Lleoliad a safle

Mae Coedwig Cwrt a Brynteg wedi'i lleoli tua'r gorllewin o'r A470 ger pentrefi Bronaber a Trawsfynydd, sydd â chyfanswm poblogaeth o 973 o bobl (cyfrifiad 2011).

Mae ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig yn cynnwys prif ardaloedd coedwig Cwrt a Brynteg sydd, gyda'i gilydd, â chyfanswm arwynebedd o 600 hectar. Coedwig Cwrt yw'r ardal goedwig fwyaf gyda 512 hectar ac mae coetir Brynteg â chyfanswm o 88 hectar.

Mae Coedwig Cwrt a Brynteg wedi'i lleoli o fewn ffin Cyngor Sir Gwynedd ac o fewn ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae'r ddwy ardal wedi'u lleoli ar lefel weddol isel, gyda Brynteg ar uchder cyffredinol o 190 metr a Chwrt yn amrywio rhwng 256 metr a 332 metr.   Nid yw Cwrt a Brynteg yn arbennig o amlwg o fewn y dirwedd, yn bennaf am fod y dirwedd o amgylch yn fynyddig, yn enwedig mynydd Rhinog Fawr, sy'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Rhinog. Lleolir coedwig Coed y Brenin ond dau gilomedr tua'r de o Goedwig Cwrt. 

Mae'r cynefin o amgylch ardaloedd coedwig Cwrt a Brynteg yn cynnwys mynyddoedd, rhostiroedd a chorsydd sy'n cael eu pori gan ddefaid sy'n cynnwys rhwydwaith helaeth o gyrsiau dŵr sy'n llifo i afon Eden sy'n Ardal Cadwraeth Arbennig.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy waith clirio llannerch llai o faint dros gyfnod o amser.

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren trwy'r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a'r dewis o rywogaethau i'w hailstocio.

  • Amrywio cyfansoddiad y rhywogaethau yn y goedwig er mwyn cynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Lleihau unrhyw effaith bosibl o ran hau conwydd ar yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig cyfagos drwy fynd ati’n sensitif i leoli rhywogaethau conwydd sy'n hau'n gynhyrchiol a rheoli clustogfeydd agored ac olynol.

  • Parhau i gynnal ac ymestyn seilwaith ar gyfer rheoli geifr a defaid yn y goedwig, gan alluogi’r broses o reoli'r boblogaeth a gwella cysylltedd cynefinoedd.

  • Adfer 65.7 hectar o gors/rhostir, gan helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w pholisi adfer mawndiroedd.

  • Mwy o ardaloedd coetir olynol/torlannol i wella gwydnwch cynefinoedd a chysylltiadau ar gyfer cynefinoedd ar raddfa'r dirwedd.

  • Nodi a diogelu'r nodweddion treftadaeth sy'n bwysig yn genedlaethol ac ymchwilio i'r posibilrwydd ar gyfer cynnal prosiectau ymchwil yn y dyfodol er mwyn cynyddu dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol ehangach yr ardal.

  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd diogel a phleserus sy'n newid mewn modd mwy graddol dros amser.

  • Ymchwilio i gyfleoedd cyllido er mwyn ychwanegu mwy o baneli dehongli ar y safle ac adnoddau dysgu ar-lein.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf