Gwaith arolygu a samplu – Os ydych yn dod i aber afon Dyfrdwy, gwiriwch bob hysbysiad i forwyr

Hysbysir morwyr fod llongddrylliad y bad hwylio Lord Delamere wedi'i leoli ar lan ddeheuol yr afon gyferbyn â’r Mur Hyfforddi Gogleddol yn y lleoliad Lled 53° 14.309’G Hyd 003° 05.327’Gn.

Mae'n bosibl y bydd amrywiadau naturiol yng nghyfeiriad yr afon yn golygu y caiff y llongddrylliad ei ddadorchuddio o dro i dro yn ystod adegau llanw isel. Mae'r rhwystr wedi'i farcio gan fwi perygl ynysig du a choch sy'n dangos sffêr ddwbl ddu ar ei frig a golau gwyn Fl(2) 5s.

Dylai morwyr osgoi'r bwi o bell ac arfer gofal arbennig wrth fordwyo yng nghyffiniau'r rhwystr.

Drwy hyn, mae Hysbysiad Rhif 10 – 2010 wedi'i ddiddymu.

Y CAPTEN S. CAPES

HARBWR FEISTR

16 Awst 2013

d/o Strategic Marine Services Ltd, 14 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Chester, CH2 4BP. Ffôn: +44 (0) 1244 371428 Ffacs: +44 (0) 1244 379975 E-bost: harbourmaster@deeconservancy.org

Diweddarwyd ddiwethaf