Lleoliad a safle

Mae arwynebedd cynllun adnoddau Coedwig Nant yr Arian, tua naw milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, ger pentref Ponterwyd ym Mynyddoedd Cambria, yn ymestyn 756 hectar.

Mae'r goedwig yn bennaf yn nalgylch afon Rheidol, gydag ardaloedd bach yn nalgylchoedd afon Clarach ac afon Leri, sydd i gyd yn dod i derfyn ym Mae Ceredigion.

Ceir mynediad i'r goedwig o'r A44 ger Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian a phentref Goginan. Ceir mynediad i'r ardaloedd gogleddol o ffordd gyngor fach rhwng pentref Ponterwyd a phentref Penrhyn-coch.

Mae holl ardal y cynllun adnoddau coedwig yn Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Amrywio'r cyfansoddiad o rywogaethau'r goedwig trwy hyrwyddo strategaeth ailstocio fwy amrywiol, a fydd yn cynnwys mwy o amrywiadau ar goed llydanddail a choed brodorol yn ogystal â chonifferau cynhyrchiol, yn enwedig yn yr ardaloedd a gwympwyd yn ddiweddar y mae Phytopthera ramorum wedi effeithio arnynt a'r ardaloedd hamdden craidd o gwmpas y ganolfan ymwelwyr.

  • Gwella strwythur mewnol y goedwig trwy ddatblygu amrywiaeth dosbarth oedran ac amrywiaeth o ran maint y coed a’r cymysgedd o rywogaethau trwy amrywiaeth o systemau rheoli coedwig.

  • Amrywio'r mathau o goetir yn y goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth o goetir conifferau ac ehangu'r cynefinoedd coetir brodorol ac ar lannau afonydd.

  • Cynllunio i waredu unrhyw ardaloedd o goed llarwydd sylweddol sy'n weddill o dan y Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.

  • Cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren a buddsoddi mewn seilwaith coedwig i ddarparu gwell mynediad er mwyn caniatáu am fwy o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a rheoli gwaith teneuo lle bo'n bosibl.

  • Creu ecosystem a strwythur coedwig parhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir ar lannau afon a choetir brodorol, gwarchodfeydd naturiol, dargadwedd hirdymor, coetir dilyniadol a chlytwaith o gynefinoedd agored, gan gynnwys ffyrdd coedwig a rhodfeydd, wrth ganiatáu am amrywiaeth o drefniadau rheoli coetir, gan gynnwys ymyriadau prin ac ardaloedd lle gall prosesau naturiol ddigwydd.

  • Cynyddu swm y prennau marw yn y goedwig, sy'n cefnogi bywyd amrywiol yn ecosystem y goedwig.

  • Gwella cysylltedd cynefinoedd coetir, yn enwedig ar hyd rhwydweithiau ar lannau afon sy'n cysylltu ochr isaf Cwm Rheidol ag ecosystemau ucheldir Ceredigion ar gyfer rhywogaethau pwysig a warchodir gan Ewrop, megis dyfrgwn a beleod.

  • Darparu cynefinoedd agored a chynefinoedd ar lannau afon ar gyfer rhywogaethau o adar a warchodir, megis troellwyr a barcudiaid coch.

  • Cynnal yr amodau amgylcheddol gorau o gwmpas SoDdGA Cymsymlog a SoDdGA Craig-y-pistyll er budd y cynefinoedd a mathau prin o lystyfiant ar y safleoedd hyn.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth gynnal gweithgareddau gweithredol trwy ddilyn yr arfer gorau fel y'i nodir yn ‘Safon Coedwigaeth y DU – Canllawiau Coedwigaeth a Dŵr’ i warchod ansawdd y dŵr a'r ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.

  • Ehangu'r rhwydwaith presennol o goetir ar lannau afon, sy'n darparu clustogfa rhag gweithrediadau cynaeafu ac yn helpu i wella ansawdd y dŵr mewn ecosystemau dŵr croyw.

  • Cynllunio llennyrch cwympo coed llai a defnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith pan fydd yn bosibl, er mwyn helpu i leihau’r effaith ar ansawdd y dŵr a lleihau'r effeithiau gweledol ar y dirwedd.

  • Lleihau effeithiau niweidiol posibl asideiddio ar yr ecosystemau dŵr croyw yn y ddau gorff dŵr sy'n methu cyrraedd, neu sydd dan berygl o fethu cyrraedd, ‘Statws Ecolegol Da’ yn sgil pH yn yr ardal, trwy gadw gwaith llwyrdorri mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd islaw 20% o ardal y dalgylch.

  • Adfer y safleoedd coetir hynafol yng Nghoedwig Nant yr Arian ac Allt Tyn-y-graig ac o'u cwmpas trwy waredu conifferau yn raddol.

  • Cadw pob heneb gofrestredig, megis cloddfa blwm Blaen Cwmsymlog a bryngaer Banc y Castell, yn rhydd rhag llystyfiant prysgwydd a choed ac ymgynghori â Cadw ar eu gwaith rheoli.

  • Gwarchod pob heneb a nodwedd hanesyddol yn Ardal Tirwedd Hanesyddol Ucheldir Ceredigion wrth gynnal gweithrediadau rheoli coedwig.

  • Gwella gwerth gweledol, gwerth synhwyraidd a gwerth cynefinoedd tirwedd y goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth o rywogaethau, dosbarth oedran a chynefinoedd brodorol a rhannu ffiniau dirybudd a rheolaidd y goedwig.

  • Rheoli a chynnal y goedwig o amgylch Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian er budd a gwelliant profiad ymwelwyr.

  • Ystyried rhagor o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a strwythur coedwigaeth parhaol ar hyd y prif lwybrau hamdden rhwng y Ganolfan Ymwelwyr a llynnoedd ucheldirol Llyn Blaenmelindwr a Llyn Syfydrin.

  • Cynnal a gwella'r cyfleoedd hamdden i gerddwyr, beicwyr a marchogwyr ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus a ffyrdd poblogaidd eraill yn y goedwig.

  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus ar unrhyw lwybrau y mae gweithrediadau cynaeafu yn effeithio arnynt, megis cwympo, teneuo ac ailstocio coed. Caiff unrhyw hawl dramwy gyhoeddus y plannir drosti am resymau hanesyddol ei hadfer yn ôl y map diffiniol.

  • Ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos, rhanddeiliaid a phrosiectau er mwyn datblygu blaenoriaethau a chynlluniau a fydd yn gwella gwydnwch hirdymor a chysylltedd yr ecosystemau yn y dirwedd ehangach.

  • Parhau i ymchwilio i'r potensial am brosiectau ynni gwynt yn Ardal Chwilio Strategol D TAN 8, sydd ychydig i'r gogledd o'r goedwig, a'r glustogfa 5km o hyd sy'n gorgyffwrdd â'r goedwig.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf