Mae Cymru yn gartref i 20 Ardal Cadwraeth Arbennig coetir, rhan o rwydwaith safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig Ewropeaidd Natura 2000.

Mae ein coetiroedd hynafol yn bwysig i'r bywyd gwyllt, yn ogystal â phobl a'r economi, ac mae'n bwysig ein bod yn rheoli'r coetir yn ofalus i sicrhau bod y mannau hardd hyn yn gallu cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Coetir Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.

Diweddarwyd ddiwethaf