Rhif 03 - 2023 Adrodd argyfyngau a digwyddiadau ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy

Drwy hyn, atgoffir morwyr ei bod yn ofynnol adrodd argyfyngau a digwyddiadau morol ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn unol ag MGN 564 (M+F) – Adrodd Anafiadau Morol a Digwyddiadau Morol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017.

Adrodd argyfyngau

Dylid adrodd unrhyw argyfwng neu ddigwyddiad morol a allai beryglu bywyd neu arwain at sefyllfa a allai fod yn beryglus o fewn Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ar unwaith i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) trwy:

Ffonio 999 – gofynnwch am wyliwr y glannau

neu

Sianel 16 VHF

Adrodd digwyddiadau

Yn ogystal â'r uchod ac ar gyfer pob digwyddiad arall, gellir cysylltu â swyddfa Harbwr Feistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ar:

Ffôn 01244 371428 yn ystod oriau swyddfa
neu
0300 065 3000
(llinell adrodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd ar agor 24 awr y dydd)

Gellir cael gwybodaeth ychwanegol am ddiogelwch morol ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy a manylion cyswllt defnyddiol eraill o swyddfa'r Harbwr Feistr neu wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gellir hefyd cysylltu â gorsaf leol gwylwyr y glannau yng Nghaergybi 24 awr y dydd drwy ffonio 999 a gofyn am wyliwr y glannau, neu'n uniongyrchol ar 01407 762051.

Gellir cysylltu â llinell wybodaeth Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar infoline@mcga.gov.uk.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, gellir cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Capten G PROCTOR
Harbwr Feistr
4 Ionawr 2023

d/o Strategic Marine Services Ltd.
12 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Chester. CH2 4BP
Ffôn: +44 (0) 1244 371428
E-bost: harbourmaster@deeconservancy.org

Rhif ffôn digwyddiadau: 0300 065 3000 (gwasanaeth 24 awr y dydd am ddim)
Floodline: 0345 988 1188 (gwasanaeth 24 awr y dydd)

Diweddarwyd ddiwethaf