Cyflwyniad 

  • Rydym newydd gyhoeddi ein cynllun corfforaethol newydd hyd at 2030 – ‘Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd’, sy'n nodi ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n hamcanion llesiant hyd at 2030.
  • Yn ein cynllun corfforaethol, rydym yn nodi pwysigrwydd mesur ein perfformiad a’n heffaith ein hunain wrth gyflawni ein hamcanion llesiant a’r camau i’w cymryd, fel y gallwn gael ein dwyn i gyfrif gan Weinidogion a phobl Cymru.
  • Gwnaethom nodi ein hymrwymiad i gryfhau ein fframwaith perfformiad drwy ddatblygu dangosyddion integredig sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n cyd-fynd â’r amcanion llesiant a’r camau i’w cymryd.
  • Wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith datblygu hwn, mae Bwrdd CNC wedi cytuno bod y cynllun busnes ar gyfer 2023/24 yn dwyn ymlaen y mesurau hynny o gynllun busnes 2022/23 sy’n cyd-fynd â’r amcanion llesiant.
  • Mae’r cynllun busnes hwn yn nodi’r hyn y byddwn yn ei gyflawni ym mlwyddyn gyntaf y cynllun corfforaethol hwnnw yn 2023/24, a’r adnoddau (staff ac ariannol) y byddwn yn eu defnyddio i wneud hyn.

Natur a Phobl yn Ffynnu gyda’n Gilydd – ein cynllun corfforaethol newydd hyd at 2030 

  • Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn canolbwyntio ar ein tri amcan llesiant, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o Natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd. Er bod y cynllun corfforaethol yn mynd â ni i 2030, rydym yn gweld hyn fel cam ar y ffordd i 2050. 
  • Mae ein hamcanion llesiant fel a ganlyn: 
    • Mae natur yn gwella
    • Mae cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
    • Mae llygredd yn cael ei leihau

Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni yn 2023/24

Mae’r tablau isod yn dangos y meysydd gwaith hynny lle byddwn yn olrhain perfformiad yn 2023/24: 

Amcan Llesiant 1: Mae natur yn gwella / Bydd adferiad natur yn sicr yn 2030

  • Natur yn cael ei hamddiffyn

Camau i'w cymryd

Mesurau

Gwella cyflwr nodweddion ar safleoedd daearol, morol a dŵr croyw gwarchodedig trwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Cymryd camau blaenoriaeth ar safleoedd gwarchodedig ledled Cymru i wella cyflwr nodweddion

Diogelu rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddifodiant trwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth, a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Cyflawni camau gweithredu wedi'u targedu ar gyfer rhywogaethau sy'n prinhau neu'r rhai sydd ar fin diflannu

 

  • Natur yn cael ei hadfer

Camau i'w cymryd

Mesurau

Cyflymu gwelliannau i gyflwr y Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig trwy waith monitro ac ymchwiliadau cadarn, tystiolaeth, cyngor, a gweithio gydag eraill ar gyflawni prosiectau

Cyflawni camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru

Meithrin cydnerthedd safleoedd gwarchodedig daearol, dŵr croyw a morol, gan eu trawsnewid yn rhwydweithiau mwy a gwell â chysylltiadau mwy effeithiol trwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a thrwy gynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Rheoli rhaglenni a chyfrannu atynt i fynd i'r afael â chynefinoedd ledled Cymru a'u hadfer

Cyflymu gweithredu er mwyn adfer byd natur ar raddfa tirwedd trwy rannu ein tystiolaeth a’n harbenigedd gyda Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid eraill

Gwerthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

 

  • Natur yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau

Camau i'w cymryd

Mesurau

Diwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol i ysgogi gweithredu dros fyd natur trwy gasglu, rheoli, syntheseiddio, gwerthuso a chyfathrebu ein tystiolaeth ni a thystiolaeth eraill

Cwblhau ein hadolygiad monitro ansawdd dŵr croyw

 

  • Natur, pobl a chymunedau yn cael eu hailgysylltu

Camau i'w cymryd

Mesurau

Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros fyd natur trwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad

Rhannu'r weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol hyd at 2050 – Natur a Ni

 

Amcan Llesiant 2: Mae cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd / Bydd gallu cymunedau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn sicr yn 2030

  • Atebion ar sail natur yn cael eu mabwysiadu'n eang

Camau i'w cymryd

Mesurau

Adfer mawndiroedd trwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan weithio gyda phartneriaid cyflawni, gan gynnwys ar y tir yn ein gofal, a defnyddio ystod o offer cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Cymryd camau i adfer mawndiroedd Cymru, gan gynnwys mawndir ar y tir yn ein gofal

Creu coetiroedd newydd ac adfer coetiroedd hynafol ar y tir yn ein gofal trwy brynu tir ar gyfer creu coetir yn unig, er mwyn gwneud iawn am goetir a droswyd yn barhaol i ddefnyddiau tir eraill, a newid y coed ar safleoedd coetir hynafol a blannwyd yn raddol i rywogaethau sy’n adlewyrchu eu cadwraeth natur a'u gwerth diwylliannol yn well

Creu ardal o goetir newydd ar y tir yn ein gofal

 

  • Y risgiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd yn cael eu rheoli ac addasir iddynt

Camau i'w cymryd

Mesurau

Lleihau’r perygl o lifogydd i fywyd drwy reoli ein hasedau llifogydd a’n seilwaith ar gyfer perygl llifogydd yn awr ac yn y dyfodol a chynllunio ar gyfer newid drwy gynnal ac addasu’r asedau llifogydd a’r seilwaith yr ydym yn atebol amdanynt

1.    Cynnal asedau perygl llifogydd mewn systemau risg uchel ar gyflwr targed

 

2.    Llunio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Lleihau’r perygl i fywyd o lifogydd i bobl a chymunedau o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr, trwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd

1.    Mae lefel is o risg i eiddo, neu warchodaeth barhaus iddo, trwy waith cyfalaf

2.    Gweithredu argymhellion / camau gweithredu’r Adolygiad Llifogydd

 

  • Allyriadau hinsawdd yn cael eu lleihau

Camau i'w cymryd

Mesurau

Sicrhau potensial cynhyrchu pren Ystad Goetir Llywodraeth Cymru trwy ddarparu pren y gellir ei gynaeafu sy’n bodloni safonau byd-eang o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy

Cyfaint y pren a gynigir i'r farchnad

 

  • Camau parhaus ar y newid yn yr hinsawdd yn cael eu cymryd gan bobl, cymunedau a busnesau

Camau i'w cymryd

Mesurau

Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros yr hinsawdd drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad

Rhannu'r weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol hyd at 2050 – Natur a Ni

 

  • CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus carbon bositif

Camau i'w cymryd

Mesurau

Lleihau allyriadau cerbydau drwy ddefnyddio cerbydau allyriadau isel iawn lle bynnag y bo modd, gan ddefnyddio biodiesel a mesurau effeithlonrwydd tanwydd yn y cyfamser

Datblygu fflyd allyriadau isel a darparu ystâd adeiledig allyriadau isel sydd wedi’i haddasu i’r hinsawdd

 

Amcan Llesiant 3: Mae llygredd yn cael ei leihau / Bydd natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llygredd yn 2030 

  • Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio

Camau i'w cymryd

Mesurau

Sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys gweithgareddau anghyfreithlon nas caniateir, yn cymryd camau effeithiol i reoli a lleihau llygredd a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy’n nodi’n effeithiol y safonau sydd eu hangen i sicrhau cydymffurfedd

Mae achosion Categori 1 a Chategori 2 o ddiffyg cydymffurfio yn destun ymdrech gydymffurfio bellach (camau gweithredu neu adolygiad)

Lleihau llygredd tir a dŵr trwy gydweithio i ysgogi gweithredu cadarnhaol a chreu atebion effeithiol

Cynnydd CNC ar y canlyniadau allweddol ar gyfer Prosiect Afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Diogelu'r amgylchedd a gwella perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr trwy herio eu rhaglenni buddsoddi yn effeithiol i sicrhau camau gwella

Cyflwyno mewnbwn CNC i wahanol raglenni cynllunio’r cwmnïau dŵr

Lleihau llygredd mewn dyfroedd gwarchodedig iawn a dyfroedd dynodedig trwy nodi'r camau gweithredu sy'n ofynnol gan ystod o sectorau

Cyflwyno rhaglenni i adolygu gofynion ansawdd dŵr statudol

Adfer ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt gan etifeddiaeth mwyngloddiau metel segur trwy ddefnyddio ein tystiolaeth a chydweithio i nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu

Cynnydd ein gwaith i leihau llygredd o fwyngloddiau metel

 

  • Ymateb i ddigwyddiadau yn seiliedig ar risg

Camau i'w cymryd

Mesurau

Lleihau niwed o ddigwyddiadau llygredd amgylcheddol trwy baratoi ar gyfer ac ymateb i ddigwyddiadau blaenoriaeth fel ymatebwr Categori 1

Ymateb i ddigwyddiadau a gategoreiddiwyd yn wreiddiol fel ‘Uchel’ o fewn 4 awr

Lleihau’r niwed o droseddau amgylcheddol difrifol trwy ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau cryf a phendant

Penderfyniad ar ymateb gorfodi priodol o fewn 3 mis

 

  • Camau parhaus i leihau llygredd gan bobl, cymunedau a busnesau

Camau i'w cymryd

Mesurau

Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn cymryd camau i leihau llygredd trwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad

Rhannu'r weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol hyd at 2050 – Natur a Ni

 

  • Camau parhaus ar y newid yn yr hinsawdd yn cael eu cymryd gan bobl, cymunedau a busnesau

Camau i'w cymryd

Mesurau

Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros yr hinsawdd drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad

Rhannu'r weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol hyd at 2050 – Natur a Ni

 

Cytundebau Lefel Gwasanaeth 

  • Yn ystod 2022/23, fe wnaethom ddatblygu a chytuno ar lefelau gwasanaeth ar draws meysydd allweddol o’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru. Mae'r cytundebau lefel gwasanaeth hyn yn cwmpasu'r meysydd gwaith canlynol:
    • Rheoli perygl llifogydd
    • Ystad CNC (gan gynnwys yr ystâd goetir)
    • Rheoli digwyddiadau llygredd
    • Gorfodi
    • Ansawdd dŵr
    • Galluogi cynlluniau plannu coed
    • Monitro dŵr croyw
    • Monitro daearol
    • Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
    • Monitro morol

Mae pob cytundeb lefel gwasanaeth yn nodi'r adnoddau sydd eu hangen (£ ac FTE) i ddarparu gwahanol lefelau o wasanaeth. Nid yw pob maes o'n gwaith yn cael ei gwmpasu gan y cytundebau lefel gwasanaeth.  Byddwn yn datblygu'r rhain dros y 12-18 mis nesaf i ddarparu cwmpas cyflawn ar gyfer pob maes o'r busnes.

Adnoddau 

  • Daw ein cyllid o sawl ffynhonnell, gyda’r mwyafrif yn gymorth grant gan Lywodraeth Cymru – refeniw a chyfalaf, gyda chyfran wedi’i neilltuo ar gyfer ein gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Daw ein ffynonellau ariannu eraill o’n gweithgareddau masnachol (gan gynnwys gwerthu pren), codi tâl, grantiau Llywodraeth Cymru a grantiau eraill (fel gan y Loteri a grantiau’r Undeb Ewropeaidd gynt).
  • Rhennir ein gwariant rhwng costau staff, costau nad ydynt yn ymwneud â staff, a phrosiectau cyfalaf a refeniw.
  • Rydym yn cyflogi tua 2,400 o staff yn uniongyrchol ledled Cymru ac yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys darparu cyllid grant ein hunain, neu ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r tablau canlynol yn dangos ein sefyllfa ariannol a staff ar gyfer 2023/24:

CYLLIDEB GWARIANT 2023-24

Cyfarwyddiaeth

Staff
£000

Heb fod yn staff
£000

Prosiectau refeniw
£000

Prosiectau cyfalaf
£000

Cyfanswm
£000

Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

6,116

15,634

0

0

21,750

Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

8,512

1,894

160

0

10,566

Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

 

31,045

29,295

4,010

5,241

69,591

Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

 

7,691

19,409

1,400

10,426

38,926

Gweithrediadau

 

56,919

22,972

7,083

38,470

125,444

Cyfanswm y Gyllideb Gwariant

110,284

89,204

12,653

54,137

266,278

Ein Fframwaith Perfformiad 

  • Gyda chyhoeddiad ein cynllun corfforaethol ym mis Ebrill 2023, rydym ar ddechrau cylch cynllunio busnes newydd. Os ydym am fwrw ymlaen â'r uchelgais yn ein cynllun corfforaethol, mae angen inni gryfhau a gwella ein fframwaith cynllunio busnes a pherfformiad sefydliadol er mwyn sicrhau ein bod yn blaenoriaethu'r gwaith o gyflawni'r pethau sydd bwysicaf.
  • Mae angen i ni symud i broses gadarn a diffiniedig a fydd yn galluogi blaenoriaethu, gwella craffu, grymuso, a hwyluso gwneud penderfyniadau i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein cynllun corfforaethol yn effeithiol. Bydd angen i'r fframwaith gasglu a chynrychioli'r buddion lluosog ehangach a gyflawnir trwy ein gwaith ar gyfer pobl, natur a’r hinsawdd ac i leihau llygredd. Rhaid i'r persbectif ehangach, integredig hwn lywio ein dewisiadau ynghylch ble rydym yn dyrannu ein hadnoddau, yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Rydym yn datblygu dangosyddion strategol sy’n cyd-fynd â’r amcanion llesiant y byddwn yn eu defnyddio i fesur cynnydd dros y cyfnod 2023-2030. I gefnogi hyn, bydd metrigau perfformiad gweithredol a cherrig milltir sy'n cyd-fynd â'r cynllun busnes blynyddol. Byddwn yn ceisio adborth ar y dangosyddion strategol arfaethedig ym mis Medi 2023 gyda’r bwriad o’u defnyddio o 1 Ebrill 2024.
  • Bydd ein Tîm Gweithredol ac aelodau ein Bwrdd yn craffu ar berfformiad yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, gan helpu i sicrhau bod adnoddau'n cael eu cyfeirio at y mannau lle gallant ddarparu'r budd mwyaf.

Rydym yn gobeithio y bydd ein cynllun busnes o ddiddordeb ac yn ddefnyddiol i chi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio corporate.planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf