Gwaith arolygu a samplu – Os ydych yn dod i aber afon Dyfrdwy, gwiriwch bob hysbysiad i forwyr

Hysbysir morwyr fod llawer o fwiau bach yn cael eu gosod yn yr aber o dro i dro.

Mae'r rhain yn cynnwys angorfeydd a marcwyr rasio a osodwyd gan glybiau hwylio, yn ogystal â bwiau a osodwyd gan bysgotwyr lleol ac unigolion eraill.

Ceir y crynodiadau uchaf ar hyd traethlin Wirral o West Kirby i fyny'r afon tuag at Heswall (Dawpool Bank), ac ar ochr Cymru ger y mynediadau i'r cafnau ym Maes-glas a Bagillt.

Argymhellir y dylai'r rheiny nad oes ganddynt wybodaeth leol osgoi'r ardaloedd hyn, yn enwedig fin nos yn y tywyllwch pan efallai na chaiff y bwiau eu gweld, ac yn ystod adeg llanw uchel pan allant ddiflannu yn llwyr, neu'n rhannol, o dan y dŵr. Argymhellir yn gryf y dylid bwrw golwg gofalus dros ardal cyn mordwyo tua'i chyffiniau.

Y CAPTEN S. CAPES

HARBWR FEISTR

23 Mai 2018

d/o Strategic Marine Services Ltd, 14 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Chester, CH2 4BP. Ffôn: +44 (0) 1244 371428 Ffacs: +44 (0) 1244 379975 E-bost: harbourmaster@deeconservancy.org

Diweddarwyd ddiwethaf