Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Eryri’n cwmpasu ardal 1,039 hectar sy’n gorwedd yn bennaf o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Lleol Gwynedd.

Yn rhan o ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Eryri mae yno bump o goedwigoedd llai. Mae blociau Beddgelert, Cwellyn a Hafod-y-wern i’r gogledd o Feddgelert ar hyd yr A4085 a’r rhain gyda’i gilydd yw’r darn mwyaf o ardal y Cynllun – 875 hectar.

Mae Coederyr yn gorwedd yn nyffryn Gwynant rhwng Llyn Dinas a Llyn Gwynant ac yn ffurfio 81.3 hectar o ardal y Cynllun.

Yn olaf, mae Coed Dolfriog a Choed Caeddafydd yn gorwedd yn nyffryn Nanmor i’r de-ddwyrain o Feddgelert ac maent yn ymestyn dros 82.7 hectar ar naill ochr y dyffryn.

Fel y nodir uchod, mae’r rhan fwyaf o’r coedwigoedd yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, ac eithrio Hafod-y-Wern sy’n ymestyn ychydig y tu hwnt i’r ffin. Mae eu lleoliad yn y Parc yn golygu eu bod yn ganolog i’r Wyddfa ei hun yn ogystal â mannau eraill sy’n brysur â thwristiaid a safleoedd cadwraeth.

Cyfleoedd a blaenoriaethu

Cynhyrchu pren

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiad pren ym Meddgelert, Cwellyn a'r Hafod trwy'r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a'r dewis o rywogaethau i'w hailgyflenwi.
  • Amrywio cyfansoddiad y rhywogaethau yn y goedwig er mwyn cynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ystyriaeth ofalus o amnewid coed llarwydd ar gyfer ardaloedd a gafodd eu llwyrdorri i gadw amrywiaeth yn y goedwig gynhyrchiol.
  • Tynnu coed llarwydd aeddfed yn raddol er mwyn osgoi ardaloedd mawr o lwyrdorri coed, a lleihau'r tebygolrwydd o broblemau cyfagosrwydd a nifer sylweddol o ddŵr ffo gwaddod.
  • Sefydlu gweithrediadau teneuo i sicrhau bod cnydau coedwig gorchudd di-dor posib yn cael cyfle i ddatblygu'n llwyddiannus a bod rhannau o blanhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol yn cael eu teneuo i gael eu prynu'n ôl yn araf i rywogaethau coetir brodorol.
  • Cynyddu amrywiaeth adeileddol trwy reoli'r system goedamaeth fach ei heffaith pan fo'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw fannau wedi’u llwyrdorri, gan osgoi cwympo unrhyw lennyrch cyfagos. Dylid cadw unrhyw gnydau conwydden hŷn pan fo'n bosibl er mwyn cadw adeiledd y goedwig a'i botensial cynhyrchiol.

Rheoli coetiroedd hynafol

  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal a gwella coetiroedd hynafol rhannol naturiol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, yn unol â'r polisi blaenoriaethu strategol.
  • Tynnu rhywogaethau anfrodorol yn raddol o safleoedd coetir hynafol, ac o ardaloedd sy'n dod o dan reolaeth Ardal Cadwraeth Arbennig Coetir Derwen Fes Ddigoes Meirionydd. Bydd hyn yn lleihau’r effeithiau ar lwybrau hedfan Ystlumod trwy’r ardaloedd coetir.
  • Pwyslais arbennig ar symud rhywogaethau estron goresgynnol o safleoedd coetir hynafol, ac ardaloedd ger Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
  • Datblygu cyfundrefn deneuo sy'n sicrhau y gellir adfer ardaloedd sydd wedi'u nodi fel coetir hynafol heb fawr o alw ar lwyrdorri. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn Coed Eryr oherwydd ei agosrwydd i'r Wyddfa ac effaith y dirwedd ar yr ardaloedd cyfagos.
  • Parhau i gyrraedd targedau coed marw gyda phwyslais ar yr ardaloedd sy'n dod o dan statws coetir hynafol.

Rheoli cwrs dŵr

  • Cynllunio maint ac amseriad cwympo llennyrch ac ailstocio er mwyn osgoi effeithiau ar gyflenwadau dŵr yfed presennol ac yn y dyfodol. Gan fod y rhan fwyaf o'r safle yn gorwedd o fewn dalgylch sy'n sensitif i asid ac uwchlaw cyrsiau dŵr sydd â llwybr effaith i mewn i ardal cadwraeth arbennig, mae cynllunio llennyrch i osgoi pylsiau asid a gwaddod yn bwysig iawn.
  • Parhau i ddatblygu coetir glan yr afon o amgylch dyfrffyrdd, i wella ansawdd dŵr a gwella cysylltedd cynefinoedd.
  • Lle mae cyfleoedd wedi'u nodi i leihau risg llifogydd i gymunedau lleol, dylid ymgynghori â nhw trwy'r tîm rheoli risg llifogydd.

Rheoli cynefinoedd

  • Cynyddu plannu coetir olynol brodorol o fewn cynefinoedd sydd ar agor ar hyn o bryd i ganiatáu cynefin mwy graddol rhwng y prif lennyrch Sitca a'r cynefin agored uwchben.
  • Defnyddio cyfleoedd i ddod o hyd i goetiroedd llydanddail er mwyn cysylltu cynefinoedd perthi a gwella gwydnwch.
  • Archwilio cyfleoedd i adfer mawn yn y dyfodol.
  • Defnyddio'r rhwydwaith ffordd a pharth glannau'r afon presennol er budd bioamrywiaeth, trwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored.
  • Tynnu adfywiad Sitca o ardaloedd agored ac olynol i liniaru lledaeniad aildyfiant Sitca i gynefinoedd agored nad ydynt o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Tirwedd

  • Datblygu dyluniad tirwedd mwy graddol trwy ddatblygu coetir olynol rhwng llennyrch conwydd a chynefin agored.

Hamdden

  • Cynnal a gwella'r defnydd hamdden ar draws pob rhan o'r bloc (yn unol â'r Cynllun Rheoli Hamdden a Mynediad).
  • Lle gallai gweithrediadau coedwigaeth effeithio ar weithgaredd hamdden dylid gosod dargyfeiriadau i gynnal a chadw llwybrau fel y llwybr llechi a'r prif lwybrau ceffylau.

Amrywiol

  • Gwella ffyrdd a seilwaith coedwigoedd i helpu i wella rheolaeth yn Eryr, Cae Dafydd a Dolfriog.
  • Dylid cadw data arbennig plotiau ymchwil o fewn Cwm Du ym Meddgelert fel cyfle yn y dyfodol ar gyfer ymchwil bellach.
  • Nodi nodweddion treftadaeth a diwylliannol i osgoi difrod, bydd angen ymgynghori ymhellach ar ardaloedd a nodwyd fel mannau pwysig yn ystod y cam cynllunio nesa.

Mapiau

Map lleoliad

Beddgelert - Prif amcanion hidymor
Beddgelert - Systemau rheoli coedwigoedd
Beddgelert - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Cae Dafydd a Dolfriog - Prif amcanion hidymor
Cae Dafydd a Dolfriog - Systemau rheoli coedwigoedd
Cae Dafydd a Dolfriog - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Coed Eryr - Prif amcanion hidymor
Coed Eryr - Systemau rheoli coedwigoedd
Coed Eryr - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Cwellyn - Prif amcanion hidymor
Cwellyn - Systemau rheoli coedwigoedd
Cwellyn - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Hafod-y-Wern - Prif amcanion hidymor
Hafod-y-Wern - Systemau rheoli coedwigoedd
Hafod-y-Wern - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf