Cyfarwyddyd Diogelwch yr Harbwr Feistr

1. Mae Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn argymell fod pawb, sy’n gweithredu llongau pysgota cofrestredig sy’n cynaeafu a / neu gludo pysgod cregyn neu longau pysgota sy’n cario pobl sy’n cynaeafu pysgod cregyn yn Aber Afon Dyfrdwy, yn mabwysiadu’r gweithdrefnau a’r canllawiau a geir yn y ‘Côd Ymarfer Llongau Pysgota ar gyfer Diogelwch Llongau Pysgota Bach’. [MSN 1817(Amendment 1)].

Dylai’r rhai sy’n gyfrifol am longau o’r fath hefyd ystyried yr wybodaeth a geir yng nghyhoeddiad Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (AMGG) “Llyfryn Pysgotwyr a Diogelwch” Bydd yn bosibl cael y ddwy ddogfen drwy swyddfa leol AMGG neu drwy wefan AMGG.

2. Hefyd, dylai’r holl rai sy’n berchen ar longau o’r fath sy’n gweithredu yn Aber Afon Dyfrdwy ddeall y cynnwys yn llawn a rhoi sylw i’r cyngor a’r cyfarwyddyd perthnasol a geir yn y cyhoeddiad. “Diogelwch y Môr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy”. Mae’r llyfryn hwn ar gael ar dudalen Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ar wefan CNC.

3. Mae’r AMGG yn argymell y dylai unrhyw longau, a ddefnyddir i gynaeafu ac i gludo pysgod cregyn, gydymffurfio â safonau sy’n cael eu rhestru yng nghôd ymarfer y gwaith cwch perthnasol. Dylai unrhyw longau o’r fath sy’n gweithredu ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy, sicrhau fod ganddynt o leiaf yr eitemau diogelwch canlynol:

(a) Un siaced achub i bob unigolyn (neu ddillad nofiadwy os cânt eu gwisgo drwy’r adeg).

(b) Un angor masnachol o’r math a’r pwysau priodol, gyda 2 fetr i gadwyn 6mm a rhaff addas 15 metr o hyd gydag un pen wedi ei glymu’n sownd i fan cadarn o’r llong.

(c) Dwy ffagl barasiwt goch a dau arwydd mwg.

(d) Un corn niwl can nwy neu ddull arall o wneud sŵn rhybuddio addas.

(e) Offeryn pwrpasol i wagio dŵr o gwch neu gynhwysydd y gellid ei ddefnyddio i’r diben hwnnw, (gallai hyn gynnwys y ffaglau, yr arwyddion mwg a’r corn niwl).

(f) Tortsh a batris gwrth ddŵr.

4. Argymhellir yn gryf bod unrhyw longau a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau cynaeafu pysgod cregyn yn cario radio VHF sy’n gallu gweithio ar sianel 16 ac 14, a phan fo’n ymarferol, dylai pobl sy’n gweithio mewn gwelyau pysgod cregyn gario radio VHF gludadwy.

5. Trwy hyn hefyd, rydym yn atgoffa pawb sy’n gyfrifol am longau, dan y Cyfarwyddiadau Llywio cyfredol, a gyhoeddwyd gan Dociau Mostyn Cyf, fod llywio yn orfodol yn Aber Afon Dyfrdwy ar gyfer llongau pysgota cofrestredig sy’n mesur 47.5 metr o hyd neu fwy, a phob llong arall sy’n mesur 20 metr o hyd neu fwy.

6. Mae’n angenrheidiol i bob llong sy’n mordwyo yn unrhyw ran o ardal harbwr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr, 1972, fel y’u diwygiwyd. Rhaid i bobl sy’n gyfrifol am longau felly sicrhau eu bod yn gyfarwydd â gofynion y Rheoliadau hyn a’u defnyddio’n gywir.

Dylid crybwyll unrhyw amheuon neu ymholiadau ynghylch cynnwys y cyfarwyddyd hwn neu unrhyw agwedd ar ddiogelwch y môr ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn brydlon gyda’r sawl sydd wedi arwyddo isod.

Cefndir

Ym mis Ionawr 2008 cwblhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, CNC nawr), fel awdurdod bwrdd gwarchod, harbwr, a goleudy lleol ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy, asesiad peryglon generig perthnasol i waith pysgota cocos trwyddedig. Mae’r asesiad perygl hwn hefyd yn gymwys ar gyfer cynaeafu pysgod cregyn eraill drwy ddefnyddio cychod yn ardal awdurdodaeth Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy.

Clustnododd yr asesiad perygl yr angen am gamau rheoli sydd rhaid eu mabwysiadu er mwyn lleihau’r risg i bobl, i’r amgylchedd, i eiddo ac i awdurdod yr harbwr gymaint ag sy’n ymarferol a rhesymol bosibl.

Un o’r camau rheoli a glustnodwyd oedd y dylid sicrhau bod deilyddion trwyddedau cynaeafu pysgod cregyn yn ymwybodol o Gyfarwyddyd Diogelwch y Môr ar gyfer Deilyddion Trwyddedau Cynaeafu sy’n gweithio yn Aber Afon Dyfrdwy, a’u bod yn ei ddeall yn llawn.

Mae Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn ystyried y camau a amlinellir yng Nghyfarwyddyd Diogelwch y Môr ar gyfer Deilyddion Trwyddedau Cynaeafu sy’n gweithio yn Aber Afon Dyfrdwy fel y camau diogelwch angenrheidiol lleiaf posibl sydd eu hangen ar gyfer unrhyw un sydd ar fwrdd llong sy’n ymwneud â gwaith cynaeafu a / neu gludo pysgod cregyn yn Aber Afon Dyfrdwy.

Drwy arwyddo a dychwelyd eu cais am drwydded wedi ei gwblhau ynghyd â thaliad, mae deilydd trwydded yn cydnabod ei fod wedi deall y cyfarwyddyd hwn, ac yn cytuno bod unrhyw long y bydd yn ei hwylio sy’n gysylltiedig â chynaeafu pysgod cregyn, yn dilyn y safonau diogelwch sy’n cael eu rhestru.

Mae Hysbysiad Lleol Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy a Phorthladd Mostyn i Longwyr ar gael i rai sy’n defnyddio’r aber ar gais drwy wefannau Awdurdod yr Harbwr.

Y Capten S. Capes, Harbwr Feistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy Mai 2014

Harbwr Feistr

Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy

c/o Strategic Marine Services Ltd.

14 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Cheshire. CH2 4BP.

Ffôn : +44 (0) 1244 371428 Ffacs : +44 (0) 1244 379975 E-bost : harbourmaster@deeconservancy.org

Diweddarwyd ddiwethaf