Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch: 

permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol. 

Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd

Rhif y Drwydded Enw Ymgeisydd Lleoliad y Safle Math o Gais

CML2106

Dyer and Butler Ltd

Amnewid Fflap Llanw Sudbrook

Band 1

CML2107

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Ail-broffilio Traeth Bae Colwyn

Band 1

CML2104

Net

n/a

Band 2

CML2105

Puma Energy (UK) Limited

Cynnal a Chadw Jetty Ynni Puma

Band 1

CML2104

Network Rail

Atgyweirio Traphont Kidwelly

Band 2

CML2103

Amalgamated Construction Ltd

MWC0823S – Loughor Viaduct

Band 1

SP2102

Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

Carthu cynnal a chadw Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau 2016 i 2021

Cais Cynllun Sampl

CML2102

M & J Cosgrove Construction Ltd

Ailddatblygiad St. Cuthberts

Band 2

RML2101

Prifysgol Bangor / Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru - Cynllunio Parth Cadwraeth Forol

Band 1

RML2101

Prifysgol Bangor

Samplau Cydio Gwaddodion i gasglu data ar ddosbarthiad, maint a chyflwr cynefinoedd gwely'r môr ar safle oddi ar dde-orllewin Cymru i lywio cynllunio Parth Cadwraeth Forol Llywodraeth Cymru.

Band 1

SP2101

Cyngor Sir Ceredigion

Harbwr Aberaeron

Cais Cynllun Sampl

 

Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt

Rhif y Drwydded Enw Deilydd y Drwydded Lleoliad y Safle Math o Gais Penderfyniad

SP2102

Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

Carthu cynnal a chadw Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau 2016 i 2021

Cais Cynllun Sampl

Cyhoeddwyd

 

Diweddarwyd ddiwethaf