Nodi ac adrodd am eogiaid cefngrwm y Môr Tawel

Nid yw eog cefngrwm y Môr Tawel yn bysgodyn brodorol i ddyfroedd Cymru. Gallai gario afiechydon sy'n bygwth stociau pysgod brodorol.

Sut i adnabod eog cefngrwm y Môr Tawel

Mae'n bosibl, ar yr olwg gyntaf, y gallai eog cefngrwm ffres gael ei gamgymryd am eog bach yr Iwerydd.

Eog cefngrwm y Môr Tawel:

  • smotiau hirgrwn mawr du ar y gynffon
  • cefn braidd yn las, ystlysau arian a bola gwyn
  • fel arfer yn llai nag eog yr Iwerydd (40-60cm o hyd)
  • cennau llawer llai nag eog yr Iwerydd o'r un maint
  • ceg a thafod go dywyll
  • bydd gwrywod sy'n bridio'n datblygu crib nodweddiadol

I'r gwrthwyneb, dyma nodweddion arferol eog yr Iwerydd brodorol:

  • dim smotiau ar y gynffon
  • un smotyn du neu ddau ar groen y dagell
  • smotiau ar y cefn uwchlaw'r llinell ystlysol
  • fel arfer yn fwy nag eog cefngrwm y Môr Tawel (hyd at 100cm o hyd)
  • ystlysau mwy
  • ceg a thafod gwelw
  • cynffon dewach na chynffon eog cefngrwm

Nodweddion eog cefngrwm yng nghyfnod y cefnfor

Mae eogiaid cefngrwm, pan fyddant yn ffres o'r môr, yn llwydlas i laswyrdd ar eu cefnau, arian ar yr ystlysau, a gwyn ar eu boliau.

Mae smotiau duon mawr ar y cefnau, yr ochrau uchaf, yr esgyll bras a’r gynffon – gall rhai o’r smotiau ar y gynffon fod mor fawr â llygaid y pysgodyn. Maent yn unffurf iawn o ran maint, gan gyrraedd dim ond 40 i 60cm o hyd.

Dau eog cefngrwm yn eu cyfnod morol wedi’u gosod wrth ymyl ei gilydd. Gallwch adnabod y math hwn o eog o’r lliw gwyrddlas ar eu cefnau, arian ar eu hochrau a gwyn ar eu boliau.

Llun trwy garedigrwydd Asiantaeth yr Amgylchedd.

Nodweddion eog cefngrwm yn y cyfnod dŵr croyw

Gellir adnabod gwrywod sy'n magu ar unwaith oherwydd eu “crwb” a byddant bron yn sicr â lleithon sy’n rhedeg pan fyddant yn agos at silio. Mae eu tafodau duon a'u cynffonnau smotiog iawn hefyd yn amlwg iawn.

Bydd gan eogiaid benywaidd hefyd gynffonau ac esgyll bras smotiog iawn. Efallai y bydd gan y pysgodyn arlliw brown-pinc ar yr ochrau yn dibynnu ar yr amser a dreulir yn yr afon.

Eog cefngrwm gwryw sy’n magu yn ei gyfnod dŵr croyw wedi’i osod wrth ymyl tâp mesur. Mae'n hawdd adnabod y math hwn o eog oherwydd eu cefnau crwca. Eog cefngrwm benyw yn ei gyfnod dŵr croyw wedi'i osod ar gerrig mân. Bydd gan eogiaid cefngrwm benyw gynffonnau brith ac esgyll bras

Llun trwy garedigrwydd Helmsdale DSFB ac Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy a Nigel Fell o Ymddiriedolaeth Eog yr Iwerydd a Sefydliad Tweed.

Adrodd am eogiaid cefngrwm y Môr Tawel

Os ydych yn hyderus eich bod wedi dal eog cefngrwm y Môr Tawel, dylech wneud y canlynol:

  • peidio â dychwelyd y pysgodyn i'r dŵr
  • lladd y pysgodyn yn drugarog 
  • Cofnodi’r dyddiad dal, hyd a phwysau, a’r mesuriad hyd fforch 
  • cofnodi'r rhyw 
  • cofnodi lleoliad lle cafodd ei ddal (cyfeirnod grid os yn bosibl)
  • adrodd dal y pysgodyn i'n llinell gymorth digwyddiadau 24 awr cyn gynted â phosibl

os yn bosibl, hefyd:

  • tynnu llun o'r pysgodyn, yn ddelfrydol o'r ystlys, y gynffon a'r geg
  • cael sampl o gennau’r pysgodyn sydd wedi'i ddal a chadw'r rhain mewn amlen bapur
  • sicrhau clip esgyll (clip asgell fras neu glip o unrhyw esgyll eraill) yn ogystal â sampl o feinwe cyhyr y cefn (o leiaf 2cm x 2cm)
  • rhewi a chadw'r pysgodyn yn ei gyfanrwydd cyn gynted â phosibl ar ôl ei ddal
  • storio'r manylion dal ynghyd â'r pysgod mewn bag plastig wedi'i selio ar wahân os yn bosibl

Bydd hyn yn ein helpu ni, ac ymchwilwyr pysgodfeydd, i ddeall yn well sut i reoli dyfodiad eogiaid cefngrwm i'r DU.

Dod o hyd i sbesimen marw

Os byddwch yn dod o hyd i sbesimen sydd newydd farw, rhowch wybod i'n llinell gymorth digwyddiadau.

Eogiaid yr Iwerydd

Os nad ydych yn gwbl hyderus eich bod wedi dal eog cefngrwm, yna dylid rhyddhau’r pysgodyn yn ôl i’r afon yn fyw lle cafodd ei ddal.

Mae hyn er mwyn sicrhau na chedwir unrhyw eogiaid yr Iwerydd ar fai. Mae’n drosedd cymryd eog yr Iwerydd yn unrhyw un o ddyfroedd Cymru, a byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sydd ag un yn ei feddiant.  

 

Diweddarwyd ddiwethaf