y rhif ar ei dag. Rhaid i’r trwyddedai, ar gais gan swyddog y grantî, sicrhau bod Bagiau Glanio a'u cynnwys ar gael i'w harchwilio ac ni ddylai barhau i bysgota nes y bydd y bagiau glanio hyn wedi cael eu cyflwyno. Cyfrifoldeb y trwyddedai yw sicrhau bod y bagiau wedi'u marcio a bod y marciau'n weladwy.

Dyrannu trwyddedau

Dan y Gorchymyn, mae'n ofynnol i drwyddedai bysgota am gocos yn y Bysgodfa (oni bai eich bod yn casglu hyd at 5 kg y dydd â llaw er mwyn i chi eu bwyta eich hun). Mae'n drosedd pysgota am gocos heb drwydded. Ni chaiff unigolyn gael mwy nag un drwydded ar gyfer y Bysgodfa.

Nod y cynllun rheoli hwn yw galluogi o leiaf 50 o bysgotwyr i ddefnyddio'r Bysgodfa yn flynyddol. Mae cyfiawnhad blaenorol ar gyfer 50 o drwyddedeion wedi bod yn seiliedig ar y canlynol:

  • Cyfanswm dalfa a ganiateir rhwng 500 a 2,500 o dunelli
  • Uchafswm cyfradd ddefnyddio flynyddol o 50 o dunelli fesul trwyddedai

Yn 2019 ac yn 2020, roedd cyfanswm y ddalfa a ganiateir dros 2,500 o dunelli ac mae dros 40% o drwyddedeion wedi cynaeafu dros 50 o dunelli mewn tymor.

Yn ogystal, ar adegau pan fo CNC yn credu y gall y Bysgodfa ymdopi, bydd trwydddau anadnewyddadwy tymor byr yn cael eu dyrannu ar ddisgresiwn CNC.

Mae CNC yn gofyn bod gan y sawl sy'n defnyddio'r Bysgodfa'r hyfforddiant a thystysgrifau diogelwch diweddaraf cyn cael mynediad i'r Bysgodfa (gweler Atodiad 4).

Dyrannu trwyddedau

Dyrennir trwyddedau i ymgeiswyr yn unol â gweithdrefn dyrannu trwyddedau gyhoeddedig CNC, y mae modd ei gweld yn Atodiad 5. Mae'r weithdrefn hon yn cynnwys manylion y broses apelio.

Mae'n rhaid talu am drwyddedau cyn 1 Gorffennaf. Ni ddyrennir unrhyw drwydded ac nid oes modd cynaeafu cyn talu.

Mae trefniadau ar wahân yn berthnasol am ddyrannu trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr ac i brentisiaid; gweler y weithdrefn dyrannu trwyddedau.

Rheoli a gorfodi

Rheoleiddio

Caiff egwyddorion rheoleiddio da eu mabwysiadu gan y Bysgodfa. Bydd CNC yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, ac yn dilyn dull targedig wrth gynnal gweithgareddau rheoleiddiol a gorfodi. Caiff yr egwyddorion hyn eu hesbonio ymhellach ym Mholisi Gorfodi ac Erlyn CNC (Atodiad 6).

Bydd CNC hefyd yn dilyn ei egwyddorion i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy ei ddull rheoleiddiol yn y Bysgodfa.

Bydd CNC yn cefnogi cydymffurfiaeth trwyddedeion â'r cyfyngiadau a rheoliadau yn y Bysgodfa drwy ymgysylltu, addysg a galluogi. Os bydd unrhyw drwyddedai'n torri'r cyfyngiadau a rheoliadau, ymdrinnir â hwy yn unol â Pholisi Gorfodi ac Erlyn CNC.

Gorfodi

Caiff yr ystod lawn o offerynnau gorfodi eu defnyddio i gyflawni cydymffurfiaeth yn y Bysgodfa a mynd i'r afael â gweithgareddau anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddarparu cyngor ac arweiniad, dyrannu rhybuddion, cynnig rhybuddiadau ffurfiol, a chynnal erlyniadau.

Wrth benderfynu ar ymateb gorfodi addas, rhoddir ystyriaeth i ganlyniad dymunol yr ymateb. Gall camau gweithredu gael eu cymryd i atal gweithgaredd, adfer neu liniaru, sicrhau cydymffurfiaeth, cosbi a/neu atal, neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

Caiff ffactorau budd cyhoeddus eu hystyried ar gyfer pob achos wrth benderfynu ar ymatebion addas i droseddau. Mae'r rhain yn cynnwys bwriad, effaith amgylcheddol, hanes blaenorol ac agwedd. Gellir gweld rhestr lawn o ffactorau buddiant cyhoeddus a rhagor o fanylion yng nghanllawiau CNC ar orfodi a sancsiynau. 

Pan geir trwyddedai'n euog o drosedd, adolygir ei addasrwydd i gadw'r drwydded ac, os yw'n briodol, gall y grantïon geisio cydsyniad gweinidogol i ddiddymu'r drwydded.

Gall trwyddedau gael eu hatal am droseddau penodol yn ôl disgresiwn CNC.

Ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid

Y prif fecanwaith ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid fydd Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy. Bydd Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn ac yn gweithio gydag CNC i lywio a datblygu’r gwaith o reoli’r Bysgodfa.

Mae angen i aelodaeth y grŵp gynrychioli amrywiaeth y cyrff cymunedol a rheoleiddiol a'u safbwyntiau, ond ni ddylai fod yn rhy fawr i weithio gyda'i gilydd ar fanylion a chynnal presenoldeb cyson. Bydd CNC yn gwahodd pobl sy'n gallu dangos eu bod yn cynrychioli safbwyntiau pobl eraill, ac nid barn unigolion yn unig. Bydd y rhestr aelodaeth yn cynnwys pedwar cynrychiolydd o gasglwyr cocos trwyddedig aber afon Dyfrdwy, cynrychiolwyr CNC, a chynrychiolydd o bob un o'r sefydliadau canlynol: awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr, Natural England, Llywodraeth Cymru, Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy, a phroseswyr cocos. Caiff pobl eraill eu gwahodd i gyfarfodydd yn ôl yr angen.

Caiff newidiadau i unrhyw amodau trwydded, cau gwelyau, taliadau a gweithrediadau cyffredinol y Bysgodfa eu cyfleu i'r holl drwyddedeion yn ysgrifenedig.

Gwerthuso a monitro amcanion y cynllun

Amcan 1: cyflawni a chynnal pysgodfa gynaliadwy sy'n gallu darparu incwm rheolaidd i drwyddedeion

Caiff yr amcan hwn ei fonitro drwy'r canlynol:

  • Cyswllt â Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy i gytuno ar gyfanswm y ddalfa a ganiateir, cwotâu dyddiol, a phenderfyniadau rheoli eraill
  • Monitro stociau / cynnal stociau y gellir eu defnyddio ar lefelau rhagfynedig a gwella dealltwriaeth o ddeinameg poblogaethau cocos

Amcan 2: osgoi effeithiau niweidiol ar y safleoedd dynodedig Ewropeaidd a thrigolion lleol

Caiff yr amcan hwn ei fonitro drwy'r canlynol: 

  • Cwblhau a gweithredu'r modelau bwyd/stoc adar mwyaf priodol sydd ar gael ynghylch cyfrifo cyfanswm y ddalfa a ganiateir
  • Sicrhau nad oes unrhyw effaith negyddol ar gyflawni statws cadwraeth ffafriol ar gyfer nodweddion ACA, AGA a Ramsar perthnasol
  • Monitro gwelyau ar gyfer pysgota anghyfreithlon
  • Sicrhau bod mannau cytunedig ar gyfer cael mynediad i’r Bysgodfa a’i gadael

Amcan 3: gwella gwaith rheoli, monitro, rheoleiddio a gorfodi yn y Bysgodfa

Caiff yr amcan hwn ei fonitro drwy'r canlynol:

  • Rheoleiddio'r Bysgodfa yn unol â gofynion statudol cyfredol
  • Defnyddio adnoddau priodol i wella dealltwriaeth o ddeinameg poblogaethau
  • Defnyddio'r cynllun rheoli hwn
  • Sicrhau gwaith monitro rheolaidd o’r hyn a ddelir a chydymffurfiaeth â'r cynllun rheoli

Defnyddio'r model stoc mwyaf priodol i ragfynegi gofynion bwyd i adar yr AGA a'r SoDdGAau, rhagfynegi effeithiau sefyllfaoedd rheoli gwahanol ar boblogaethau adar, ac argymell dulliau ar gyfer gosod cyfanswm dalfa a ganiateir sy'n gynaliadwy

Atodiad 1 – Map diffiniol

Map diffiniol dan Orchymyn Rheoleiddio Cocos Aber Afon Dyfrdwy 2008

Lleoliad gwelyau yn aber afon Dyfrdwy 2020

Atodiad 2 – Gweithdrefn cocos yn crynhoi ar dywod y lan

Mae'r camau canlynol yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer adrodd a chadarnhau digwyddiadau cocos yn crynhoi ar dywod y lan ar raddfa fawr (lle mae swm mawr o gocos, mewn dwyseddau uchel, yn cael eu gwthio i'r arwyneb), y gall CNC atal neu ymlacio amodau trwydded dros dro yn eu dilyn i hwyluso symud y cocos sydd wedi crynhoi ar dywod y lan.

