Casgliadau gwastraff ar wahân ar gyfer gweithleoedd

Bydd rheoliadau ailgylchu newydd yn y gweithle, a fydd yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024, yn golygu y bydd angen i bob gweithle yng Nghymru wahanu’r gwastraff y maent yn ei gynhyrchu er mwyn ei ailgylchu mewn ffordd debyg i’r ffordd y mae’r rhan fwyaf ohonom eisoes yn ei defnyddio yn ein cartrefi. 

Bydd y rheoliadau hefyd yn cyflwyno gwaharddiad ar wastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi, gwaharddiad ar yr holl wastraff pren syn mynd i safleoedd tirlenwi a gwaharddiad ar anfon gwastraff bwyd i garthffosydd

Mae’r gofynion cyfreithiol newydd hyn yn rhan o ymrwymiad Cymru i ddod yn genedl ddiwastraff a lleihau allyriadau carbon erbyn 2050 i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, y gallwn eu gweld yn creu cymaint o ddifrod yn barod i’n hamgylchedd a’n bywyd gwyllt gwerthfawr. 

Bydd rhoi trefn iawn ar ailgylchu yn y gweithle yn helpu i sicrhau ein bod yn cynhyrchu lefelau uchel o ailgylchu o safon uchel ac yn lleihau faint o wastraff fydd yn cael ei anfon i'w losgi ac i safleoedd tirlenwi.

Y ffrydiau gwastraff ailgylchadwy sydd angen eu gwahanu ar gyfer eu casglu, eu casglu ar wahân, a’u cadw ar wahân ar ôl eu casglu, o 6 Ebrill 2024 ymlaen yw:

  • Bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau ac ati
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu (sWEEE); a
  • Tecstilau heb eu gwerthu

Bydd y gofynion cyfreithiol hyn i wahanu gwastraff ar gyfer ei ailgylchu yn effeithio ar y canlynol:

  • Pob gweithle (busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector)
  • Y rhai sy'n casglu'r gwastraff, neu'n trefnu i wastraff gael ei gasglu
  • Y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin, neu gludo gwastraff y bydd angen iddynt gadw'r gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff neu sylweddau

Yn ei rôl fel rheoleiddiwr, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am oruchwylio’r gofynion gwahanu a’r gwaharddiadau ar wastraff sy’n mynd i gael ei losgi neu’n mynd i safleoedd tirlenwi. 

Bydd Awdurdodau Lleol (ALlau) yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig.

Mae ein tîm yn CNC wrth law i helpu gweithleoedd i gydymffurfio â’r rheoliadau newydd a rheoli eu gwastraff yn y ffordd gywir.

Dyma rai dolenni a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Gallwch gysylltu â CNC os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, gellir dod o hyd i'n manylion cyswllt trwy glicio yma.

Ceir rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth ailgylchu newydd trwy glicio yma.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru