Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer arafu a storio dŵr

Gall gwlyptiroedd a adeiladwyd i storio dŵr wyneb leihau’r perygl o lifogydd lleol neu sicrhau bod dŵr ar gael yn ystod cyfnodau o dywydd sych. Gallant hefyd helpu i arafu rhediad dŵr ffo ar draws y tir, i lawr traciau neu o doeon adeiladau. Trwy arafu a storio dŵr gallant hefyd wella ansawdd y dŵr a darparu buddion bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd.

Os mai gwlyptir a adeiladwyd ar gyfer arafu a/neu storio dŵr glaw gyda llif amrywiol ac ysbeidiol yw eich un chi, nid oes angen i chi wneud cais am Drwydded Amgylcheddol.

Darganfyddwch a fydd eich gwlyptir yn agos at ardal warchodedig

Rhaid i wlyptiroedd sydd wedi’u dylunio i reoli llif dŵr beidio â chynyddu’r perygl o lifogydd neu orlifo arfordirol.

Safleoedd gwarchodedig

Mewn safle a ddynodwyd ar gyfer cadwraeth natur neu warchodaeth ddaearegol, ni ddylai gwlyptiroedd a adeiladwyd cael effaith andwyol ar y nodweddion gwarchodedig, neu rhaid iddynt ddangos bod ganddynt fudd net sylweddol ar gyfer y nodweddion. Efallai y bydd hyn yn gofyn am asesiad fel Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) neu Gydsyniad SoDdGA.

Ni ddylai gwlyptiroedd a adeiladwyd at ddiben rheoli llif mewn Parth Gwarchod Tarddiad Dŵr (ardaloedd a warchodir fel ffynonellau dŵr yfed) achosi risg o halogiad i’r cyflenwadau dŵr.

Draenio dŵr ffo

Rhaid iddynt beidio â derbyn dŵr o do unrhyw adeilad gyda fentiau to sy’n cadw da byw neu o draciau a ddefnyddir gan dda byw.

Fel rhan o system ddraenio gynaliadwy rhaid iddynt gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol statudol.

Rheoli llifogydd

Os yw’r gwlyptir yn nodwedd rheoli llifogydd naturiol, rhaid i chi gydymffurfio â’r canllawiau perthnasol gan CIRIA. Efallai y bydd angen mathau eraill o ganiatâd, er enghraifft Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAP).

Darllenwch Llawlyfr Rheoli Llifogydd Naturiol CIRIA (Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu) i ddysgu sut y gall gwlyptiroedd a adeiladwyd a chamau gweithredu eraill reoli perygl llifogydd.

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf