Maent mor anghyffredin eu bod wedi cael eu dynodi yn rhywogaeth a warchodir Ewropeaidd. Yng Nghymru, mae 5 safle wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fel rhan o rwydwaith Natura 2000 i ddiogelu cynefinoedd y dreigiau bach hyn, ac mae gwaith ar y gweill ar y safleoedd hyn i reoli'r cynefin ac amddiffyn y rhywogaethau.

Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Madfall dŵr cribog Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig i'r amffibiaid anhygoel hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf