Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol. 

Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd

Rhif y Drwydded Enw Ymgeisydd Lleoliad y Safle Math o Gais

SC2104

Newport Norse Ltd

Canolfan Ymwelwyr Pont Cludiant Casnewydd ac Adfer Pontydd

Sgrinio

SC2103

Cyngor Caerdydd

Cynllun Amddiffyn Arfordir Caerdydd

Cwmpasu

CML2108

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cynllun Amddiffyn Arfordirol a Theithio Gweithredol Old Colwyn

Band 2

SC2102

Blue Gem Wind Ltd

Project Valorous

Cwmpasu

SC2101

Cyngor Sir Dinbych

Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl Ganolog

Cwmpasu

SP2103

Clwb Mordeithio a Hwylio Monkstone

Monkstone Marina

Cais Cynllun Sampl

 

Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt

Rhif y Drwydded Enw Deilydd y Drwydded Lleoliad y Safle Math o Gais Penderfyniad

CML1929

Greenlink Interconnector Ltd

Cydgysylltydd Greenlink

Band 3

Cyhoeddwyd

SP2101

Cyngor Sir Ceredigion

Harbwr Aberaeron

Cais Cynllun Sampl

Cyhoeddwyd

 

Diweddarwyd ddiwethaf