Ar un adeg roedd gwlyptiroedd yn gyffredin ond mae draenio ac amaethyddiaeth wedi ein gadael â nifer fach o olion sydd wedi goroesi yn unig. Mae'r amodau asidig a gwlyb yn creu mawn sy'n cronni dros ddegau o filoedd o flynyddoedd, gan gloi carbon i ffwrdd a'n helpu i leihau nwyon tŷ gwydr, ond gall difrod i'r cynefinoedd hyn ryddhau'r carbon hwn ac achosi iddynt sychu.

Maent hefyd yn baradwys i fywyd gwyllt, yn gyfoethog mewn planhigion, pryfed ac adar. Felly mae'n bwysig rheoli'r cynefinoedd hyn yn ddiogel i amddiffyn y bywyd gwyllt ac elwa o'r amddiffyniad rhag llifogydd a newid yn yr hinsawdd.

Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Gwlyptir Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.

Diweddarwyd ddiwethaf