  1. Mae digwyddiadau cocos yn crynhoi ar dywod y lan yn cael eu hadrodd i CNC gan ddeiliad trwydded.
  2. Bydd CNC yn ceisio cadarnhau bod cocos yn crynhoi ar dywod y lan a phennu’r swm a’r lleoliad, trwy fynd i’r safle ar yr un diwrnod neu'r diwrnod canlynol os oes modd.  Lle nad yw hyn yn bosib, gall ffyrdd gwahanol o gadarnhau'r achos gael eu defnyddio.
  3. Bydd CNC yn adolygu data’r datganiadau dalfeydd hyd yn hyn yn erbyn cyfanswm y ddalfa a ganiateir ac amcangyfrif o swm y cocos sy’n crynhoi ar dywod y lan.
  4. Bydd yn cofnodi manylion y digwyddiad cocos yn crynhoi ar dywod y lan ac yn gwneud penderfyniad ynghylch atal neu ymlacio amodau trwyddedau.
  5. Efallai na fydd awdurdodiad i symud cocos yn crynhoi ar dywod y lan neu ymlacio amodau trwyddedau yn cael ei roi am nifer o resymau, gan gynnwys:
    • Mae capasiti cyfyngedig yng nghyfanswm y ddalfa a ganiateir ac ystyrir y gallai'r gweithgaredd hwn olygu bod angen i'r Bysgodfa gau'n gynnar unwaith y bydd cyfanswm y ddalfa a ganiateir wedi'i gyrraedd.
    • Nid yw CNC wedi gallu cadarnhau'r digwyddiad cocos yn crynhoi ar dywod y lan.
    • Mae swm y cocos sy’n crynhoi ar dywod y lan yn annigonol i gyfiawnhau'r broses, e.e. cânt eu clirio'n naturiol mewn rhai diwrnodau dan gwotâu dyddiol cyfredol.
    • Ystyrir y bydd yr awdurdodiad yn niweidiol i'r Bysgodfa mewn unrhyw ffordd.
  6. Lle y bo'n briodol atal neu ymlacio amodau trwyddedau, gall hyn gynnwys newidiadau i unrhyw rai o'r canlynol:
    • Uchafswm y cwota dyddiol
    • Isafswm neu uchafswm meintiau (os yw'n berthnasol)
    • Gofyniad i dagio bagiau
    • Cyfyngiadau ar y cyfarpar y mae modd ei ddefnyddio i gasglu cocos
    • Y defnydd o drwyddedau tymor byr, anadnewyddadwy
    • Cyfnodau agor y bysgodfa
  7. Caiff hysbysiad ysgrifenedig at ddeiliaid trwyddedau yn nodi'r newidiadau dros dro i amodau trwyddedau, a phan fydd y rhain yn berthnasol, ei anfon at yr holl drwyddedeion drwy'r post.
  8. Os na chaiff hysbysiad i hwyluso clirio cocos sy’n crynhoi ar dywod y lan ei ddyrannu, bydd holl amodau trwyddedau yn parhau ni waeth a yw cocos sydd wedi crynhoi ar dywod y lan yn bresennol ac yn cael eu casglu ai peidio. Bydd unrhyw achos o dorri amodau trwydded pan nad yw hysbysiad ar waith, neu os na chaiff amod ei atal neu ei ymlacio drwy hysbysiad, yn drosedd.

Atodiad 3 – Gweithdrefn ardystio Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy

Cyflwyniad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 yn cael ei ddefnyddio’n gywir er budd trwyddedeion, bywyd gwyllt a'r amgylchedd aberol ehangach.

Mae Erthygl 6 Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy yn rhoi pŵer dewisol i awdurdodi, h.y. ardystio, ail unigolyn ar drwydded i dreillio, pysgota am neu gymryd cocos yn y Bysgodfa dan yr un amodau â'r trwyddedai.

Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn yn golygu na all unigolyn ardystiedig gynaeafu cocos o'r Bysgodfa ar yr un adeg â'r trwyddedai.

Mae CNC yn nodi ac yn cydnabod y bydd trwyddedeion, am eu bod yn hunangyflogedig, yn colli incwm os nad ydynt yn gallu gweithio. Felly, mae CNC yn defnyddio'r pŵer a roddwyd iddo dan Orchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy er budd trwyddedeion sydd â rhesymau gwirioneddol dros beidio â gallu gweithio dan eu trwydded am gyfnodau tymor byr. Mae CNC wedi rhoi cyfyngiadau ar hyd ardystiadau mewn unrhyw un tymor er mwyn annog defnydd priodol o'r system drwyddedu ac i alluogi pysgotwyr newydd posib i ddod i'r Bysgodfa i ennill profiad.

Nod CNC yw cyflawni hyn drwy fonitro a rheoli unrhyw ardystiadau'n effeithiol.

Cwmpas

Mae'r weithdrefn hon yn gymwys i'r canlynol:

  • holl drwyddedeion Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy
  • yr holl unigolion ardystiedig posib a gynigir gan drwyddedeion Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy
  • holl staff CNC sy'n rhan o brosesu ceisiadau ardystio

Ardystio

Bydd ardystiadau ond ar gael yn ystod y tymor casglu cocos, h.y. yn ystod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr. Bydd ardystiad yn para am hyd at 28 o ddiwrnodau. Gall trwyddedai ofyn am hyd at chwe ardystiad ar wahân fesul tymor. Ni all trwyddedai fod â mwy nag un ardystiad gweithredol ar unrhyw adeg. Gall trwyddedai gyflwyno cais am chwe ardystiad olynol mewn un cais (gan ddefnyddio'r un unigolyn ardystiedig). Er y gall y cais gael ei gymeradwyo mewn egwyddor, ni fydd tystysgrifau ar gyfer cyfnodau ardystio dilynol yn cael eu dyrannu nes bod yr unigolyn ardystiedig wedi cwblhau a chyflwyno datganiadau dalfeydd ar gyfer y cyfnod ardystio blaenorol.

Bydd ardystiadau yn cael eu rhoi am resymau salwch (pan fydd rhaid darparu datganiad ffit i weithio) neu mewn amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn CNC.

Cais i ardystio

Mae'n rhaid i drwyddedeion gyflwyno cais ysgrifenedig (drwy'r post neu e-bost) i CNC i gael unigolyn wedi'i ardystio ar eu trwydded. Mae'n rhaid i'r holl geisiadau am ardystiadau gael eu hanfon o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad dechrau'r ardystiad y gofynnir amdano. Mae'n rhaid cyfeirio'r cais cychwynnol hwn at Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy (Cyfoeth Naturiol Cymru, Ffordd Caer, Bwcle, CH7 3AG neu dee.cockle.fishery@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk). Mae'n rhaid i'r cais hwn gynnwys:

  • Y rheswm (rhesymau) dros y cais
  • Hyd yr ardystiad y gofynnir amdano
  • Enw a manylion cyswllt yr unigolyn ardystiedig arfaethedig

Unigolion ardystiedig

Mae'n rhaid i unrhyw unigolyn sy'n cael ei gynnig fel rhywun ardystiedig fod â safle gweithredol ar y Rhestr Dyrannu Trwyddedau. Er mwyn bod yn weithredol ar y rhestr hon, mae'n rhaid i unigolyn ardystiedig basio asesiad person cymwys a phriodol. Ceir manylion llawn am yr asesiad person cymwys a phriodol yn Atodiad 7.

Gall trwyddedai ofyn am restr o unigolion ardystiedig cymwys gan CNC. Darperir y rhestr hon am y rheswm hwn yn unig a rhestrir yr enwau yn ôl trefn yr wyddor.

