Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr: Gwlyptiroedd Casnewydd
Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.
Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23/05/2024
Teitl y lleoliad: |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd |
Lleoliad: |
Gwlyptiroedd Casnewydd |
Swyddfa/Depo: |
Redhouse Barns, Goldcliff, Casnewydd NP18 2AU |
Dyddiad dechrau: |
15 Gorffennaf 2024 |
Dyddiad gorffen: |
19 Gorffennaf 2024 |
Oriau’r lleoliad: |
8.30am i 4.30pm |
Nifer y lleoliadau sydd ar gael: |
2 |
Lefel y Lleoliad: Israddedig Lefel A/AS neu gyfwerth TGAU neu gyfwerth Pawb 15+
|
Lefel A/AS neu gyfwerth TGAU neu gyfwerth Pawb 15+
|
Y Gymraeg: |
Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg. |
Gwybodaeth Ychwanegol
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
Helpu staff y warchodfa i fonitro lefelau dŵr, halwynedd, cardwenyn, gwyfynod, gloÿnnod byw ac adar. Helpu gyda gwaith ymarferol fel mân atgyweiriadau a thorri mieri ar hyd llwybrau cerdded.
Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio
Swyddogion rheoli tir.
Ble byddwch chi'n gweithio
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad
Bydd angen i chi ddod â phecyn bwyd gyda chi bob dydd. Bydd angen welis neu esgidiau cerdded, dillad gwrth-ddŵr ac eli haul (gan ddibynnu ar y tywydd).
Mae croeso i chi gysylltu â ni cyn eich lleoliad os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad
Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23/05/2024
Cyflwyno eich cais
Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod
Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.
Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.