Rhagair

Pan wnaethom ni ddatblygu’r fersiwn gyntaf o’r strategaeth hon ar ddechrau 2021, roedd y wlad yng ngafael pandemig Covid. Ar adeg yr adolygiad hwn, rydym ni’n dod allan o’r pandemig, ond mae effeithiau economaidd hirdymor yn dal i ddod i’r amlwg, ac rydym bellach yn teimlo effaith argyfwng costau byw, rhyfel yn Wcráin ac argyfwng cyflenwad ynni. Mae'r strategaeth hon yn parhau i fod yn llwyfan hanfodol i herio, lliniaru a gwella amodau, ac i sbarduno dull mwy gwyrdd a chynaliadwy o ymdrin â gweithgareddau masnachol.

Yn y Strategaeth Fasnachol V1.2 rydym wedi ailasesu'r sefyllfa polisi cyfredol ac wedi ystyried gwaith a gyflawnwyd dros ddwy flynedd gyntaf y Strategaeth i sicrhau bod y Strategaeth hon yn parhau i fod yn ddeinamig ac yn gyfredol. Mae’r manylion bellach yn gliriach ynghylch sut y bydd tirwedd ynni Cymru yn newid gyda’r Asiantaeth Datblygwyr Ynni Gwynt ar y tir a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Mae CNC wedi archwilio ffyrdd newydd o werthu cynnyrch pren a chynyddu cyfranogiad y gymuned yn y marchnadoedd pren. Rydym hefyd wedi atgyfnerthu ein gallu i fynd ar drywydd mwy o weithgareddau twristiaeth a hamdden yn rhagweithiol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Gall mabwysiadu agwedd wyrddach a mwy cynaliadwy at weithgareddau masnachol ein helpu i wneud mwy i’r amgylchedd ac i bobl ac economi Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn greiddiol i’n huchelgais a’n gweledigaeth mae creu incwm ar gyfer CNC drwy weithgareddau masnachol cynaliadwy, er mwyn i ni allu gwneud mwy dros Gymru o safbwynt lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod mai sail pob un o’n gweithgareddau masnachol yw gwerthoedd ein sefydliad, ein cyfrifoldeb i sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, yn ogystal â’n cyfrifoldeb ehangach i amcanion llesiant Cymru. Yn ddiweddar, mae CNC wedi cytuno ar ei Gynllun Corfforaethol newydd sy’n defnyddio iaith a chanlyniadau symlach er mwyn canolbwyntio ar yr argyfyngau Natur, Hinsawdd a Llygredd. Yn ein fersiwn gyntaf o'r strategaeth hon, buom yn trafod defnyddio dull Planed, Pobl a Ffyniant, ac erbyn hyn ar adeg yr adolygiad hwn rydym ar fin treialu Llawlyfr newydd sy'n darparu ffordd bendant a mesuradwy o ddangos sut mae ein gweithgaredd masnachol yn cefnogi'r nodau hyn.

Cyfle ac arloesi rhagweithiol yw ein normal newydd, gan gydweithio i ddatblygu dull unigryw yng Nghymru o gyflawni uchelgais y genedl ar gyfer economi wirioneddol gylchol.

Sarah Jennings
Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach

Pwrpas ein strategaeth fasnachol

Mae'r strategaeth hon yn nodi ein dull o wneud y gorau o'r buddion Ffyniant, Pobl a'r Blaned i fenter a datblygiad masnachol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Rydym eisoes yn rheoli ein gweithgareddau masnachol yng nghyd-destun Amcanion Llesiant CNC ac o fewn y cylch gwaith i gyflawni yn erbyn egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR).

Ond ein dyhead yw i wneud mwy, felly er mai nid bod yn fasnachol er mwyn bod yn fasnachol yw ein nod, mae ein strategaeth yn uchelgeisiol ac nid ydym yn ofni syniadau ac egwyddorion mawr.

Rydym yn cydnabod bod gennym rôl bwysig i'w chwarae yn adferiad economaidd gwyrdd Cymru ar ôl pandemig Covid-19, a thrwy'r argyfwng costau byw presennol a'r cynnydd mewn chwyddiant, ac yn credu bod datblygu cynaliadwy a chefnogi economi gylchol yn allweddol i adferiad Cymru a ffyniant yn y dyfodol.

Mae CNC yn wynebu heriau yn sgil y gofynion cynyddol ar ein gwasanaethau a chyfyngiadau pellach ar ein hadnoddau.

Gyda’r mecanwaith cywir ac os y gallwn gynnal ein hincwm ein hunain, gall gweithgareddau masnachol fod o gymorth i leihau’r ddibyniaeth ar nawdd Cymorth Grant, a’n galluogi i wneud mwy dros yr amgylchedd a thros bobl Cymru, gan hefyd ryddhau cyllid at ddibenion cymdeithasol eraill.

Mae’r Strategaeth Fasnachol hon yn cynnig fframwaith newydd o amgylch amcanion a dyheadau tymor hir portffolio cyfan CNC. Mae’n ddogfen ddynamig, sy’n cael ei diweddaru’n flynyddol er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn hyblyg ac yn gallu esblygu i gyd-fynd â deddfwriaethau a pholisïau cyfredol ac amgylchedd masnachol sy’n newid yn barhaus. Fe’i cefnogir gan gynlluniau manylach, sector-benodol, sydd mewn gwell sefyllfa i ystyried gofynion sy’n benodol i’r diwydiant ac ystyriaethau masnachol ar gyfer y dyfodol agos.

Cafwyd adborth gan ein rhanddeiliaid a’n partneriaid sy’n dangos eu bod yn gytûn ynglŷn â’r hyn yr hoffent ei weld o safbwynt gweithgareddau masnachol CNC yn ystod y pum mlynedd nesaf ac rydym wedi mabwysiadu hynny yn ein cynlluniau strategol:

  • Mae angen cynyddol i roi’r un pwyslais ar y blaned a’r bobl ag sy’n cael ei roi ar elw.
  • Creu agwedd sy’n fwy cyfeillgar tuag at fusnesau a chwsmeriaid, a gweithdrefnau llywodraethu mwy hyblyg.
  • Diwylliant rhagweithiol nid adweithiol.
  • Pwyslais ar greu Cymru ‘ryngwladol’ er mwyn hybu buddsoddiad a gwella’r economi ymwelwyr.
  • Agwedd fwy ystyrlon tuag at anghenion, gofynion a chyfleoedd wedi’u seilio ar le.

Felly, wrth i’r cyd-destun yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddo newid, ac wrth i ddiwydiannau a marchnadoedd allanol esblygu, felly hefyd y bydd y cynllun hwn yn newid ac esblygu, gan ystyried tystiolaeth a thrwy wrando o ddifri ar ein cydweithwyr a’n rhanddeiliaid ehangach.

Y cyd-destun presennol

Covid-19

Yn ystod y broses o ddatblygu’r strategaeth hon, fe wnaeth y pandemig Covid-19 daro Cymru a gweddill y byd. Nid yw effaith y clefyd hwn ar yr economi yn gwbl glir hyd yn hyn. Mae CNC wedi ymrwymo i weithio’n gall er mwyn i ni allu ymroi a chyfrannu at economi Cymru a chanolbwyntio ar adferiad gwyrdd a chyfiawn. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn wydn ein cynigion a’n marchnadoedd, er mwyn i ni allu lliniaru heriau’r economi yn y dyfodol.

Argyfwng Costau Byw a Phwysau’r Farchnad

Mae pob cartref a busnes ym Mhrydain wedi cael eu taro gan gostau cynyddol wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Gellir gweld hyn yn glir mewn siopau, gyda chynnydd mewn prisiau bwyd, petrol a biliau cyflenwi ynni wrth gwrs, ynghyd â methiannau cyflenwyr. Ond mae'r pwysau hyn yn mynd yn ôl ymhell yng nghadwyn gyflenwi bron pob cynnyrch ac yn effeithio ar brisiau darparu gwasanaethau a marchnadoedd sgiliau. Felly, mae modelau masnachol cynaliadwy, gyda phwyslais ar gadwyni cyflenwi cylchol a lleol mor bwysig, gan roi mwy o opsiynau i fusnesau ac aelwydydd ar gyfer llwybrau cyflenwi a threiddiad y farchnad.

Gadael yr UE

Mae debygol y bydd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig heriau yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer datblygiad masnachol yng Nghymru. Wrth ysgrifennu’r ddogfen hon, nid yw’r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan CNC yn glir byth. Efallai na chawn wybod beth fydd ei effaith gyflawn am flynyddoedd lawer. Rydym ni’n credu mai’r ffordd orau i ni ymateb yw drwy barhau â’n gwaith creiddiol a pheidio ymatal rhag datblygu na meithrin partneriaethau newydd. Cred CNC fod hyn yn neges bositif i Gymru a’i busnesau, gyda llawer o’r diwydiannau hynny’n ddibynnol iawn ar y gadwyn gyflenwi leol. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn parhau i dderbyn arweiniad ynglŷn â hyn gan Lywodraethau’r DU a Chymru.

Cyd-destun gweithgareddau masnachol CNC

Gweledigaeth a gwerthoedd

Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yw craidd ein sefydliad a’r ffordd yr ydym yn gweithredu ein hamcanion. Maent yn fraslun o’r hyn sy’n bwysig i ni a’r safonau yr ydym yn ymgyrraedd atynt.

Ein gweledigaeth yw gweld Byd Natur a Phobl yn Ffynnu gyda’n Gilydd.

Ein cenhadaeth yw canolbwyntio ein gweithredu ar y cyd tuag at:

  • Adferiad Natur
  • Gwrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd
  • Leihau llygredd drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR).

Mae'n fraint gennym wasanaethu pobl Cymru gyda'r gwerthoedd canlynol:

  • Perthyn: rydym ni’n gwerthfawrogi ein perthynas ddofn â’n cynefin, a thir a dŵr, a natur a chymunedau Cymru, ac rydym ni’n creu partneriaethau ystyrlon
  • Beiddgar: rydym ni’n hyderus o ran defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain drwy osod esiampl
  • Dyfeisgar: rydym ni’n archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol
  • Ystyriol: rydym ni’n gwrando er mwyn deall ac yn gofalu am ein gilydd, a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu

Ein hamcanion lles

Mae CNC hefyd wedi symleiddio ein Hamcanion Llesiant yn ddiweddar.

Erbyn 2030 yng Nghymru, ein nod yw sicrhau:

  • Byd natur wrthi'n gwella
  • Cymunedau'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Mae rhagor o fanylion am y rhain i gyd ac maent yn cyd-fynd â'i gilydd i'w gweld yn ein Cynllun Corfforaethol (ychwanegu dolenni)

Ein rolau

Mae gan CNC gyfrifoldebau amrywiol ac eang iawn. Mae’n rhaid i’n gweithgareddau masnachol fynd law yn llaw â’r cyfrifoldebau hyn, gan gyfoethogi a chefnogi ein hamcanion cyffredinol a chydweithio â’r sefydliad cyfan.

Dyma sut y gellir disgrifio ein rolau gwahanol:

Cynghorydd:prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, cynghorydd diwydiannau a’r sector cyhoeddus a gwirfoddol ehangach, a chyfathrebwr ynghylch materion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol

Rheoleiddiwr: yn amddiffyn pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y diwydiannau morol, coedwigaeth a gwastraff, ac yn erlyn y rhai sy’n torri’r rheolau yr ydym ni’n gyfrifol amdanynt

Darparwr: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – ardaloedd sydd o werth arbennig oherwydd y bywyd gwyllt neu’r ddaeareg, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a Pharciau Cenedlaethol, yn ogystal â phennu Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Ymatebydd: i ryw 9,000 o adroddiadau am ddigwyddiad amgylcheddol y flwyddyn, yn ymatebwr brys Categori 1

Ymgynghorydd statudol: i oddeutu 9,000 o geisiadau adeiladu y flwyddyn

Rheolwr/Gweithredwr: yn rheoli saith y cant o arwynebedd tir Cymru, gan gynnwys coedwigoedd, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, amddiffynfeydd dŵr a llifogydd, a gofalu am ein canolfannau ymwelwyr, adnoddau hamdden, deorfeydd a labordai

Partner, Addysgwr a Galluogwr: prif gydweithredwr â’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn darparu cymorth grantiau a chynorthwyo amrediad eang o bobl i ddefnyddio’r amgylchedd fel adnodd dysgu; yn gatalydd i waith eraill

Casglwr tystiolaeth: yn monitro ein hamgylchedd, comisiynu ac ymgymryd â gwaith ymchwil, datblygu ein gwybodaeth, a bod yn gorff cofnodion cyhoeddus

Cyflogwr: i bron 1,900 o staff, yn ogystal â chefnogi eraill sy’n cyflogi drwy gyfrwng gwaith ar gytundeb.

Polisi a fframwaith gyfreithiol

Nod creiddiol CNC yw ceisio rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a chydymffurfio â’n dyletswyddau statudol wrth wneud ein gwaith.

Mae’n rhaid i holl weithgareddau masnachol CNC gydymffurfio â rheolau a deddfwriaethau perthnasol y DU a’r UE, polisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru a CNC, ac os yn briodol, rheolau gwirfoddol megis ardystiad annibynnol Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC), mae’n rhaid i holl weithgareddau masnachol CNC fodloni’r gofynion a ddisgwylir gan gyrff cyhoeddus yn llawlyfr y Llywodraeth “Classification of Public Bodies: Information and Guidance”.

Er bod nifer o ddeddfau a pholisïau sy’n berthnasol o safbwynt llywodraethu gwaith CNC, mae dwy Ddeddf sy’n benodol ar gyfer Cymru: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n cyffwrdd â holl waith y tîm masnachol.

Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a chyda’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus ddatblygu Amcanion Llesiant sy’n cael eu hadolygu’n gyson a’u cyhoeddi mewn Datganiad Llesiant.

Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw hybu a gweithredu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ledled Cymru.

Mae’r ddwy Ddeddf wedi’u gosod yn agos at ei gilydd, gydag egwyddorion Rheolil’r Amgylchedd Naturiol yn Gynaliadwy yn dilyn y pum dull gweithredu a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

  • Meddwl hirdymor
  • Atal
  • Integreiddio
  • Cydweithio
  • Cynnwys

Drwy gydol datblygiad y strategaeth hon mae CNC wedi bod yn ymwybodol o’r pum dull hwn o weithio ac rydym wedi ystyried pob un yn ofalus wrth ddatblygu ein hamcanion cyffredinol.

Nid yw’r ddwy Ddeddf yma’n caniatáu i CNC gyflawni unrhyw weithgaredd masnachol y dymuna, dim ond y rhai sydd o fewn y cylch gwaith a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai newid y ddeddfwriaeth neu roi’r awdurdod dirprwyedig angenrheidiol i CNC petaem yn dymuno cyflawni unrhyw weithgareddau masnachol y tu hwnt i’n pwerau cyfreithiol presennol, ar yr amod ei fod o fewn awdurdod Llywodraeth Cymru i wneud hynny.

Er mwyn cyflawni gweithgareddau masachol, mae’n rhaid i ni ddarparu ar gyfer a gweithio oddi mewn i holl bolisïau a strategaethau cyfredol CNC, gan sicrhau cysondeb yn ein dulliau gweithredu ac yn ein cyfraniad cyffredinol tuag at amcanion llesiant y sefydliad.