Bydd unigolion ardystiedig a gynigir sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am safle gweithredol ar y Rhestr Dyrannu Trwyddedau ar gyfer trwydded Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy lawn eisoes wedi cwblhau'r asesiad person cymwys a phriodol ar gyfer y broses honno. Os cafodd yr asesiad person cymwys a phriodol ei basio ganddynt o fewn 12 mis o gais am ardystiad, ni fydd angen asesiad person cymwys a phriodol arall arnynt. Os yw'r cais am ardystiad yn digwydd fwy na 12 mis ar ôl iddynt basio asesiad person cymwys a phriodol, mae'n rhaid cwblhau un newydd.

Yn dilyn cwblhau asesiad person cymwys a phriodol a chael cymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer unigolyn ardystiedig arfaethedig, cysylltir â'r trwyddedai a'r unigolyn ardystiedig arfaethedig, a gofynnir iddynt ddarparu'r dogfennau canlynol i gefnogi eu cais.

Ar gyfer yr unigolyn ardystiedig arfaethedig: 

  • Dogfen adnabod sy'n dangos bod yr unigolyn ardystiedig arfaethedig dros 16 oed
  • Dogfen sy'n dangos prawf o gyfeiriad (trwydded yrru, cyfriflen banc neu fil cyfleustodau)
  • Tystysgrif Goroesi ar y Môr wreiddiol
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf ar y Môr wreiddiol
  • Tystysgrif Casglwr Blaendraeth wreiddiol

Ni dderbynnir tystysgrifau am gyrsiau hyfforddi iechyd a diogelwch (Goroesi ar y Môr, Cymorth Cyntaf ar y Môr, Casglwr Blaendraeth) os ydynt yn fwy na phum mlwydd oed.

Ac os yw'r unigolyn ardystiedig yn cynnig gweithredu cwch ar y Bysgodfa:

  • Tystysgrif i dystio i Lefel 2 Cwch Pŵer y Gymdeithas Hwylio Frenhinol
  • Tystysgrif Gweithredwyr Radio VHF y Gymdeithas Hwylio Frenhinol neu gyfwerth

Cyfrifoldeb y trwyddedai yw parhau i fod mewn cyswllt rheolaidd â’r Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy yn ystod y cyfnod hwn. Gall methu â diweddaru neu gyflenwi'r gwaith papur angenrheidiol olygu y bydd y broses yn cael ei hoedi nes bod y gwaith papur cywir wedi cael ei dderbyn.

Cofnodi a phrosesu dogfennau 

Bydd CNC yn creu ffeil ar gyfer pob cais am ardystiad ac yn creu llungopïau/sganiau o'r holl waith papur perthnasol sy’n ategu'r cais. Bydd y ffeil hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a chaiff ei thrin yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Panel adolygu a chyfweliad

Ar ôl i’r holl waith papur ategol gael ei ddarparu, bydd Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy yn trosglwyddo'r wybodaeth i banel adolygu mewnol. Bydd y panel yn cynnwys o leiaf tri aelod o staff CNC, a fydd yn ystyried y cais a'r gwaith papur ategol i sicrhau cysondeb a thegwch.

Os bydd y panel adolygu mewnol yn cymeradwyo'r cais, yna bydd y Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy yn trefnu i'r trwyddedai a'r unigolyn ardystiedig arfaethedig fynychu swyddog Bwcle am gyfweliad, ynghyd ag aelod o'r Tîm Gorfodi. Caiff y cyfweliad hwn ei gynnal am ardystiad cyntaf yn unig. Ni fydd angen cyfweliadau eraill ar gyfer ceisiadau dilynol o fewn tymor unigol, oni bai fod y trwyddedai'n newid ei unigolyn ardystiedig. Os bydd y panel adolygu mewnol yn gwrthod y cais, bydd y Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy yn rhoi gwybod i'r trwyddedai a'r unigolyn ardystiedig arfaethedig.

Yn ystod y cyfweliad, bydd y Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy a/neu aelod o'r Tîm Gorfodi yn tynnu sylw hefyd at gyfrifoldebau'r trwyddedai a'r unigolyn ardystiedig yn y Bysgodfa. Bydd gan unigolion ardystiedig yr awdurdod i gasglu cocos dan yr un cyfyngiadau a rheoliadau ac amodau trwydded â'r trwyddedai. Caiff copi o'r rhain eu rhoi i'r unigolyn ardystiedig yn ystod y cyfarfod. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn yn golygu na all unigolyn ardystiedig gynaeafu cocos o'r Bysgodfa ar yr un adeg â'r trwyddedai.

Bydd y trwyddedai a'r unigolyn ardystiedig yn llofnodi slip cydnabod yn nodi eu bod yn deall amodau'r ardystiad a bod yr unigolyn ardystiedig wedi derbyn yr ardystiad yn ogystal â chopi o'r cyfyngiadau a rheoliadau a’r amodau trwydded.

Caiff copi o fanylion ardystiad y drwydded ei anfon at y Tîm Gorfodi fel bod modd monitro cydymffurfiaeth â gofynion y drwydded yn effeithiol.

Ardystiad parhaus

Hyd unrhyw ardystiad unigol fydd hyd at 28 o ddiwrnodau. Bydd gan bob deiliad trwydded yr hawl i uchafswm o chwe ardystiad ar wahân mewn unrhyw dymor. Cyfrifoldeb y trwyddedai yw gofyn am ragor o ardystiadau. Pan fo trwyddedai wedi gofyn am chwe chyfnod ardystio parhaus gan ddefnyddio'r un unigolyn ardystiedig, ni fydd angen i’r trwyddedai na'r unigolyn ardystiedig ailgyflwyno dogfennau atodol, ac ni fydd yn rhaid iddynt fynychu ail gyfweliad.

Ni ddylai unigolyn ardystiedig gasglu cocos y tu hwnt i ddyddiad dod i ben ardystiad. Bydd unigolyn ardystiedig ond yn gallu parhau i gasglu cocos unwaith y bydd tystysgrif ardystio newydd yn cael ei chyflwyno gan CNC. Cymerir camau gorfodi yn erbyn unrhyw unigolyn ardystiedig sy'n cael ei ddal yn casglu cocos heb ardystiad dilys. Ni fydd unrhyw ardystiadau eraill yn cael eu dyrannu o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os oes gan y trwyddedai neu'r unigolyn ardystiedig ddatganiadau dalfeydd heb eu cyflwyno
  • os yw'r unigolyn ardystiedig wedi cyflawni trosedd yn y Bysgodfa
  • os yw’r tîm gorfodi wrthi’n cynnal ymchwiliad sy'n ymwneud â'r trwyddedai neu'r unigolyn ardystiedig

Pan fo unigolyn ardystiedig yn gweithio am gyfnodau ardystio parhaus, mae'n rhaid i ddatganiadau dalfeydd am y 21 diwrnod cyntaf o'r cyfnod ardystio gael eu cyflwyno cyn y bydd tystysgrif yn cael ei darparu yn awdurdodi cyfnod ardystio dilynol. Mae'n rhaid cyflwyno'r datganiadau dalfeydd sy'n weddill (diwrnodau 22-28) i swyddfa Bwcle o fewn saith niwrnod o ddechrau'r cyfnod ardystio newydd. Bydd methu â chydymffurfio â hyn yn arwain at atal yr ardystiad.

Cyfrifoldeb yr unigolyn ardystiedig yw nodi dyddiad ac amser gorffen yr ardystiad a pheidio â chynaeafu cocos o'r Bysgodfa y tu hwnt i'r dyddiad hwn oni bai fod ardystiad dilys arall wedi cael ei gyflwyno. Os bydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Bysgodfa y tu hwnt i ddyddiad terfynu'r ardystiad, bydd yn cyflawni trosedd pysgota heb drwydded ddilys a bydd yn destun camau gorfodi priodol.

Tynnu'r ardystiad yn ôl

Gall CNC dynnu’r ardystiad yn ôl dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os bydd trwyddedai yn dymuno tynnu ardystiad yn ôl cyn y dyddiad dod i ben ar y dystysgrif a ddyrannwyd. Mae'n rhaid i CNC gael gwybod yn ysgrifenedig. Bydd hyn yn golygu y bydd yr ardystiad yn cael ei dynnu'n ôl oddi wrth yr unigolyn ardystiedig.
  • Os derbynnir unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy'n bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd unrhyw waith papur a gyflwynwyd fel rhan o gais am ardystiad (gweler yr adran am wybodaeth dwyllodrus isod).
  • Os bydd CNC yn ystyried bod yr unigolyn ardystiedig neu'r trwyddedai wedi torri unrhyw un o'r cyfyngiadau a rheoliadau neu’r amodau trwydded.

Oherwydd bod y broses ardystio yn hollol ddewisol, gall CNC adolygu ardystiad ar unrhyw adeg a chadarnhau, diwygio neu dynnu ardystiad yn ôl yn dilyn hynny.

Gwybodaeth dwyllodrus

Os bydd CNC yn cael gwybod am wybodaeth neu dystiolaeth fod trwyddedai neu unigolyn ardystiedig wedi cyflwyno gwaith papur twyllodrus, caiff unrhyw ardystiad cyfredol ei dynnu'n ôl yn syth.

Mae gan CNC y disgresiwn i gysylltu â chyrff cyhoeddus eraill neu asiantaethau’r llywodraeth os bydd trwyddedai neu unigolyn ardystiedig wedi cyflwyno unrhyw waith papur twyllodrus.

Atodiad 4 – Gofynion diogelwch

Mae'r ddogfen hon yn tynnu sylw at ganllawiau a gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer casglu cocos a gweithio'n rhynglanwol i drwyddedeion a defnyddwyr eraill y Bysgodfa.

Cymwysterau ar gyfer casglu cocos

  • Cwrs/tystysgrif diogelwch casglwyr ar y blaendraeth
  • Tystysgrif goroesi ar y môr
  • Tystysgrif cymorth cyntaf ar y môr y Gymdeithas Hwylio Frenhinol

Y defnydd o gychod

Bydd y cymwysterau isod yn ofynnol i drwyddedeion sy'n defnyddio cwch i gael mynediad i'r Bysgodfa:

  • Lefel 2 Cwch Pŵer y Gymdeithas Hwylio Frenhinol gyda hyfforddiant ardystio rheolaeth neu gwrs cyfwerth neu docyn sgiper dan 16.5 metr Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr
  • Tystysgrif Gweithredwyr Radio VHF y Gymdeithas Hwylio Frenhinol neu gyfwerth

Cyngor diogelwch ar gyfer defnyddio cychod

Gweler yr wybodaeth a'r canllawiau isod a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau ar gyngor diogelwch i gychod sy'n ymwneud â gweithrediadau cocos a'u cyfrifoldeb i reoleiddio a gorfodi'r canlynol:

Bydd cwch sy'n ymwneud mewn unrhyw ffordd â throsglwyddo personél, cyfarpar neu gargo ar gyfer casglu cocos yn yr ardal yn gweithredu'n fasnachol. Disgwylir i'r holl gychod sy'n gweithredu'n fasnachol feddu ar dystysgrif a chydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau priodol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol:

O.S. 2016/354 – Rheoliadau Llongau Masnach (Cychod Gwaith Bach a Chychod Peilot) (Diwygiad) 2016

O.S. 1998/1609 – Llongau Masnach (Cychod Gwaith Bach a Chychod Peilot) – gweler y diwygiadau uchod

MSN 1892 – Rhifyn 2 y cod cychod gwaith (ar gyfer cychod a adeiladwyd ar ôl 31 Rhagfyr 2018)

MGN 280 – Cychod Bach mewn Defnydd Masnachol a Ddefnyddir ar gyfer Chwaraeon neu Hamdden, Cychod Gwaith a Chychod Peilot – Safonau Adeiladu Amgen (ar gyfer cychod a adeiladwyd cyn 31 Rhagfyr 2018)

O.S. 1997/2962 – Llongau Masnach a Chychod Pysgota (Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith)

MIN 538 – Awdurdodiad yr awdurdod cadarnhau

Mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â chychod hyd at 24 metr ar hyd llinell y llwyth ac sy'n cludo hyd at 12 o deithwyr neu bwysau cyfwerth mewn cargo (oddeutu 1,000 kg). Efallai y bydd modd caniatáu rhagor o gargo os oes gan y cwch wybodaeth sefydlogrwydd briodol sydd wedi’i chymeradwyo.

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi dirprwyo'r gwaith arolygu ac ardystio i awdurdodau ardystio. Mae MIN 538, fel a restrir uchod, yn darparu manylion yr awdurdodau ardystio.

Yn ogystal, caiff unrhyw gwch pysgota cofrestredig a ddefnyddir ar gyfer cludo dalfeydd ei ddosbarthu fel cwch sy’n cludo cargo ac felly bydd gofyn iddo gydymffurfio â'r rheoliadau uchod hefyd.

Cyfrifoldeb y perchennog / asiant rheoli a'r sgiper yw sicrhau yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'r mathau hyn o weithrediadau'n gysylltiedig â risgiau a pheryglon penodol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i waith nos a blinder, effeithiau llanwau, amodau tywydd gwael, a halio. Bydd y perchennog yn gwerthuso'r risgiau gyda'r nod o'u lleihau a chreu amgylchedd gwaith diogel, gan fabwysiadu gweithdrefnau a chyfarwyddiadau a fydd yn cael eu dogfennu ac yn ffurfio rhan o System Rheoli Diogelwch.

Bydd mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn drosedd gan y perchennog a meistr y cwch a'r gosb os caiff euogfarn ddiannod fydd dirwy nad yw'n rhagori ar yr uchafswm statudol, neu garcharu am dymor nad yw'n hwy na dwy flynedd neu ddirwy, neu'r ddau, os caiff euogfarn ar dditiad.

Mewn unrhyw achos lle nad yw cwch yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau hyn, bydd y cwch yn atebol i gael ei gadw’n gaeth.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth hon ar wefan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

Atodiad 5 - Gweithdrefn dyrannu trwyddedau

Defnyddir y weithdrefn hon wrth ddyrannu trwyddedau prawf dan Orchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008, ynghyd â darparu fframwaith ar gyfer graddio ymgeiswyr sy'n gymwys am drwydded tymor byr anadnewyddadwy yn y Bysgodfa. Ni all unigolyn feddu ar fwy nag un drwydded ym Mhysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy.

Mae rhestr raddedig a luniwyd yn ôl y weithdrefn hon yn 2021 yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2023, gyda cheisiadau’n agor unwaith eto o 22 Ionawr 2024, i lunio rhestr raddedig newydd a fydd yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2027 (diwrnod olaf y tymor pysgota cyn dyddiad dod i ben y Gorchymyn Rheoleiddio ar 30 Mehefin 2028).  Mae'n rhaid i CNC dderbyn ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 1 Mawrth 2024. Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl y dyddiad cau.

Bydd sgôr 2021 ymgeiswyr 2024 yn cael ei defnyddio ym mhroses 2024. Bydd ymgeisydd sy'n cyflwyno cais yn 2021 ond yn gorfod darparu tystiolaeth ar gyfer 2021, 2022 a 2023 yn ystod proses ymgeisio 2024. Caiff pwyntiau am y blynyddoedd hyn eu hychwanegu at eu sgôr ar gyfer 2021. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr newydd yn 2024 gyflwyno ystod lawn o dystiolaeth sy'n dyddio'n ôl i cyn 1995.

Ceisiadau am drwyddedau

Bydd y penderfyniad i hysbysebu ceisiadau am drwydded prawf yn ôl disgresiwn CNC ac yn seiliedig yn bennaf ar argaeledd trwydded barhaol. Y defnyddiau eilaidd o'r rhestr raddedig fydd nodi unigolyn sy'n gymwys i weithio fel unigolion ardystiedig a'r rheiny fydd yn derbyn trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr os bydd CNC yn dewis eu cyflwyno.

Caiff hysbysebion am geisiadau eu rhoi ar wefan CNC ac ar gyfryngau priodol eraill. Y ffenestr ar gyfer ceisiadau fydd o leiaf pedair wythnos.

Mae'n rhaid i geisiadau gael eu derbyn gan CNC erbyn y dyddiad cau a nodir yn yr hysbyseb. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad cau.

Ni chaiff cais ei ystyried gan unrhyw ymgeisydd nad yw'n 16 oed cyn diwrnod cyntaf y tymor yn y Bysgodfa y mae'r rhestr raddedig yn ddilys amdano. Gydag un eithriad yn unig, ni fydd CNC yn derbyn tystiolaeth a gasglwyd pan oedd yr ymgeisydd dan 16 oed. Os oes gan ymgeisydd drwydded gocos afon Dyfrdwy a ddyrannwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am y blynyddoedd cyn 2008, derbynnir hon, a dim ond hon, fel tystiolaeth a gafwyd cyn cyrraedd 16 oed.

Mewn achosion lle cyflwynir gwybodaeth dwyllodrus fel rhan a/neu wrth gefnogi cais, ystyrir bod y cais hwnnw yn ddi-rym. Pan fo'r wybodaeth dwyllodrus wedi cael ei rhoi gan ymgeisydd arall, bydd ei gais ef yn ddi-rym hefyd.

Proses dyrannu trwyddedau

Mae'n rhaid i'r holl ymgeiswyr basio asesiad person cymwys a phriodol cyn y byddant yn cael eu hystyried am fynediad i'r Bysgodfa. Ceir manylion llawn am yr asesiad person cymwys a phriodol yn Atodiad 7.

Bydd ymgeisydd sy'n methu'r asesiad person cymwys a phriodol yn derbyn sgôr ar ei gais, ond bydd yn cael ei wahardd o'r Rhestr Dyrannu Trwyddedau. I ddechrau, bydd CNC yn ystyried yr holl geisiadau drwy asesu’r canlynol:

  • Yr asesiad person cymwys a phriodol
  • Y manylion ar y ffurflen gais
  • Y dogfennau ategol sydd ynghlwm wrth y cais

Y Wybodaeth Asesu yw’r enw torfol a roddir i’r categorïau gwybodaeth uchod, y dylai pob un ohonynt gael ei gyflwyno i CNC yn ysgrifenedig.

Dylai'r Wybodaeth Asesu ddangos y graddau y mae'r ymgeisydd wedi gwneud y canlynol:

  • Dangos ei fod yn unigolyn addas i gymryd rhan ym Mhysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy. Bydd methu â phasio'r prawf person cymwys a phriodol yn golygu y bydd yr ymgeisydd yn cael ei wahardd o'r Rhestr Dyrannu Trwyddedau.
  • Cymryd rhan mewn modd gweithredol a sylweddol ym Mhysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy neu mewn pysgodfa gocos mewn man arall
  • Gweithredu fel pysgotwr masnachol ar afon Dyfrdwy neu fel pysgotwr masnachol mewn man arall
  • Bod yn berchen ar gwch pysgota cofrestredig neu'n gymwys fel sgiper cwch
  • Wrth gyflwyno Gwybodaeth Asesu i CNC, dylai ymgeiswyr ystyried y canlynol:

Gallai tystiolaeth o gyfranogiad gweithredol a sylweddol ym Mhysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy, neu fel pysgotwr masnachol ar afon Dyfrdwy neu mewn man arall, gynnwys y canlynol:

  • Datganiadau treth, datganiadau dalfeydd, anfonebau gwerthiannau, dogfennau glanio
  • Cofnodion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau o berchnogaeth cychod, cofrestrau fflyd, tystysgrifau gwreiddiol sy'n dangos cymwysterau perthnasol
  • Tystiolaeth o ffynhonnell y gellir ei gwirio i ddangos gweithgarwch yn y diwydiant pysgota megis, ond nid yn gyfyngedig i, drwyddedau neu gyfathrebiadau Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr neu'r Sefydliad Rheoli Morol. Efallai y derbynnir tystiolaeth ffotograffig os yw'n glir ac y gellir ei gwirio (e.e. ffotograffau o drwyddedau) ond ni fydd yn cael ei derbyn os nad oes modd ei gwirio (e.e. ffotograff o unigolyn yn sefyll ar neu ar bwys cwch pysgota).

Tystiolaeth o salwch neu anabledd sy'n rhwystro cyfranogiad yn y Bysgodfa:

Pan all ymgeisydd ddangos cyfranogiad gweithredol a sylweddol yn y Bysgodfa yn ystod o leiaf un tymor pysgota llawn a’i fod yn ystyried y byddai wedi gallu dangos cyfranogiad yn y Bysgodfa yn ystod un neu'n fwy o dymhorau pysgota dilynol heblaw am salwch neu anabledd, yna gall gyflwyno tystiolaeth o'i salwch neu ei anabledd yn lle tystiolaeth o gymryd rhan yn y Bysgodfa yn ystod y tymor/tymhorau pysgota dan sylw.

Gallai tystiolaeth o salwch neu anabledd gynnwys tystiolaeth o daliadau statudol a dderbyniwyd drwy'r cyfnod dan sylw (er enghraifft, ar ffurf tâl salwch statudol, lwfans byw i'r anabl neu fudd-dal analluogrwydd, neu daliadau statudol eraill sy'n ymwneud ag anabledd neu anallu i weithio), neu gyflwyno cofnodion meddygol cyfoes sy'n dangos yn foddhaol nad oedd yr ymgeisydd yn ffit yn feddygol i gymryd rhan drwy'r tymor/tymhorau pysgota dan sylw.

Mae CNC yn cadw'r hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol i wirio ceisiadau. Wrth gyflwyno cofnodion meddygol, mae’n rhaid iddynt fod yng nghwmni ildiad sy'n rhoi caniatâd i CNC gysylltu ag ymarferydd meddygol yr ymgeisydd er mwyn eu gwirio.

Mae CNC yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu dangos bod ganddynt brofiad blaenorol o gasglu cocos ar afon Dyfrdwy, profiad pysgota masnachol arall ar afon Dyfrdwy, a/neu brofiad casglu cocos mewn ardal arall. Bydd CNC yn ystyried yr Wybodaeth Asesu ar gyfer pob ymgeisydd a'i dystiolaeth o gyfranogiad gweithredol a sylweddol, naill ai yn y bysgodfa gocos fasnachol neu mewn pysgodfa fasnachol arall, yn erbyn y meini prawf canlynol:

Adran 1:

Cyn 1995 (unrhyw flwyddyn, uchafswm o 5 pwynt)

5 pwynt am dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol ar afon Dyfrdwy

Adran 2:

1995-2007 (13 blynedd, uchafswm o 33 o bwyntiau, roedd y bysgodfa gocos ar agor ym 1997, 2001, 2002, 2003 a 2005 yn unig)

5 pwynt am dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol ar afon Dyfrdwy

NEU

1 pwynt am dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol eraill ar afon Dyfrdwy

Adran 3:

2008-2017 (10 mlynedd, uchafswm o 50 o bwyntiau)

5 pwynt am bob blwyddyn o dystiolaeth o bysgota am gocos ar afon Dyfrdwy fel deiliad trwydded neu unigolyn ardystiedig

NEU

4 pwynt ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol eraill ar afon Dyfrdwy

NEU

3 phwynt ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth o bysgota am gocos mewn mannau eraill

NEU

2 bwynt ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol eraill mewn ardal arall neu dystiolaeth o berchen ar gwch pysgota cofrestredig neu ardystiad sgiper ar gwch cymwys

Adran 4:

2018-2023 (6 blynedd, uchafswm o 30 o bwyntiau)

Am y cyfnod 2018-2023, mae'n rhaid cyflwyno datganiad treth incwm am bob blwyddyn o dystiolaeth. Mae'n rhaid i'r datganiad treth incwm nodi bod o leiaf peth o'r incwm wedi dod o weithgareddau pysgota masnachol. Os na chaiff datganiad treth incwm ei gyflwyno am unrhyw flwyddyn benodol, yna ni chaiff unrhyw bwyntiau eu sgorio am y flwyddyn honno. Yn ogystal â'r ffurflen dreth incwm, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o'r math o bysgota a’r lleoliad o fewn y flwyddyn dreth honno.

5 pwynt am bob blwyddyn o dystiolaeth o bysgota am gocos ar afon Dyfrdwy fel deiliad trwydded neu unigolyn ardystiedig

NEU

4 pwynt ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol eraill ar afon Dyfrdwy

NEU

3 phwynt ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth o bysgota am gocos mewn mannau eraill

NEU

2 bwynt ar gyfer pob blwyddyn o dystiolaeth o weithgareddau pysgota masnachol eraill mewn ardal arall neu dystiolaeth o berchen ar gwch pysgota cofrestredig neu ardystiad sgiper ar gwch cymwys

Ym mhroses cyflwyno cais 2021, y sgôr uchaf posib fydd 103 o bwyntiau. Yn y blynyddoedd nesaf, bydd uchafswm o 5 pwynt y flwyddyn ar gael. Er enghraifft, yn ystod proses ymgeisio 2024, bydd uchafswm o 15 pwynt ar gael am y cyfnod 2021-2023.

Penderfyniadau

Caiff y cais ei sgorio dros dro gan Swyddog Cocos Aber Afon Dyfrdwy. Yna bydd aelod o'r tîm rheoli cocos yn cysylltu â'r ymgeisydd ac yn rhoi gwybod iddo am ei sgôr dros dro. Yna bydd gan yr ymgeisydd bum niwrnod gwaith o ddyddiad cael ei hysbysu o'i sgôr dros dro i ddarparu rhagor o dystiolaeth y mae'n ystyried ei bod yn berthnasol. Ddeng niwrnod gwaith o'r dyddiad cael gwybod am ei sgôr dros dro, bydd gofyn i'r ymgeisydd gadarnhau, drwy lofnod, ei fod wedi darparu'r holl dystiolaeth berthnasol i gefnogi ei gais.

Unwaith y bydd yr holl geisiadau wedi cael eu sgorio dros dro a bod yr ymgeiswyr wedi cadarnhau eu bod wedi darparu'r holl dystiolaeth berthnasol, caiff y ceisiadau eu hasesu gan o leiaf tri aelod o dîm rheoli cocos CNC er mwyn penderfynu ar y pwyntiau terfynol a safleoedd yr ymgeiswyr wedi hynny.

Bydd tîm rheoli’r bysgodfa gocos yn cynnwys, o leiaf, Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy, rheolwr llinell y Swyddog Cocos, a Rheolwr Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy. Gall y tîm rheoli hefyd gynnwys unigolion eraill o Faes Gwasanaeth Morol CNC sydd â chefndir a phrofiad priodol.

Bydd y tîm rheoli cocos yn archwilio'r holl wybodaeth sydd ganddo, gan gynnwys:

  • Yr asesiad person cymwys a phriodol wedi'i gwblhau
  • Yr Wybodaeth Asesu sydd wedi'i chadarnhau
  • Unrhyw wybodaeth arall y mae CNC wedi'i chael yn ystod y broses ymgeisio

Am yr holl dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer adrannau 1 a 2 (paragraff 17), bydd y tîm rheoli cocos yn ymgynghori â grŵp gwirio sy'n cynnwys is-set o aelodau Grŵp Cynghori Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy. Mae hyn yn golygu y caiff yr holl dystiolaeth o weithgarwch ar afon Dyfrdwy o gyfnod cyn y Gorchymyn Rheoleiddio ei hasesu gan grŵp rhanddeiliaid y cydnabyddir bod ganddynt wybodaeth am weithgareddau hanesyddol ar afon Dyfrdwy. Ni fydd aelodau'r grŵp hwn yn gwybod manylion unrhyw gais a/neu broses sgorio y tu allan i'w gofynion gwirio. Ni chaiff unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd am y cyfnod 2008 ac ymlaen ei chyflwyno i'r grŵp hwn.

  • Caiff unrhyw ymgeisydd sydd â sgôr dros dro sy’n cael ei haddasu gan y tîm rheoli cocoa ar y cam hwn ei hysbysu o'r penderfyniad hwn a bydd yn cael y cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
  • Caiff unrhyw apeliadau a geir o ganlyniad i addasu pwyntiau o'r fath eu prosesu cyn llunio rhestr raddedig derfynol.
  • Bydd CNC yn cofnodi'r gweithrediadau sgorio gan y tîm rheoli ac, yn dilyn cymeradwyaeth sgorau terfynol ceisiadau, bydd yn creu rhestr raddedig o ymgeiswyr. Os bydd dau neu'n fwy o ymgeiswyr yn derbyn sgorau union yr un peth, yna bydd CNC yn cynnal cyfweliadau gyda'r ymgeiswyr hynny er mwyn penderfynu ar eu safle ar y Rhestr Dyrannu Trwyddedau. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ôl y gofyn pan fydd y broses o ddyrannu trwydded (ar brawf neu anadnewyddadwy, tymor byr) yn debygol o gynnwys ymgeiswyr â sgorau sydd yn union yr un peth.
  • Cynhelir y rhestr raddedig o ymgeiswyr fel dogfen gaeedig yn CNC. Caiff ymgeiswyr unigol ymhlith y deg uchaf wybod am eu lle ar y rhestr. Caiff ymgeiswyr nad ydynt ymhlith y deg uchaf wybod nad ydynt ymhlith y deg uchaf. Os caiff trwydded ei dyrannu, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei dynnu o'r rhestr, caiff y deg uchaf 'newydd' wybod am eu lleoedd. Bydd y safleoedd newydd hyn hefyd yn berthnasol os bydd trwyddedau anadnewyddadwy, tymor byr yn cael eu dyrannu.

Hawl i apelio

Os bydd sgôr dros dro ymgeisydd yn cael ei diwygio gan y tîm rheoli cocos, yna bydd yn cael ei hysbysu o'i hawl i apelio.

Ynghyd â hysbysiad o'r hawl i apelio, dylai'r ymgeisydd dderbyn y canlynol:

  • Dogfennau sy’n ymwneud â’r penderfyniad, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol
  • Copi o'r weithdrefn apelio (isod)

Gweithdrefn apelio

Wrth dderbyn apêl gan ymgeisydd, bydd CNC yn ymgynnull panel apeliadau. Dylai'r panel apeliadau gynnwys tri unigolyn, y bydd dau ohonynt yn rheolwyr CNC. Bydd trydydd aelod y panel yn cael ei benodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd cynghorydd cyfreithiol hefyd yn cefnogi'r panel.

Caiff y panel apeliadau ei gadeirio gan un o reolwyr CNC, ond caiff yr holl benderfyniadau eu gwneud fel consensws. Caiff cofnod ysgrifenedig llawn ei lunio o holl drafodion y panel apeliadau.

Os yw sgôr pwyntiau dros dro ymgeisydd yn cael ei haddasu gan y tîm rheoli cocos a’i fod yn dewis apelio, mae'n rhaid iddo gofrestru'r sail dros ei apêl yn ysgrifenedig o fewn deng niwrnod gwaith o ddyddiad cadarnhad ysgrifenedig CNC o'i sgôr. Wrth gofrestru ei sail apelio, mae'n rhaid i'r ymgeisydd nodi a yw'n bwriadu mynychu'n bersonol a chael ei glywed gan y panel apeliadau neu a yw am gyflwyno ei apêl yn ysgrifenedig yn unig. Yna gwneir trefniadau ar gyfer cyfarfod o’r panel apeliadau o fewn 28 niwrnod o gofrestru'r apêl. Bydd Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy yn ymgysylltu â'r ymgeisydd i sicrhau bod unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei chyflwyno i CNC o leiaf pum niwrnod cyn y gwrandawiad.

Os yw'r ymgeisydd yn dewis mynychu'r gwrandawiad, yna mae'r hawl ganddo i un cynghorydd cyfreithiol neu gynrychiolydd neu gefnogwr arall fod yn bresennol. Mae'r hawl ganddo hefyd i alw uchafswm o dri thyst i gefnogi ei apêl. Mae'n rhaid iddo ddweud wrth y panel apeliadau o leiaf pum niwrnod cyn y gwrandawiad os yw'n bwriadu cael tystion neu unrhyw unigolyn arall yn bresennol i gyflawyno tystiolaeth ar ei ran yn y gwrandawiad.

Mewn gwrandawiad apelio a fynychir, bydd cadeirydd y panel apeliadau yn rhoi cyfle i CNC a'r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd gyflwyno tystiolaeth a galw ar dystion perthnasol, ac i bob un gwestiynu'r llall er eglurder neu i herio'r dystiolaeth a gyflwynir.

Os yw'r ymgeisydd yn dewis cyflwyno ei achos yn ysgrifenedig yn unig, bydd CNC yn sicrhau bod yr holl dystiolaeth ar gyfer y panel apeliadau yn cael ei darparu'n ysgrifenedig.

Beth bynnag fydd fformat yr apêl, bydd CNC yn darparu'r holl wybodaeth a roddwyd i'r ymgeisydd ynghylch y penderfyniad i addasu sgôr i'r panel apeliadau fel lleiafswm, fel a nodir uchod.

O fewn pum niwrnod gwaith o wrandawiad y panel apeliadau neu ei ystyriaeth o gyflwyniadau ysgrifenedig, caiff penderfyniad y panel apeliadau ei gyfleu yn ysgrifenedig drwy Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy i'r ymgeisydd.

Bydd Swyddog Cocos Afon Dyfrdwy yn sicrhau, ac yn llunio cofnod ysgrifenedig, fod gan yr ymgeisydd:

  • Yr wybodaeth a roddwyd pan addaswyd y sgôr pwyntiau dros dro
  • Cofnod ysgrifenedig o wrandawiad yr apêl
  • Cofnod o unrhyw wybodaeth newydd a gafodd ei hystyried yn ystod yr apêl
  • Unrhyw ganfyddiadau ffeithiau a'r rhesymau dros benderfyniad y panel apeliadau

Gweithdrefn ar gyfer cynnig trwydded

Os bydd trwydded yn cael ei dyrannu, bydd CNC yn ysgrifennu at yr ymgeisydd ar frig y Rhestr Dyrannu Trwyddedau, gan ei hysbysu o gynnig trwydded wrth dalu'r doll briodol a'i hysbysu o'r dyddiad diwethaf y gall taliad gael ei wneud (y dyddiad cau ar gyfer talu).

Os bydd trwydded yn cael ei chynnig yn y cyfnod rhwng 1 Mehefin a 31 Rhagfyr, y dyddiad cau ar gyfer derbyn taliadau fydd 28 niwrnod o ddyddiad y cynnig. Pan fydd trwydded yn dod ar gael rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr, gall CNC ddefnyddio'i ddisgresiwn o ran a fydd trwydded yn cael ei dyrannu ar unwaith neu ar gyfer dechrau'r tymor nesaf. Os bydd trwydded yn cael ei chynnig yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Mai, y dyddiad cau i dderbyn taliadau fydd 30 Mehefin. Bydd CNC yn dyrannu trwydded ar ôl derbyn taliad wedi'i glirio ar yr amod y bydd y taliad yn cael ei dderbyn (a'i glirio fel sy'n angenrheidiol) erbyn 5pm fan hwyraf ar y dyddiad cau.

Ni fydd CNC yn dyrannu trwydded nes bod taliad yn cael ei wneud ac, os nad yw taliad yn cael ei dderbyn (a'i glirio fel sy'n angenrheidiol) erbyn 5pm ar y dyddiad cau, bydd y cynnig o drwydded yn dod i ben a bydd gan CNC yr hawl i gynnig y drwydded i'r ymgeisydd nesaf ar y rhestr. Caiff ymgeisydd sy'n caniatáu i gynnig trwydded ddod i ben yn y ffordd hon ei dynnu o'r rhestr raddedig.

Os bydd cynnig y drwydded yn cael ei dderbyn, bydd gofyn i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) wasanaethu'r ddau dymor cyntaf fel cyfnod prawf, gyda'r potensial i ddiddymu'r drwydded os na fodlonir y safonau gofynnol. Isafswm y safon fyddai cadw at amodau'r drwydded a chydymffurfio â'r ymdrech bysgota leiaf a nodir ym mharagraff 44 isod. Os ceir y trwyddedai/trwyddedeion ar brawf yn euog o drosedd ar y Bysgodfa neu fel arall yn cyflawni trosedd a fyddai'n achosi i'r trwyddedai ar brawf fethu'r asesiad person cymwys a phriodol, byddai'r drwydded/trwyddedau yn cael eu diddymu.

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n rhaid hefyd i'r holl drwyddedeion ar brawf bysgota o leiaf 45% o’r llanwau sydd ar gael ym mhob tymor ar brawf. Ni fydd caniatâd gan drwyddedai ar brawf i ddefnyddio unigolyn ardystiedig.

Dyrannu trwyddedau mewn blwyddyn ddilynol

Bydd unigolion sydd wedi meddu ar drwydded (ac eithrio trwydded anadnewyddadwy tymor byr) yn y tymor blaenorol yn cael gwybod gan CNC am yr angen i gyflwyno cais am y tymor i ddod drwy'r post. Caiff y llythyr hwn, ynghyd â ffurflen gais, ei anfon gan CNC cyn gynted â phosib ar ôl diwedd y tymor.

Mae'n rhaid i CNC dderbyn ceisiadau am y tymor i ddod o fewn chwe wythnos o’r dyddiad pan anfonir y llythyr gan CNC. Caiff y dyddiad cau penodol ei nodi yn y llythyr.

Os nad yw trwyddedai o’r tymor blaenorol wedi dychwelyd ei ffurflen gais erbyn y dyddiad cau hwn, yna bydd CNC yn cysylltu ag ef i ystyried a oes unrhyw amgylchiadau lliniarol arbennig sy’n cyfiawnhau derbyn cais yn hwyr. Bydd unrhyw benderfyniad i alluogi cais hwyr i barhau yn ôl disgresiwn CNC.

Bydd trwyddedau'n cael eu dyrannu i'r holl unigolion oedd â thrwydded (ac eithrio trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr) yn ystod y tymor blaenorol sy'n dymuno parhau i bysgota. Os dirymir trwydded trwyddedai, yna ni fydd yn gymwys am drwydded yn y tymor nesaf.

Bydd methu ag adnewyddu trwydded mewn unrhyw flwyddyn pan fo trwyddedau ar gael yn arwain at yr unigolyn yn colli ei hawl i drwydded. Gwneir eithriadau am salwch tymor hir yn unig wrth dderbyn tystiolaeth feddygol ac yn ôl disgresiwn CNC.

Dyrannu trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr

Bydd y penderfyniad i ddyrannu trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr, gan gynnwys nifer a hyd trwyddedau o'r fath, yn ôl disgresiwn CNC ac yn seiliedig ar y canlynol: canlyniadau asesiadau stoc y gwanwyn a'r hydref yn y Bysgodfa; dadansoddiad o ddatganiadau dalfeydd; a'r asesiad priodol i gael ei wneud yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Dyrennir trwydded anadnewyddadwy tymor byr am gyfnod o lai na thymor llawn, a bydd yn gymwys mewn tymor unigol yn unig.

Bydd y Rhestr Dyrannu Trwyddedau a grëir gan y broses dyrannu trwyddedau yn parhau i fod yn ddilys am y cyfnodau a nodir ym mharagraff 2 uchod.

Os bydd CNC am ddyrannu trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr, cânt eu cynnig i'r unigolyn/unigolion â’r safle uchaf ar y Rhestr Dyrannu Trwyddedau ar ôl yr ymgeisydd llwyddiannus blaenorol. Bydd CNC yn ysgrifennu at bob unigolyn yn ei hysbysu am y cynnig o drwydded anadnewyddadwy tymor byr wrth dalu'r ffi briodol a'i hysbysu o'r dyddiad diwethaf y gall taliad gael ei wneud (dyddiad cau'r taliad). Sonnir am gyfrifo ffioedd am drwyddedau anadnewyddadwy tymor byr ym mharagraff 59 isod.

Y dyddiad cau ar gyfer talu fydd 28 niwrnod ar ôl dyddiad y llythyr cynnig.

Bydd CNC yn dyrannu trwydded anadnewyddadwy tymor byr wrth dderbyn taliad wedi'i glirio ar yr amod y bydd y taliad yn cael ei dderbyn (a'i glirio fel sy'n angenrheidiol) erbyn 5pm fan hwyraf ar y dyddiad cau ar gyfer taliadau.

Ni fydd CNC yn dyrannu trwydded anadnewyddadwy tymor byr nes bod taliad wedi'i wneud ac, os nad yw taliad wedi cael ei dderbyn (a'i glirio fel sy'n angenrheidiol) erbyn 5pm ar y dyddiad cau ar gyfer taliadau, bydd y cynnig o drwydded anadnewyddadwy tymor byr yn dod i ben a bydd gan CNC yr hawl i gynnig y drwydded anadnewyddadwy tymor byr i'r unigolyn nesaf ar y rhestr raddedig.

Gall trwydded anadnewyddadwy tymor byr a ddyrennir dan yr adran hon awdurdodi unigolyn i bysgota am gocos am y dyddiadau a nodir ar y drwydded a'r tymor pysgota y mae'n ymwneud ag ef yn unig.

Nid yw dyraniad trwydded anadnewyddadwy tymor byr dan yr adran hon yn rhoi'r hawl i unigolyn gael trwydded (adnewyddadwy tymor byr neu fel arall) wedi’i dyrannu iddo mewn tymhorau dilynol.

Bydd unigolion sy'n derbyn cynnig o drwydded anadnewyddadwy tymor byr dan yr adran hon yn cadw eu lle ar y rhestr raddedig am ddyraniad trwydded ar brawf ni waeth a ydynt yn derbyn neu'n gwrthod y cynnig o drwydded anadnewyddadwy tymor byr.

Ffioedd trwyddedau

Y ffi am drwydded ar gyfer tymor 2020 oedd £1,800. Adolygir y ffi sy'n daladwy am drwydded tymor llawn yn gyfnodol ac mae'n seiliedig ar gostau rhagweledig monitro, rheoli a gorfodi am y flwyddyn, gan gynnwys amser staff a chostau parhaus:

Ffi'r drwydded = (A x B) / N

Lle:

A = diwrnodau gwaith blynyddol ar arolygu, gorfodi, gweinyddu a gwaith perthnasol arall

B = cost staff fesul diwrnod gwaith (£)

N = nifer y trwyddedau

Caiff y ffi drwydded am ran o dymor neu drwydded anadnewyddadwy tymor byr ei chyfrifo yn yr un ffordd ag ar gyfer trwyddedau tymor llawn. Fodd bynnag, codir ffioedd ar sail pro rata yn seiliedig ar y tymor pysgota yn para o 1 Gorffennaf tan 31 Rhagfyr. Os bydd trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr yn cael eu dyrannu am lai nag wythnos, bydd ffi drwydded o o leiaf £200.

Atodiad 6 – Polisi gorfodi ac erlyn

Darllenwch ein polisi gorfodi ac erlyn.

Atodiad 7 – Asesiad person cymwys a phriodol

Bydd gofyn i ymgeiswyr i'r Weithdrefn Dyrannu Trwyddedau ar gyfer trwydded gocos afon Dyfrdwy fod yn destun asesiad person cymwys a phriodol er mwyn derbyn lle gweithredol ar y rhestr raddedig ar gyfer dyraniad trwydded barhaol (cyfnod prawf) neu anadnewyddadwy tymor byr neu i gael eu hystyried fel unigolion ardystiedig.

Bydd lle unrhyw ymgeiswyr nad ydynt yn pasio'r asesiad person cymwys a phriodol ar y rhestr raddedig yn cael ei atal nes eu bod yn gallu pasio'r asesiad person cymwys a phriodol.

Bydd yr asesiad person cymwys a phriodol yn cynnwys tair adran ar wahân:

  • Euogfarnau a rhybyddiadau pysgodfeydd heb eu disbyddu
  • Euogfarnau a rhybuddiadau troseddol perthnasol eraill sydd heb eu disbyddu (i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i droseddau sy'n ymwneud â thrais, bygwth, twyll, cyffuriau, masnachu pobl, caethwasiaeth fodern)
  • Hanes o ddiffyg cydymffurfio neu ymddygiad gwael

Euogfarnau a rhybyddiadau pysgodfeydd heb eu disbyddu

Ystyrir bod ymgeisydd wedi methu asesiad person cymwys a phriodol os oes ganddo euogfarn heb ei disbyddu dan adran 3 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967. Ystyrir bod euogfarnau pysgodfeydd dan Ddeddf 1967 wedi disbyddu 12 mis ar ôl dyddiad yr euogfarn.

Ystyrir bod ymgeisydd wedi methu asesiad person cymwys a phriodol hefyd os oes ganddo unrhyw euogfarn pysgodfa heb ei disbyddu mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â physgodfeydd. Ystyrir euogfarnau pysgodefydd o dan ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â physgodfeydd fel rhai sydd wedi'u disbyddu yn unol ag amodau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Ystyrir bod ymgeisydd wedi methu asesiad person cymwys a phriodol os yw wedi derbyn rhybuddiad amodol ffurfiol mewn perthynas â physgodfa yn y tri mis cyn dyddiad ei gais. Tri mis ar ôl dyddiad y rhybuddiad amodol ffurfiol, bydd y rhybuddiad wedi'i ddisbyddu.

Wrth ystyried euogfarnau a rhybuddiadau pysgodfeydd, bydd CNC yn defnyddio ei gofnodion gorfodi ei hun yn ogystal â'r rheiny gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau pysgodfeydd a chadwraeth y glannau, ac unrhyw reoleiddiwr pysgodfeydd arall.

Euogfarnau a rhybuddiadau troseddol perthnasol eraill sydd heb eu disbyddu

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i nodi unrhyw euogfarnau sydd heb eu disbyddu. Gofyn am wiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – GOV.UK (www.gov.uk) Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am gost eu gwiriad eu hun gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ddilys am 12 mis. Er mwyn parhau i fod yn weithredol ar y rhestr raddedig am drwydded barhaol (ar brawf), neu ar y rhestr o unigolion ardystiedig cymwys, mae'n rhaid i ymgeisydd adnewyddu ei wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob 12 mis. Pan fydd y gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dod i ben, caiff ymgeisydd ei wahardd nes bod adnewyddiad yn cael ei ddarparu.

Os, yn ystod y cyfnod pan fydd gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ddilys, bydd CNC yn cael gwybod bod ymgeisydd wedi ymgymryd â gweithgaredd a fyddai'n golygu methu asesiad person cymwys a phriodol, gall CNC wahardd yr unigolyn.

Tybir bod ymgeisydd wedi methu asesiad person cymwys a phriodol os oes ganddo euogfaen berthnasol arall sydd heb ei disbyddu. Ystyrir euogfarnau dan ddeddfwriaeth arall i fod wedi'u disbyddu yn unol ag amodau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Ystyrir bod ymgeisydd wedi methu asesiad person cymwys a phriodol os yw wedi derbyn rhybuddiad amodol ffurfiol am drosedd berthnasol yn ystod y tri mis cyn dyddiad ei gais. Tri mis ar ôl dyddiad y rhybuddiad amodol ffurfiol, bydd y rhybuddiad wedi'i ddisbyddu.

Wrth ystyried rhybuddiadau amodol am droseddau perthnasol eraill, bydd CNC yn cysylltu â'r heddlu.

Hanes o ddiffyg cydymffurfio neu ymddygiad gwael

Wrth asesu addasrwydd ymgeisydd, bydd CNC yn ystyried a oes gan yr ymgeisydd hanes gwael o gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • derbyn hysbysiadau gorfodi ffurfiol (llythyrau cyngor ac arweiniad neu lythyrau rhybuddio)
  • hanes o ddiffyg cydydymffurfio â'r cyfyngiadau a rheoliadau yng Ngorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 a Chynllun Rheoli Cocos Afon Dyfrdwy
  • hanes o ddiffyg cydymffurfio ag amodau trwyddedau
  • ymddygiad gwael y mae'r rheoleiddiwr yn ystyried ei fod yn annerbyniol. Gallai hyn gynnwys gweithredoedd corfforol neu iaith (ysgrifenedig, llafar neu ar-lein) sy'n peri i staff neu randdeiliaid eraill y bysgodfa deimlo eu bod wedi'u bygwth, yn ofnus, dan fygythiad neu wedi'u difrïo. Gall atal mynediad i'r bysgodfa, methu â darparu'r dogfennau angenrheidiol, a datganiadau anonest hefyd gael eu hystyried yn ymddygiad gwael

Os bydd CNC yn penderfynu bod ymgeisydd wedi methu’r asesiad person cymwys a phriodol oherwydd diffyg cydymffurfiaeth neu ymddygiad gwael, bydd hefyd yn cael ei wahardd o'r rhestr raddedig am 12 mis o ddyddiad cael gwybod am fethu'r asesiad person cymwys a phriodol.

Rheoli’r rhestr dyrannu trwyddedau

Bydd CNC yn cynnal rhestr o ymgeiswyr yn ôl eu trefn am drwydded barhaol (ar brawf), a rhestr o bobl sy'n gymwys i fod yn ardystiedig, gan gofnodi unigolion gweithredol a’r rhai sydd wedi'u gwahardd.

Caiff y rhestr o unigolion gweithredol sy'n gymwys i weithio fel unigolion ardystiedig ei chyflwyno yn ôl trefn yr wyddor. Bydd y rhestr hon ar gael i ddeiliaid trwyddedau sy'n gofyn am ardystiad ar eu trwydded yn unig. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn rhoi caniatâd i CNC ddarparu enw a manylion cyswllt yn ymddangos ar y rhestr o 'unigolion ardystiedig cymwys'.

Ni fydd unigolion sydd wedi'u gwahardd o'r rhestr yn gymwys am drwydded (ar brawf neu dymor byr, anadnewyddadwy).

Ni fydd unigolion sy'n cael eu gwahardd o'r rhestr yn gymwys i weithio fel unigolion ardystiedig ar drwydded barhaol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf