Sut rydym yn sgorio ceisiadau am grantiau adfer mawndir
Mae hwn yn gynllun grant cystadleuol. Bydd pob prosiect yn cael ei sgorio ar gyfer nifer o gwestiynau allweddol o'r ffurflen gais. Yna bydd prosiectau'n cael eu blaenoriaethu yn ôl y sgoriau a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu.
Meini prawf hanfodol
Rhaid bodloni'r rhain er mwyn i gais symud ymlaen i sgorio:
- Mae'r cais am grant rhwng £10,000 a £250,000.
- Rhaid i'r mawndir fod yng Nghymru, gyda dim ond y rhan sydd yng Nghymru o unrhyw gynigion trawsffiniol yn cael ei hystyried.
- Rhaid i'r cynnig fynd i'r afael ag un neu fwy o chwe blaenoriaeth y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
- Mae tystiolaeth wedi’i chynnwys bod yr ymgeisydd wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir yn y degawd diwethaf neu wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig o gefnogaeth dechnegol gan bartner sydd â phrofiad ymarferol o gyflawni gwaith adfer mawndir ac sy'n gallu cynnig cymorth technegol.
Bydd ceisiadau'n cael eu sgorio a'u trefnu, a byddant yn cael eu hystyried gyda'i gilydd yn y panel neu baneli perthnasol. Byddwn yn ceisio adeiladu portffolio cytbwys o brosiectau sydd, gyda'i gilydd, yn mynd i'r afael â themâu'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan sicrhau cydbwysedd rhwng ardaloedd daearyddol a rhwng prosiectau datblygu a chyflawni.
Byddwn yn gwneud gwiriadau diwydrwydd dyladwy cymesur ar bob ymgeisydd. Tîm grantiau CNC sy’n gwneud ein gwaith asesu ariannol. Mae asesiadau wedi'u teilwra yn ôl y math o bartner, yn cynnwys gwiriadau safonol o ddiwydrwydd dyladwy ac maent yn gymesur, a hynny ar sail gwerth a risg. Rydym yn ymdrin â’r canlynol:
- Adnabod eich ymgeisydd
- Iechyd ariannol
- Ffynonellau eraill o gyllid
- Ardaloedd o bryder arbennig
Ein cwestiynau asesu
- A yw gwerth y cais am grant rhwng £10,000 a £250,000? Os 'Na', peidiwch â pharhau.
- A yw'r ardal o fawndir sy’n cael ei hadfer yng Nghymru? Os 'Na', peidiwch â pharhau.
- A oes dealltwriaeth glir o sut mae'r prosiect yn cyd-fynd â’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan fynd i'r afael yn benodol ag un neu fwy o'i chwe blaenoriaeth? Os 'Na', peidiwch â pharhau.
- A yw'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir o fewn y degawd diwethaf, neu fel arall, cadarnhad ysgrifenedig o gymorth technegol gan bartner neu gontractwr a all ddangos tystiolaeth o brofiad perthnasol o fod wedi adfer mawndir? Os 'Na', peidiwch â pharhau.
- A yw'r prosiect yn cynnig gwerth am arian, hynny yw, a yw'r prosiect yn darparu'r gweithgareddau, yr allbynnau a'r canlyniadau cywir? Os yw'r prosiect yn adfer mawndiroedd, beth yw'r gost fesul hectar? (cost fesul hectar = £ cyfanswm cost y prosiect/nifer yr hectarau wedi'u hadfer)
- A gafwyd neu a wnaed cais am y caniatadau neu’r cydsyniadau perthnasol? Neu os na chafwyd caniatadau eto, a oes cynllun clir ar gyfer eu cael nhw?
- A yw'r cynnig yn seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd da? Pa mor dda y mae'r dystiolaeth a nodwyd wedi'i defnyddio i lywio dyluniad y cynnig?
- A yw'r allbynnau a'r canlyniadau a ragwelir yn realistig?
- Ydyn nhw wedi amlinellu’n glir sut byddant yn mesur cynnydd yn erbyn y canlyniadau?
- Sut fydd y canlyniadau’n cael eu cynnal ar ôl i’r prosiect ddod i ben? A yw'r partner allanol wedi ystyried costau parhaus a sut y byddant yn cael eu hariannu ac a yw'n rhesymol?
- Os nad yw CNC yn gallu ariannu'r prosiect hwn, beth yw'r goblygiadau? A fyddai canlyniadau difrifol pe na byddem yn ei gefnogi neu a fyddai'r prosiect yn mynd yn ei flaen beth bynnag?
- A yw'r gweithgareddau a nodir yng nghynllun y prosiect yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn unol ag amcanion y prosiect, hynny yw, a allent gyflawni'r canlyniadau a nodwyd?
- A yw'r amserlenni a'r cyfnodau hawlio yn realistig ac yn gyflawnadwy? Mae angen hawlio holl gostau'r prosiect erbyn 31 Mawrth 2027.
- A oes gan y prosiect drefniadau llywodraethu digonol, sy'n cyd-fynd â'i faint a lefel y risg, i gyflawni'r prosiect?
- A yw’r risgiau wedi'u nodi'n briodol ac a oes mesurau lliniaru priodol ar waith ar eu cyfer?
- Pwy yw'r partneriaid eraill sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, ac a ydyn nhw'n berthnasol ac yn briodol?
- Pa mor dda mae’r cynnig yn ystyried sut mae pobl o gefndiroedd amrywiol a phob gallu yn cael cyfle i gymryd rhan yn y prosiect?
- Pa mor dda mae'r cynnig yn ystyried, yn defnyddio ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg?
- A yw'r costau manwl ar y dadansoddiad o gostau'r prosiect a uwchlwythwyd yn rhesymol ac yn gyraeddadwy?
- Beth yw ansawdd y cynnig yn ei gyfanrwydd?
Sut rydym yn sgorio tystiolaeth
Tystiolaeth a ddarparwyd |
Sgôr |
Sylw |
---|---|---|
Mae'r cynnwys yn gyson, yn gynhwysfawr, yn gymhellol ac yn uniongyrchol berthnasol i'r cynllun grant ym mhob ffordd ac mae'n hynod gredadwy. |
10 |
Hyderus iawn |
Mae'r cynnwys yn ddigonol (o ran ansawdd), yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy. |
8 |
Hyderus |
Mae mân fylchau yn y cynnwys, neu i raddau bach nid yw'n argyhoeddi, nid yw’n gredadwy nac yn berthnasol. |
6 |
Mân bryderon |
Mae bylchau cymedrol yn y cynnwys ac felly nid yw'n argyhoeddiadol. |
4 |
Pryderon cymedrol |
Mae bylchau mawr yn y cynnwys, nid yw'n argyhoeddi mewn sawl ffordd, nid yw’n gredadwy a/neu mae'n amherthnasol i'r cynllun i raddau helaeth. |
2 |
Pryderon mawr |
Mae'r cynnwys yn gamarweiniol, yn amherthnasol neu'n anghymwys. |
1 |
Ddim yn dderbyniol |