Dyma rai o’r dogfennau mwyaf perthnasol: 

  • Adferiad gwyrdd: archwilio’r sector amgylcheddol yng Nghymru. Ymateb ar y cyd i bandemig Covid-19 sy’n canolbwyntio ar egwyddorion adferiad gwyrdd, a gwerthoedd a blaenoriaethau ar y cyd.
  • Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (SoNaRR): Yn un o ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r adroddiad hwn yn asesu sut mae Cymru’n gweithredu o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Datganiadau Ardal: Dyma un arall o ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r datganiadau yma’n mabwysiadu dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol a’u hanghenion lleol, gan rannu Cymru’n saith ardal gweithredu.
  • Coetiroedd i Gymru: Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed yng Nghymru, sy’n cael ei diweddaru bob pum mlynedd.
  • Ynni Cymru: Trawsnewidiad Carbon Isel. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno polisi ynni a dull Llywodraeth Cymru o sicrhau economi carbon isel.

Ein hegwyddorion masnachol

Yr egwyddorion canlynol fydd yn llywio’r modd y byddwn yn cyflawni’r strategaeth hon.

  • Bydd CNC yn ystyried y mesurau perfformiad cywir a fydd yn darparu’r paramedrau priodol i weithgareddau masnachol weithredu o’u mewn.
  • Bydd CNC yn datblygu rhaglenni masnachol gyda dealltwriaeth o’r marchnadoedd y maent yn gweithredu ynddynt ac yn ymgysylltu’n briodol â sectorau masnachol y mae CNC yn gweithredu ac yn chwarae rhan amlwg ynddynt.
  • Lle bynnag y mae gan CNC ryddid i ddewis (Mewn rhai amgylchiadau, mae’n ofynnol i CNC weithio gyda thrydydd parti sydd â diddordeb cyfreithiol cyfredol neu gytundebol mewn tir sy’n cael ei reoli gan CNC (neu dir sy’n ffinio). Efallai y bydd sefyllfaoedd hefyd lle mae'n ofynnol i CNC gontractio gwaith trwy gontractau fframwaith Llywodraeth Cymru) bydd yn dyfarnu contractau a chytundebau masnachol eraill drwy gystadleuaeth deg ac agored neu gyfwerth a thryloyw gan ddefnyddio meini prawf wedi'u diffinio'n glir, gan osgoi cystadleuaeth annheg a chynnig y buddion mwyaf.
  • Bydd CNC yn galluogi ac yn hwyluso cyfleoedd yn rhagweithiol ac yn annog cystadlaethau drwy eu cynnig ar ystod o raddfeydd lle bo hynny’n ymarferol, a mynd ati i annog gwahanol ddarpariaethau lle bo hynny’n effeithiol.
  • Bydd CNC yn osgoi cael effaith andwyol ar sectorau busnes drwy gystadleuaeth annheg, gan weithio i sicrhau’r gwerth gorau ac adfer costau llawn mewn pryd bob amser.
  • Bydd CNC yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar reoli cymhorthdal ar ôl Brexit trwy gyfuniad o'r mesurau uchod a thrwy ofyn am gyngor pan fydd yn aneglur, er mwyn osgoi torri amodau.
  • Pan fydd CNC yn cynnig gwasanaeth unigryw, ni fydd CNC yn manteisio ar ddiffyg cystadleuaeth ac fe fydd yn sicrhau mai elw rhesymol fydd ynghlwm wrth y costau. Nid oes gan CNC fonopoli ar unrhyw wasanaeth ac mae’n croesawu cystadleuaeth.
  • Bydd CNC yn sicrhau llywodraethiant mewnol effeithiol yng nghyswllt datblygu gweithgareddau masnachol ac asesiadau parhaus yn erbyn mesurau ariannol a pherfformiad.
  • Bydd adroddiadau CNC yn ymwneud â mesurau perfformiad a data ariannol yn gywir a gonest. Bydd adroddiadau ariannol yn nodi gorsymiau net, a hefyd dangosyddion ariannol allweddol eraill yn ddibynnol ar y model gweithredu a ddefnyddir. Pan fydd mesurau perfformiad yn arwain CNC at ddarparu budd cyhoeddus neu amgylcheddol pellach, bydd CNC yn asesu costau hynny er mwyn gallu ystyried y gost/budd.
  • Wrth bwyso a mesur penderfyniadau buddsoddi ac achosion busnes ar gyfer gweithgareddau masnachol, bydd CNC yn mabwysiadu dull hirdymor, gydol oes a fydd yn cynnwys refeniw, costau staff a gwerthoedd cyfalaf.

Ein gweledigaeth fasnachol ac amcanion strategol

Ein gweledigaeth fasnachol

Planed, Pobl, Ffyniant: creu incwm i CNC drwy ddatblygiadau masnachol gwyrdd, cyfiawn a chynaliadwy sy’n caniatáu i ni wneud mwy o gyfraniad at lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.

Ar hyn o bryd mae ein llawlyfr Planed, Pobl, Ffyniant newydd yn cael ei dreialu yn ein Tîm Datblygu Masnachol mewn dwy ffordd:

  • Mae'r llawlyfr yn cynnwys rhestr o baramedrau synhwyrol a mesuradwy sy'n ein galluogi i roi’r rhain ar waith yng nghyd-destun datblygiadau a phrosiectau newydd
  • Rydym yn edrych yn ôl er mwyn mesur yn erbyn prosiectau blaenorol er mwyn gallu canfod llinell sylfaen a meysydd o fewn cwmpas y cynllun Pobl, Planed a Ffyniant lle’r ydym ni’n gwneud yn dda, neu angen gwella.

Mae’r cynllun peilot yn ein galluogi i brofi’r ymarferoldeb yn llawn cyn i ni gyhoeddi canllawiau a dull ar ddechrau 2024. Er bod hwn yn gam peilot hir, bydd yn caniatáu inni ddefnyddio'r dull gweithredu ar draws pob sector yn yr adran fasnachol a diffinio sut y byddwn wedyn yn dod â phopeth ynghyd i greu un mesur unigol ar gyfer pennu cynnydd cyffredinol. Byddwn yn casglu adborth gan randdeiliaid newydd a derfnyddwyr mewnol wrth i'r cyfnod fynd yn ei flaen.

Busnes Cylchol

Mae model busnes cylchol yn arddangos rhesymeg sut mae sefydliad yn creu, cyflawni a sicrhau gwerth i amrywiaeth ehangach o randdeiliaid tra bydd yn lleihau costau ecolegol a chymdeithasol.

Mae gan Adran Fasnachol CNC gyfrifoldeb i hwyluso a rhoi cyfleoedd i’n cwsmeriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid weithio gyda’i gilydd er mwyn canfod yr effeithlonrwydd adnoddau yma a chynorthwyo busnesau Cymru i anelu tuag at fodel busnes mwy cylchol. 

Mae busnesau sy’n defnyddio egwyddorion cylchol ac yn dangos ymrwymiad pendant i’r agenda ‘Pobl, Planed a Ffyniant’ yn gweithio ar draws eu cadwyni cyflenwi er mwyn lleihau modelau busnes unionlin ac maent wedi dangos mwy o wytnwch mewn argyfwng hefyd.

Mae’r cwmnïau hyn yn:

  1. Casglu ynghyd o’r economi yn hytrach na chronfeydd ecolegol
  2. Ychwanegu gwerth i ddeunyddiau, cynnyrch a gwasanaethau sy’n bodoli eisoes
  3. Creu mewnbynnau gwerthfawr oddi wrth fusnesau y tu hwnt i’r cwsmer

Drwy ffurfio Rhwydwaith Fasnachol, bydd CNC Masnachol yn meithrin perthnasau ar draws busnesau rhwng bob sector ac yn darparu cyfle galluogi hanfodol er mwyn hybu’r dull cylchol.

Ein hamcanion masnachol strategol

Wrth ddatblygu ein gweledigaeth, byddwn yn canolbwyntio ar yr amcanion masnachol strategol canlynol:

  • Arwain y ffordd yng Nghymru ac o fewn rheoli adnoddau naturiol drwy ymgorffori’r dulliau Planed, Pobl a Ffyniant yn ein holl weithgareddau masnachol.
  • O fewn y sectorau masnachol, creu lle cadarn i CNC fel brand y gellir ymddiried ynddo, sy’n agored i fusnes ac yn bartner masnachol cyfrifol.
  • Cefnogi Adferiad Gwyrdd a chyfiawn yng Nghymru mewn modd gweithredol, a datblygu Marchnad Werdd ar gyfer Cymru.
  • Chwilio am bartneriaethau, cynnyrch a chysyniadau newydd a fydd yn gyrru Cymru ymlaen ac yn sicrhau enw da o safbwynt datblygiad ar y llwyfan rhyngwladol.
  • Arallgyfeirio ein dulliau masnachol a sicrhau’r budd gorau ar draws y cyrhaeddiad gorau posibl.
  • Defnyddio ein hincwm i ailfuddsoddi wrth hyrwyddo’r Amcanion Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac amcanion llesiant CNC.

Ein dulliau masnachol a meysydd ffocws

Ein dulliau masnachol

Er mwyn cyflawni ein hamcanion a bod o fudd i Gymru, mae angen i CNC sicrhau ein bod yn arloesol, modern, addas i’r pwrpas, ac yn bartner deniadol i’r rhai sy’n ystyried buddsoddi yng Nghymru.

Mae saith sector o fewn CNC sy’n creu incwm neu’n hwyluso effeithlonrwydd, gan gefnogi ein busnes i ailfuddsoddi a gwneud mwy dros yr amgylchedd.

Dyma’r sectorau hynny:

  • Ynni
  • Pren
  • Twristiaeth a Hamdden
  • Diwylliant
  • Datblygiadau busnes erail

*Rydym wedi dileu Gwasanaethau Dadansoddol a Chaffael o'r papur strategol hwn gan fod datblygiad y ddau faes hyn bellach yn cael eu cynnwys mewn mannau eraill yn y sefydliad.

Mae rhai o’r sectorau hyn wedi’u sefydlu’n gadarnach nag eraill ac mae gan nifer ohonynt gyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd neu a fydd yn gweithio’n agos â’i gilydd. 

Mae’r strategaeth hon yn pontio’r holl feysydd hyn â disgwyliadau cyffredinol, waeth beth fo’u harbenigedd.

Hefyd o fewn y busnes ceir meysydd eraill sy’n creu incwm nad ydynt wedi’u lleoli o fewn y tîm masnachol, megis ein hadrannau caniatâd a hawliau. Mae'r rhain allan o gwmpas uniongyrchol y strategaeth hon ond bydd yr adran Fasnachol yn cymryd rhan mewn hwyluso er enghraifft helpu i osod cyfraddau cystadleuol ar gyfer Ffilmio a Digwyddiadau.

Ein meysydd ffocws

Credwn fod pum maes y dylem eu gwella sy’n hanfodol i’n llwyddiant.

Cyflawni mewn partneriaeth

Bydd angen cydweithio gyda phartneriaid o fewn CNC a chyda phartneriaid allanol er mwyn cyflawni’r strategaeth hon.

Asgwrn cefn ein rhagolygon strategol yw’r angen i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym wrthi’n chwilio am bartneriaid sy’n rhannu ein gwerthoedd ac yn awyddus i gydweithio â ni wrth i ni hybu economi werdd a’n hagenda amgylcheddol. Er mwyn cyflawni hyn mae’n rhaid cael rhwydweithiau cryfach ledled Cymru a rhannu arferion da.

Rydym eisoes yn gweithio gyda llawer o bartneriaid fel Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cyfle cronnus i alluogi datblygiad. Ond rydym am wneud mwy i gydweithio â phartneriaid newydd a phresennol i ddod o hyd i atebion a rhannu profiadau ar yr hyn sy'n gweithio'n dda. Bydd ehangu ein rhwydweithiau cyfredol, a’r data a’r wybodaeth a ddaw yn eu sgil, yn gymorth i ddatblygu gweithgareddau masnachol cynaliadwy yn ogystal â chynnig posibiliadau masnachol eraill a all gyfoethogi cynigion a gwella’r lles a’r effaith a ddaw ohonynt.

Er mwyn hwyluso cydweithio mewn partneriaeth, mae adran Fasnachol CNC yn addo cydymffurfio â’r dulliau canlynol (SOFT yn y Saesneg) ym mhob gweithrediad masnachol gyda rhanddeilaid a chwsmeriaid:

Rhannu: Yn anochel, mae rhannu gwybodaeth yn arwain at gydweithio a datblygu syniadau newydd. O’r herwydd, bydd CNC Masnachol yn rhannu gwybodaeth a chynnig adborth am ein llwyddiannau yn fwy uniongyrchol.

Bod yn agored: Byddwn yn barod i ystyried a hwyluso gwahanol ddulliau o fewn ein hamrywiol gyfleoedd datblygu masnachol, gweithio gyda rhanddeiliaid ar bob lefel, gan gynnwys busnesau mawr a bach, grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector

Rhad ac am ddim: Byddwn yn parhau i sicrhau bod ystâd Llywodraeth Cymru yn cadw ei rhyddid a'i mynediad agored i bobl Cymru a byddwn yn gwella mynediad i'r ystâd er mwyn sicrhau tegwch i bobl Cymru.

Ymddiriedaeth: Bydd CNC yn dryloyw o ran ei ymrwymiadau ac yn atebol i bobl Cymru wrth weithredu ei agenda fasnachol.

Hyblygrwydd

Byddwn yn datblygu prosesau a llywodraethiant mwy hyblyg o fewn CNC er mwyn gallu datblygu syniadau a’u cyflwyno i’r farchnad ynghynt, a chydymffurfio â’n hymrwymiadau cyfreithiol wrth wneud hynny.

Mae gwella llwybrau i’r farchnad yn hanfodol os ydym am greu cadwyn gyflenwi gadarn sy’n gostwng allyriadau carbon a lleihau gwastraff. Mae potensial mawr i greu cynnyrch newydd drwy adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes a marchnata hynny i farchnadoedd presennol neu rai newydd. Dyma faes allweddol o safbwynt datblygu economïau cylchol drwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol a gweithredwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Rydym eisoes wedi dechrau hyn drwy gymryd rhan mewn datblygiadau cyffrous fel y Strategaeth Ddiwydiannol Pren a thrwy fod yn fwy rhagweithiol gyda'n cynigion ystad ar gyfer datblygu, cynyddu cwmpas marchnata ac ymgysylltu.

Byddwn yn datblygu mwy o wybodaeth am y farchnad gan wneud defnydd helaeth o’r setiau data a thueddiadau marchnad sydd ar gael yn fewnol ac allanol. Er bod y byd yn gyfoethog iawn o safbwynt data, yr her yw gwybod beth sydd ar gael a ble, a sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth sy’n addas ar gyfer ein gofynion ni. Bydd y gydberthynas rhwng setiau data sydd wedi’u hanelu at ragolygon y dyfodol yn gymorth i ni fod yn fwy rhagweithiol. Hoffem ganfod gwell ffyrdd o gyflwyno data a gwybodaeth am y farchnad, gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddeall a hwyluso gwneud penderfyniadau.

Fel rhan o hyn, rydym wedi cyflwyno'r Grŵp Cyfleoedd Masnachol Cynaliadwy i'n proses lywodraethu. Grŵp mewnol yw hwn gyda gwesteion allanol achlysurol sy'n archwilio tueddiadau posibl, marchnadoedd newydd a phwyntiau data gan ddefnyddio staff o bob sector ac arbenigedd yn y busnes ac nid o’r adran fasnachol yn unig.

Mesur

Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) yn arf hanfodol ar gyfer asesu cynnydd parhaus yn ystod datblygiadau yn ogystal ag er mwyn sefydlu llwyddiant cyffredinol prosiect neu weithgaredd(au) masnachol. Bydd dewis y DPA cywir ar gyfer bob datblygiad, sicrhau bod y DPA yn cael eu mesur yn gywir, a safoni DPA er mwyn cymharu â datblygiadau masnachol mewn sectorau eraill yn cynnig darlun clir iawn o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, beth sydd angen ei wella a pham mae prosiectau’n methu â chyrraedd rhai o’n prif amcanion.

Bydd DPA hefyd yn sicrhau ein bod yn gallu gweithredu’n gyflym i leihau risgiau, gwella effeithlonrwydd, gwneud arbedion a sicrhau gwerth am arian. Y model a ddewiswyd gennym ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn yr adran fasnachol yw’r dull 3P (Pobl, Planed, Ffyniant). Yn wahanol i fusnesau masnachol eraill nad ydynt yn eistedd o fewn y sector cyhoeddus, nid yw mesur ffigurau elw gros neu enillion ar gyfalaf yn ddulliau hyfyw iawn o benderfynu sut yr ydym yn gweithredu fel adran, o ystyried bod llawer o'n budd masnachol yn canolbwyntio ar fanteision cyflenwi 'ar lawr gwlad'. Dyna pam mae ‘Pobl, Planed, Ffyniant’ mor bwysig, gan ei fod yn ymwneud â manteision ehangach yr adran fasnachol ar yr ystâd.

Byddwn yn archwilio modelau ariannu eraill a mecanweithiau cytundebol newydd a fydd yn cynnig amrywiadau a hyblygrwydd pellach ledled ein hystâd, gan annog partneriaid newydd i weithio â CNC a rhoi mwy o gyfleoedd masnachol i grwpiau llai. Dros ddwy flynedd gyntaf y contract, rydym wedi llwyddo i ail-negodi contractau sy'n cynnig mwy o werth am arian i CNC a'r partner dan gontract nag a ddigwyddodd yn draddodiadol yn y gorffennol. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn caffael datblygiad masnachol trwy archwilio prosesau caffael sy’n cael ei drafod yn fanylach a fydd yn sbarduno buddion trwy drafod a rheoli disgwyliadau.

Syniadau newydd

Os yw CNC yn mynd i gynnig enillion cynaliadwy fel cwmnïau eraill, bydd angen iddo fod yn arloesol ac yn gallu meddwl yn greadigol yn barhaus. Bydd hi’n hanfodol ystyried technoleg newydd a’r deunyddiau a modelau cyflenwi gwasanaeth wrth gefnogi mentrau i daclo’r argyfwng hinsawdd a natur, yn enwedig wrth ddatblygu economi gylchol well. 

Bydd meddylfryd greadigol yn hybu twf y byd busnes yng Nghymru ac yn dangos bod cydweithio â CNC yn atyniadol iawn. Byddwn yn cyflawni uchelgais ehangach hefyd drwy dynnu’r sector adnoddau naturiol at ei gilydd i adnabod a thrafod materion cyffredin a chanfod atebion y gellir eu cyflawni.

Bydd traws-ffrwythloni technoleg a syniadau’n bwysig os am sicrhau llwyddiant. Er enghraifft, gellir trosglwyddo technoleg a fwriadwyd ar gyfer un sector i gael ei ddefnyddio mewn modd gwahanol mewn sector arall. Gall archwilio technoleg o sectorau eraill gyfoethogi a chreu cyfleoedd masnachol neu gynnig gwelliant uniongyrchol.

Wrth ystyried syniadau newydd, byddwn yn rheoli risgiau yn hytrach na’u hosgoi. Er bod rhai datblygiadau masnachol yn methu cyflawni’r hyn a obeithiwyd, ni ddylai hynny ein rhwystro rhag ystyried technoleg neu syniad newydd os ydym yn ymwybodol o’r risg ac yn gallu ei rheoli’n effeithiol.

Ein tri maen prawf llwyddiant fydd y triawd ‘Planed, Pobl a Ffyniant’, a bydd gofyn i ni arloesi yn y maes hwnnw.

Byddwn yn cefnogi busnesau newydd a buddsoddwyr gan ddefnyddio ein gwybodaeth fasnachol i hybu a chynghori busnesau newydd. Hefyd byddwn yn ysbrydoli cynnyrch a gwasanaethau newydd er mwyn rhoi cymorth i’r economi werdd dyfu.

Arallgyfeirio

Mae’r portffolio masnachol eisoes yn amrywiol, yn ymwneud â phren, ynni a gwasanaethau dadansoddi. Serch hynny, mae lle i arallgyfeirio ymhellach i faes twristiaeth a hamdden, y celfyddydau a diwylliant.

Efallai y bydd rhai o’r marchnadoedd hyn yn fach a’u helw ariannol yn fychan ar y dechrau. Serch hynny, bydd pobl, y blaned a thwf yr economi leol yn elwa’n fawr.

Mae’n hanfodol ein bod yn tyfu’n gyfrifol gyda phrosiectau a fydd yn cynnig buddion cynaliadwy gyda deilliannau amrywiol.

Gall cysylltu cynnig craidd wrth gynnyrch a gwasanaethau o ddiddordeb arbennig gyda thwf gwirioneddol bosibl i’r dyfodol ddenu buddsoddwyr a datblygwyr. Mae’n cynnig rhinwedd gwerthu unigryw, y cyfle i gael buddion ac elw ychwanegol na fydd cystadleuwyr yn gallu eu cynnig efallai, ac mewn rhai achosion, gall leihau risg cyffredinol y datblygiad.

Mae sefydlu CNC fel partner masnachol hyfyw yn hynod bwysig. Mae angen i ddarpar bartneriaid posibl weld CNC fel gweithredwr masnachol sy’n hyrwyddo datblygiadau cyfrifol yn ogystal â bod yn gorff sector cyhoeddus neu reoleiddiwr adnoddau naturiol.

Sectorau blaenoriaeth

Dyma’r sectorau nesaf a fydd yn cael ein sylw, ynghyd ag astudiaethau achos o rai llwyddiannau diweddar yn y meysydd hyn.

Ynni: Dyfodol Gwyrdd a Chost-Effeithiol

Dyluniwyd rhaglen ynni CNC mewn ymateb i bolisi a thargedau ynni Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y dyheadau y bydd 70% o drydan Cymru yn cael ei gynhyrchu gan ynni adnewyddadwy erbyn 2030, a phob prosiect ynni newydd yng Nghymru i gael elfen o berchnogaeth leol o 2020. Hyd yn hyn mae CNC wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog datblygwyr a buddsoddwyr i ddod i Gymru a buddsoddi mewn prosiectau gwynt ac ynni ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru gan gyfrannu i’r uchelgais hwn. Yn ystod hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chorff datblygu ynni gwynt ei hun sy’n berchen i’r wladwriaeth, a fydd yn effeithio’r ffordd y maet CNC yn cyflawni ei gwasanaethau ynni. Rydym yn llwyr gefnogi dymuniad Llywodraeth Cymru i sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad o'r fath i bobl ac economi Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan gostau ynni cynyddol yn ein cartrefi a’n busnesau, sydd wedi pwysleisio’r angen i ynni gael ei gyflenwi yn y modd mwyaf gwydn, amrywiol a chynaliadwy â phosibl, gan hefyd reoli anghenion defnyddwyr. Yn syml, ni allwn liniaru'r cynnydd mewn tymereddau byd-eang os ydym yn parhau i ddibynnu ar danwydd ffosil, ac yn CNC rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i dechnoleg heb unrhyw allyriadau i greu swyddi a sgiliau.

Ond mae'n rhaid i ni flaenoriaethu'r hyn y gallwn ei gyflawni lle a phryd i sicrhau'r effaith fwyaf posibl cyn gynted â phosibl; mae yna bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud nawr er mwyn i ni allu gwneud mwy yn nes ymlaen. Mae hyn yn golygu bod ein capasiti adnoddau wrth ddarparu ynni yn canolbwyntio ar brosiectau a fydd yn sicrhau'r enillion mwyaf yn yr amser cyflymaf sydd ar gael i ni. Ni allwn wneud popeth yn awr, ond byddwn yn gwneud popeth cyn gynted ag y gallwn. Mae'r rhain yn benderfyniadau anodd gan ein bod yn derbyn cymaint o gynigion ardderchog, ond mae'n rhaid i ni flaenoriaethu.

