Rhif 16 – 2023 – Marciau arbennig tymhorol y gaeaf i amlinellu ardal waharddedig

MARCIAU ARBENNIG TYMHOROL Y GAEAF

I AMLINELLU ARDAL WAHARDDEDIG

Mae'r hysbysiad hwn yn disodli Hysbysiad i Forwyr 13/2023 sydd bellach wedi'i ganslo.

Mae morwyr yn cael eu cynghori bod cyfres o farciau melyn arbennig y gaeaf heb olau wedi'u sefydlu rhwng Ynysoedd Hilbre a blaendraeth West Kirby i'r Gogledd o'r Marine Lake.

Mae’r marciau gaeaf tymhorol hyn wedi'u ffurfio gan ddwy linell; un llinell alltraeth yn West Kirby a llinell ar y lan ger Ynys Hilbre sy’n gweithredu fel llinellau terfyn i warchod ardaloedd corstir ar y lan lle dylid osgoi gweithgareddau chwaraeon dŵr fel syrffio barcud a syrffio gwynt.

Mae'r ardal hon wedi'i nodi rhwng mis Medi a mis Ebrill yn unol â'r siart isod;

Map yn dangos marciau tymhorol y gaeaf rhwng Ynysoedd Hilbre, blaendraeth West Kirby a Marine Lake West Kirby

Capten G PROCTOR
Harbwrfeistr
c/o Strategic Marine Services Ltd
12 Chapel Court
Wervin Road
Wervin
Caer/Chester
CH2 4BP
Ffôn: +44 (0) 1244 371428
Ebost: harbourmaster@deeconservancy.org

Diweddarwyd ddiwethaf