Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cynllun Lwfansau Tirlenwi yng Nghymru

Gwyboadaeth am sut mae rheoli gwastraff yn cael ei fonitro a'i gwella yng Nghymru

Diweddariad Nesaf: 19 Hydref 2017

Gall tirlenwi gwastraff dinesig pydradwy, er enghraifft, bwyd, papur, a gwastraff gardd, gyfrannu at broblemau amgylcheddol fel cynhyrchu trwytholch - hylif sy'n draenio oddi ar safle tirlenwi.

Mae hefyd yn rhyddhau methan, sef nwy tŷ gwydr cryf, a all gyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Gwybodaeth am Lwfansau Tirlenwi y Cynllun

Daeth rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 i rym yng Nghymru ar 1 Hydref 2004, er mwyn lleihau faint o wastraff trefol pydradwy sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae’r cynllun lwfansau tirlenwi’n mynnu bod awdurdodau gwaredu gwastraff Cymru’n cyfyngu cyfanswm y gwastraff dinesig pydradwy a yrrant i’w gladdu.

Rhaid i’r symiau a anfonir i safleoedd tirlenwi fod yn is na’r lwfans a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn osgoi bod yn agored i gosb.

Canlyniadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi

Mae Cymru wedi lleihau faint o wastraff trefol pydradwy (gwastraff bwyd, papur a gerddi) sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi gan 80% dros un ar ddeg mlynedd llawn diwethaf y Cynllun Lwfansau Tirlenwi.

Gallwch weld canlyniadau'r blynyddoedd blaenorol yn 'Cofrestr Cynllun Lwfansau Tirlenwi (CLT) Cymru o 2004 ymlaen'.

Crynodeb o ganlyniadau 2015/16

At ei gilydd, anfonodd awdurdodau lleol Cymru 170,567 o dunelli o wastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi yn 2015-16, o gymharu â lwfans o 410,000 o dunelli ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn 58% yn llai na'r lwfans.

Mae hyn yn dangos yn glir bod y gwaith o leihau faint o wastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn llwyddo.

Perfformiadau awdurdodau lleol unigol

Y rhai a wnaeth y defnydd lleiaf o'r lwfans a ganiateid iddynt oedd Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Ynys Mon, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Thorfaen, Bro Morganwg a Wrecsam  (dim mwy na 40% o'u lwfansau).

Mae hyn mewn cymhariaeth â Gwynedd, Merthyr Tudful a Abertawe, a ddefnyddiodd dros 75% o'u lwfansau.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cofrestr CLT Cymru o 2004 ymlaen EXCEL [63.5 KB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.