Adrodd am argyfwng

Dylai pob argyfwng yng Ngwarchodfa Dyfrdwy sy'n cynnwys cwch, unigolyn yn y dŵr neu gael eich dal gan y llanw gael eu hadrodd ar unwaith i Wylwyr y Glannau Ei Mawrhydi:

  • defnyddiwch Sianel VHF 16
    neu
  • ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Adroddwch bob sefyllfa frys arall i'r gwasanaeth argyfwng priodol h.y. yr heddlu, y gwasanaeth tân neu ambiwlans.

Gwybodaeth y dylech ei darparu

  • Eich enw
  • Enw eich cwch/yr anafedig
  • Safle eich cwch/yr anafedig: lledred a hydred neu fel cyfeiriant a phellter o dirnod
  • Crynodeb o'r digwyddiad, er enghraifft, unigolyn yn y dŵr neu gwch ar dân/yn suddo
  • Nifer y bobl yr effeithir arnynt
  • Os bydd pobl ar goll, rhowch eu nifer a disgrifiad cryno
  • Beth yw eich pryder mwyaf uniongyrchol
  • Manylion cyswllt

Beth yw argyfwng?

Ystyrir bod argyfwng yn ddigwyddiad sydd yn cael, neu a allai gael, effaith niweidiol ar fywyd dynol, eiddo neu'r amgylchedd.

Gall hyn, er enghraifft, godi o ganlyniad i ddamwain, digwyddiad neu sefyllfa a allai fod yn beryglus sy'n ymwneud ag un neu fwy o gychod.

Diffinnir y digwyddiadau hyn mewn rheoliadau sy'n nodi'r Gofynion Adrodd Statudol ar gyfer llongau, cychod pysgota a chychod hamdden mewn amgylchiadau o'r fath.

Rhagor o wybodaeth

Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn ag adrodd am argyfwng o fewn y canllawiau manwl Diogelwch Morol yng Ngwarchodaeth Dyfrdwy (Saesneg in unig).

Diweddarwyd ddiwethaf