Mae'n mor bwysig i fywyd gwyllt mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan rwydwaith Natura 2000 o safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig Ewropeaidd.

Mae gwarchod ein hafonydd a'n llynnoedd yn golygu bod dyfodol rhywogaethau adnabyddus fel yr Eog neu'r Dyfrgi yn cael ei ddiogelu i'r dyfodol, yn ogystal â rhywogaethau llai adnabyddus fel y llysywen bendoll a misglen berlog yr afon.

Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Afon a Llyn Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.

Diweddarwyd ddiwethaf