Amlinellwyd yn Fersiwn 1.1 y byddem yn cynnal asesiad o raddfa bosibl a lleoliad cyfleoedd datblygu ynni gwynt yn y dyfodol a gwnaethom hyn gyda phartner cyflenwi ARUP yn 2021. Mae’r gwaith hwn wedi helpu Llywodraeth Cymru yn ei harchwiliad ei hun i greu corff datblygu sy’n eiddo i’r wladwriaeth, gan leihau’r amser sydd ei angen rhwng y cysyniad a chyflwyno.

Fe wnaethom ni hefyd addo datblygu gweithdrefnau gwneud penderfyniadau clir ac ers hynny rydym wedi dechrau drwy greu'r Grŵp Cyfleoedd Masnachol Cynaliadwy sy'n rhoi mwy o oruchwyliaeth i staff CNC ar ddatblygwyr posibl ac a fydd yn rhan o'r dull llawlyfr Pobl, Planed a Ffyniant.

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’i chorff datblygu i adnabod y modelau gorau ar gyfer prosiectau ynni a chael gwared ag unrhyw rwystrau i’r modelau hynny
  • Creu canllaw i ddatblygwyr sy'n amlinellu ein gweithdrefnau llywodraethu ac yn esbonio pam ein bod yn gwneud pethau penodol ar adegau penodol, gan reoli disgwyliadau a dangos yn gliriach sut mae’r broses yn gweithio i ddatblygwyr ac aelodau’r cyhoedd.
  • Chwilio am fwy o bartneriaethau lleol a datblygiadau cymunedol er mwyn hwyluso perchnogaeth leol o fewn y sector ynni.
  • Cynnig ein gwasanaethau mewn modd ymgynghorol i dirfeddianwyr eraill sy'n ceisio hwyluso datblygiadau ynni adnewyddadwy ar eu tir.

Astudiaeth Achos

Mae Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd, a sefydlwyd gan Vattenfall UK Ltd, wedi’i lleoli ym Mharc Coedwig Afan rhwng Castell-nedd a Merthyr Tudful.

Mae 76 o dyrbinau gwynt ar y fferm wynt, a phob un yn 145m o uchder gyda’r gallu i gynhyrchu uchafswm o 228 MW o drydan (capasiti eithaf). Golyga hyn y gall y fferm gynhyrchu ynni ar gyfer tua 188,000 o gartrefi a fydd, yn ystod oes y prosiect, yn cymryd lle 6.4 miliwn tunnell o garbon deuocsid a fyddai wedi dod o danwydd ffosil.

Mae’r prosiect yn dod ag incwm rhent sylweddol i Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae’r prosiect wedi sefydlu cronfa budd cymunedol o £50 miliwn sy’n cefnogi mentrau cymunedol lleol, gan gynnwys cynllun rheoli cynefin gwerth £3 miliwn sy’n adfer mawndir ar raddfa eang.

Pren: Dulliau Newydd

Mae CNC yn gyfrifol am werthu pren o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae CNC yn gallu cynnig cynhaeaf pren o tua 800,000m3 y flwyddyn, tua dwy ran o dair o gyfanswm marchnad Cymru, gan gynhyrchu incwm gros nodweddiadol o tua £30-£35 miliwn.

Mae gwerthiant pren yn amrywio o 15m3 i 15000m3 y tendr ar hyn o bryd, gan gynnwys bwndeli coed tân bychain.

Mae’r pren ar yr ystâd yn cynnwys sbriws (60%) a choed llarwydd (25%) a chyfuniad o rywogaethau eraill ond gall hyn amrywio’n sylweddol ar hyd a lled Cymru.

Gan fod coeden yn cymryd tua 60 mlynedd i gyrraedd ei llawn dwf ar gyfer y farchnad, gall CNC greu rhagolwg cynhyrchu er mwyn i ni allu gweld beth fydd ar gael ar gyfer y farchnad yn y tymor hir. Serch hynny, ni all CNC ragweld pa mor llewyrchus fydd y farchnad o un flwyddyn i’r llall.

Fodd bynnag, dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r tîm wedi bod yn gweithio'n galed i archwilio a phenderfynu ar ffyrdd eraill o gynnig pren i'r farchnad – a fyddai nid yn unig yn cynyddu ein sylfaen cwsmeriaid ac yn arallgyfeirio'r cynnyrch sydd ar gael ar yr ystâd ond a allai hefyd ein galluogi i gyfrif am amrywiadau yn y farchnad i gynnig gwell rhagfynegiad incwm ac felly paramedrau'r gyllideb. Bu'n rhaid i'r gwaith hwn fwydo i'n gweithdrefnau cydymffurfio a llywodraethu, a bydd rhai safleoedd peilot yn mynd yn fyw gyda’r dulliau newydd yn 2023.

Mae'r tîm hefyd yn cymryd rhan mewn ystyriaethau cadwyn gyflenwi megis cymryd rhan weithredol wrth edrych ar y strategaeth ddiwydiannol bren, cynhyrchion gwerth cymdeithasol ar gyfer pren ac arferion rheoli newydd.

Gwnaed gwaith helaeth hefyd ar ystwythder ein proses werthu, ac yn ddiweddar mae ein tîm cydymffurfio wedi cynnal adolygiad llawn o'n safonau llywodraethu gwerthu pren i brofi lle rydym yn creu aneffeithlonrwydd, dyblygu neu waith papur diangen ac yn ychwanegu gweithdrefnau llywodraethu ac amddiffyniadau lle gellir ystyried bod y safonau’n is na’r hyn sydd ei angen.

Byddwn yn:

  • Parhau i ddatblygu'r dulliau Gwerthu Pren Amgen a'r strwythurau llywodraethu.
  • Ceisio ehangu ein proses werthu a chynyddu argaeledd cynnyrch pren ar y farchnad.
  • Parhau i wella ein prosesau a'n gweithdrefnau TGCh ar gyfer prosesau mwy llyfn ac ystwyth.
  • Defnyddio hanfodion y Llawlyfr Pobl, Planed a Ffyniant wrth ystyried dulliau amgen yn hytrach na gwerthu pren ar yr ystâd goetir.
  • Gweithio gyda grwpiau diddordeb a hwyluso cadwyni cyflenwi cylchol cryfach a mwy amrywiol, megis pren o Gymru mewn cynnyrch o Gymru.

Astudiaeth Achos

Mae CNC wedi datblygu Teclyn Gwerthuso Pren newydd er mwyn sicrhau fod dulliau dibynadwy, cyson, yn seiliedig ar ddata yn cael eu defnyddio ledled ystâd CNC wrth werthu pren.

Mae’r teclyn hwn yn asesu costau gweithio, cynnyrch y cnydau a phrisiau’r cnydau fesul rhywogaeth, gan ystyried ansawdd amrywiol y pren.  Rhoddir ystyriaeth bellach i leoliad, y gadwyn gyflenwi agosaf a maint y bwndeli pren.

Ym mhob dogfen brisio ceir adran sy’n egluro sut y defnyddiwyd y teclyn, gan sicrhau tryloywder ein gwaith a dangos ein bod yn anelu at y gwerth gorau am arian wrth werthu’r pren.

Mae’r ffordd hon o weithio yn decach i’n cyflenwyr hefyd ac yn gymorth i sicrhau cystadleuaeth resymol o fewn y farchnad; gall pob gwerthiant ddenu dros 25 o gwsmeriaid sy’n cynnig pris mewn arwerthiant pren.

Mantais arall yw bod y dull hwn o gyllidebu o’r gwaelod i fyny ar gyfer prisio ein pren yn rhoi cyfle i newid prisiau ar y funud olaf mewn ymateb i farchnad anwadal, gan sicrhau ein bod yn cynnal gwerth y pren ar y farchnad a rhoi hyder i CNC, a sicrwydd pan fyddwn yn penderfynu peidio gwerthu am nad yw’r cynigion yn ddigon deniadol.

Er ein bod yn osgoi gwerthu am bris isel, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadwyn gyflenwi gyson o bren ar gyfer y diwydiant prosesu coed yng Nghymru. Mae ein hymrwymiad i gynnig a chyflenwi pren o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn fanteisiol i uchelgais Llywodraeth Cymru er mwyn hybu a chynnal economi gylchol fywiog y wlad.

Twristiaeth a Hamdden: Y lle i fod

Mae tua 10-12% o weithlu Cymru yn cael eu cyflogi i weithio mewn mentrau hamdden a thwristiaeth. Mae’r swyddi hyn yn y trefi mawr ac mewn ardaloedd gwledig hefyd, yn darparu refeniw a gwaith hanfodol i drigolion lleol. Mae'r Sector Twristiaeth a Hamdden yn cael ei effeithio'n hawdd gan lawer o'r materion sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Yn ystod y pandemig, roedd nifer o fusnesau o fewn y sector ar gau, ac wrth i’r argyfwng costau byw leihau incwm gwario nifer o aelwydydd, gall nifer yr ymwelwyr leihau wrth i gostau gwasanaeth a chyflenwi gynyddu. Mae CNC wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fusnesau sy'n hanfodol i drochi pobl yn yr amgylchedd a'r buddion lles a ddaw yn sgil hyn.

Mae llawer o’r safleoedd a reolir gan CNC yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r hyn sydd gan hamdden a thwristiaeth Cymru i’w cynnig i ymwelwyr a thrigolion Cymru. Maent yn lleoedd gwefreiddiol i fynd am dro a chrwydro; yn cynnig anturiaethau anhygoel ar lwybrau beicio mynydd nad oes eu gwell ym mhedwar ban byd; ceir mannau chwarae antur, nofio gwyllt, a’r cyfle i fwynhau hanes a diwylliant ysbrydoledig Cymru. Mae CNC eisiau sicrhau ein bod yn datblygu’r ddarpariaeth hamdden; ein bod yn rhoi mwy o ddewis, mwy o brofiadau a datblygiadau pellach sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Byddwn yn gwneud hynny gan geisio osgoi gordwristiaeth a chael effaith negyddol ar hinsawdd a natur.

Mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod mynd allan i’r awyr agored yn llesol i’r corff a’r meddwl. Mae nifer o’r astudiaethau hyn wedi dangos hefyd fod bwlch cynyddol rhwng plant a byd natur ac felly bydd ehangu ar y cyfleon i fwynhau mannau gwyrdd o les i unigolion ac i’r gymdeithas, yn ogystal â thwristiaeth. 

Rhaid ystyried pryderon am 'ordwristiaeth' a'r pwysau y mae hynny’n ei roi ar gymunedau a’r amgylcheddol wrth ddatblygu cyfleoedd twristiaeth, ac mae edrych ar gyfleoedd i fuddsoddi er mwyn lledaenu ymgysylltiad ar draws Cymru gyfan yn rhan hanfodol o’r datrysiad hwnnw.

Ein bwriad yw bod yn fwy arloesol; bod ein hagwedd at y gwaith o fewn y sector hwn yn cael ei gymell gan ddata, gan fod yn ofalus i beidio â meddwl bod yr un syniadau yn mynd i weddu i bob datblygiad hamdden. Yn hytrach na hynny, mae’n rhaid i ni ystyried yn ofalus y math o weithgaredd a datblygiadau sy’n gweddu i’n safleoedd a derbyn nad oes angen newid pob safle yr ydym yn ei reoli.

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu Strategaeth Hamdden newydd a chynhwysfawr ar gyfer yr ystâd. Bydd hyn yn defnyddio dadansoddiad marchnad newydd ar gyfer y sector dwristiaeth a hamdden yng Nghymru yn ystod y pump i 25 mlynedd nesaf er mwyn ein helpu i asesu’r posibiliadau ar gyfer buddsoddi, proffiliau galw ac ymwelwyr, a hybu Cymru. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth fusnes yma ar gael eisoes gan bartneriaid lleol megis Croeso Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
  • Gweithio'n rhagweithiol gyda chanolfannau ymwelwyr i sicrhau eu bod yn cynnig profiad rhagorol i gwsmeriaid ac yn lleoedd ar gyfer ymweliadau rheolaidd i bobl leol ac ymwelwyr teithiol. Bydd Strategaeth Trawsnewid Canolfan Ymwelwyr gynhwysfawr yn cael ei datblygu; ochr yn ochr â'r Strategaeth Hamdden i sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer y bobl sy'n eu defnyddio ond hefyd yn cynnig gwerth rhagorol am arian ar gyfer y pwrs cyhoeddus, gan wneud yr hyn y maent eisoes yn ei wneud yn dda hyd yn oed yn well.
  • Gweithredu cynlluniau gostwng carbon ar gyfer digwyddiadau hamdden ar dir sy’n cael ei reoli gennym ni
  • Hyrwyddo teithio cynaliadwy a'r economi gwyliau gartref
  • Edrych ar safleoedd cysylltiedig a thrafod â’r landlordiaid rhwng safleoedd er mwyn datblygu llwybrau cerdded a beicio hirach er mwyn osgoi ffyrdd a gallu mwynhau mwy o dirwedd Cymru
  • Edrych sut y gallwn hwyluso aros a gwersylla cyfrifol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
  • Ystyried ffyrdd o gysylltu â safleoedd CNC drwy gyfrwng technoleg er mwyn sicrhau profiad mwy ymdrochol a modern. Mae hyn yn cynnwys anghenion mewnol megis prosesau archwilio llwybrau dibapur.

Diwylliant: Cyfleoedd Marchnad Cynyddol

Mae CNC yn rhoi pwyslais sylweddol ar amddiffyn a hyrwyddo ein diwylliant. Mae Cymru wedi’i bendithio â sectorau celfyddydol, cerddorol, llenyddol a hanesyddol amrywiol a gefnogir gan ei hiaith ei hun sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i bobl Cymru.

Mae busnesau creadigol yn creu trosiant blynyddol o dros £2 biliwn ac yn cyflogi tua 50,000 o bobl. Mae lefelau mynychu a chymryd rhan neu wirfoddoli mewn digwyddiadau diwylliannol yng Nghymru yn uchel, o gwmpas 80% a 40% yn y drefn honno. Mae isadeiledd cadarn yn ei lle a safleoedd hanesyddol yn aml yn cynnig gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Serch hynny, mae llawer o’r safleoedd yma yn ne Cymru ac nid yw’n syndod bod y rheiny o fewn cyrraedd y prif gyflenwyr trafnidiaeth. Cynigia’r hygyrchedd hwn gyfleoedd gwych i ddenu ymwelwyr i Gymru a hybu trigolion lleol i gymryd rhan.

Er bod gwaith CNC yn canolbwyntio ar reoli tir, gwyddom fod diwylliant yn grymuso ac yn cyfrannu at nifer o nodau llesiant. Mae CNC yn awyddus i ddefnyddio’r safleoedd yr ydym yn eu rheoli er budd hyrwyddo a thwf y diwylliant hwnnw.

Mae’r pandemig Covid-19 diweddar wedi taro’r sector hon yn galed gan olygu fod llawer o artistiaid annibynnol a gweithgareddau diwylliannol yn fregus, gyda theatrau a setiau cerdd a ffilm yn cau, heriau wrth gyflenwi deunyddiau a chanslo comisiynau. Hyd yma nid ydym yn gwybod pa gyfleoedd yn union fydd ar gael o ystyried ymadawiad y DU â’r UE.

Mae CNC Masnachol eisoes wedi dechrau ystyried nifer o ddatblygiadau posibl a allai liniaru rhai o’r heriau. Flwyddyn yn ôl, byddai ein hymateb wedi bod yn eithaf gwahanol ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn archwilio cyfleoedd, gan edrych nid yn unig ar yr hyn sydd ei angen a sut y gall CNC gyfrannu at amrywiol fodelau cyflawni, ond hefyd sut y gallwn wneud hynny yn sgil Brexit a Covid 19.

Bwriad cyfraniad CNC i’r byd diwylliannol yw datblygu’r weledigaeth sydd gennym i greu ‘Cymru ddigamsyniol’ ac mae ein safleoedd allanol yn bennaf yn gwbl addas ar gyfer y byd ôl-Covid lle gall rhai cyfyngiadau fodoli o hyd.

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Ailddatblygu proses hawliau ffilmio CNC. Bydd yr adolygiad yn sicrhau fod y cyfraddau’n gystadleuol yn y farchnad ac yn addas i bwrpas ac fe fyddwn yn ystyried ffyrdd o farchnata ein safleoedd i’r diwydiant
  • Datblygu lleoedd gweithio, dysgu, hamddena a chwarae y tu allan, yn yr awyr agored ar ein hystâd
  • Cynnig gofod galeri pop-yp mewn canolfannau hamdden ac ystafelloedd te
  • Datblygu tair partneriaeth/cynnal tri digwyddiad diwylliannol blynyddol canolig eu maint ar ein safleoedd
  • Ystyried datblygu gofod celfyddydol naill ai fel rhan o ganolfan ymwelwyr bresennol neu yn y dyfodol gan ganolbwyntio ar artistiaid ac ymarferwyr lleol a theithiol
  • Defnyddio artistiaid ac ymarferwyr i gefnogi mentrau CNC ar draws bob gwasanaeth, boed hynny drwy helpu i ddatblygu llwybrau cerdded, deunyddiau marchnata, mentrau addysgol neu ddigwyddiadau cyffredinol
  • Cynnig ‘cynllun artist preswyl’ CNC.

Datblygu Busnes: Twf

Er bod meysydd gweithgaredd masnachol y gellir eu diffinio’n glir gan feysydd portffolio penodol, mae CNC hefyd yn ymwneud â nifer o weithgareddau masnachol nad ydynt yn ffitio’n union i’r portffolios hyn, neu efallai nad ydynt yn gwbl berthnasol i’r tîm masnachol ond maent yn weithgareddau sy’n berthnasol i feysydd eraill o’r busnes.

Ar hyn o bryd, mae’r math hwn o ddatblygiad masnachol yn cynnwys, er nad yw’n gyfyngedig i, hawliau a chaniatâd ffilmio, trwyddedau ar gyfer gweithgareddau ar ein tir, cloddio mwynau a’r farchnad werdd.

Canolbwyntia’r strategaeth hon hefyd ar dwf a gwytnwch, a sicrhau ein bod yn datblygu’r cyfleoedd cywir ar gyfer gwahanol ardaloedd yng Nghymru, gan annog buddiannau cymdeithasol-economaidd a hyrwyddo arloesedd. Felly, disgwyliwn i’n twf datblygu busnes fod yn fwy amrywiol yn y dyfodol.

Mae’n anodd egluro beth yw ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ar wahân i bwysleisio’r angen i ymateb yn sydyn i farchnadoedd, ond rydym wedi amlinellu rhai o’n meysydd diddordeb nesaf.

  • Gweithio mewn partneriaeth glos ac annog cwmnïau technoleg werdd a chwmnïau newydd
  • Cyfleoedd datblygu tir, gan gynnwys prynu a gwaredu.
  • Dewisiadau prynu tir o safbwynt casglu carbon a chronfeydd buddsoddi pensiwn
  • Arallgyfeirio cynhyrchion gwyrdd sydd ar gael o'r ystâdAddysg a hyfforddiant amgylcheddol.

Gweithredu a llywodraethu

Prif nod y strategaeth hon yw egluro’r egwyddorion a phob uchelgais y bydd y tîm masnachol yn eu cyflawni.

Glasbrint ydyw sy’n dangos pa mor uchelgeisiol yw CNC yn ein hymgais i sicrhau gwedd fwy masnachol ac agwedd fusnes gadarnach ar draws y sefydliad. Dim ond drwy chwilio am atebion arloesol a chreadigol ar gyfer yr heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd y gallwn gyflawni’r uchelgais honno a thaclo’r argyfwng hinsawdd a natur yn gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae tîm masnachol CNC yn cydnabod fod llawer o waith i’w wneud os ydym yn dymuno bod yn fwy effeithiol o safbwynt masnach. Ein cryfderau presennol yw sylfaen ein cynllun gweithredu ond y mae hefyd yn ymdrin â’r meysydd y mae angen i ni eu datblygu.

Yn ogystal â dal ati i gyflawni’r prosiectau presennol a pharhau â’r gweithgareddau busnes fel arfer yn ystod 2021, bydd angen i’r tîm greu fframwaith fasnachol sy’n canolbwyntio ar dwf a chynaliadwyedd.

Byddwn yn datblygu cynllun cyfathrebu a marchnata masnachol cynhwysfawr a gefnogir gan bortffolio manylach sy’n canolbwyntio ar gynlluniau cyfathrebu, megis y Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren pum mlynedd.

Bydd y cynllun yn amlinellu sut y bydd y tîm masnachol yn gweithredu egwyddorion SOFT er mwyn cynyddu ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth rhanddeiliaid mewnol ac allanol â’r rhai sydd â diddordeb. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan masnachol mewn sioeau masnach, digwyddiadau cyhoeddus (os yn bosib) a bydd yn ymdrechu i ddangos y cyfleoedd masnachol sydd ar gael i gymunedau lleol, i’r DU ac i gymunedau rhyngwladol.

Mae cyfleu’r neges fod CNC Masnachol ‘Ar Agor’ ac yn chwilio am bartneriaid a diwydiannau posibl yn greiddiol i’r strategaeth hon.

Byddwn yn creu map clir ar gyfer partneriaid posibl yn egluro sut i ymdopi â pholisïau a gweithdrefnau CNC a’r gwiriadau llywodraethiant a chydymffurfiaeth y mae’n rhaid i ni eu gweithredu. Bydd hyn yn gymorth i egluro’r disgwyliadau ynghylch beth allwn ni ei gyflawni a’r hyn na allwn ei gyflawni.

Bydd dangosfwrdd perfformiad amser-real yn sicrhau bod y cynllun cyflawni yn cael ei fonitro’n effeithiol ac yn cyfoethogi’r craffu parhaus ar weithgaredd(au) masnachol.

Mae CNC yn sefydliad mawr, egnïol felly mae’n hanfodol fod y Strategaeth Fasnachol yn parhau i ffitio’n gryno i adrannau eraill o fewn y sefydliad, gan osgoi gwrth-ddweud, dryswch neu ddryswch o ran pwrpas.

Caiff CNC Masnachol ei oruchwylio gan Bennaeth Datblygiadau Masnachol Cynaliadwy, sy’n adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid, a Masnach. Cefnogir y Pennaeth Datblygiad Masnachol Cynaliadwy gan y Grŵp Busnes Masnachol, sy’n cynnwys uwch staff o amrywiol adrannau gan gynnwys Stiwardiaeth Tir; Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, a Gwasanaethau Ariannol a Chyfreithiol.

Drwy gyfrwng y Grŵp Busnes Masnachol, byddwn yn cysylltu’n rheolaidd â ffrydiau gwaith cysylltiedig eraill ac yn eu bwydo i mewn i’r Strategaeth a’n Cynllun Cyflawni yn ôl yr angen.

Ymysg yr enghreifftiau mae:

  • Gweithredu Gweledigaeth 2050 CNC
  • Datblygu Marchnad Werdd CNC
  • Datganiadau ardal yn seiliedig ar le
  • Datblygu dull cyfrifo Planed, Pobl a Ffyniant.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf