Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr: Ystad Goetir

Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.

Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.

Teitl y lleoliad:

Ystad Goetir

Lleoliad:

Ardal Dolgellau

Swyddfa/Depo:

Swyddfa ardal Dolgellau a Choed y Brenin

Dyddiad dechrau:

Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen:

Dydd Iau 18 Gorffennaf 2024

Oriau’r lleoliad:

9.30am – 4pm Dydd Llun – Dydd Iau.

Nifer y lleoliadau sydd ar gael:

4

Lefel y Lleoliad:

Israddedig

Lefel A/AS neu gyfwerth

TGAU neu gyfwerth

Pawb 15+

 

TGAU - Blwyddyn 10

Y Gymraeg:

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn dibynnu ar y sawl sy’n cynnal y gweithgaredd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn cysgodi / gweithio gyda staff CNC sy’n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio

Byddwch yn gweithio gyda staff CNC o dimau gwahanol, a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd mewn meysydd fel coedwigaeth, rheoli tir, hamdden a rheoli canolfannau ymwelwyr, peirianneg sifil, rheoli bywyd gwyllt, polisi, a chadwraeth.

Ble byddwch chi'n gweithio

Byddwch yn cyfarfod bob dydd yn swyddfa CNC yn Nolgellau, lle byddwch yn cael eich briffio gan eich rheolwr lleoliad cyn cael eich paru ag aelod o dîm CNC ar gyfer sesiwn y bore, ac yna aelod arall o CNC yn y prynhawn. Bydd yr wythnos yn cynnwys teithio ac ymweliadau safle â chanolfan ymwelwyr Coed y Brenin a choedwigoedd cyfagos yn yr ardal, ynghyd â sesiynau yn swyddfa Dolgellau.

Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad

Byddwch yn gallu cymryd egwyl lluniaeth a thoiled yn rheolaidd trwy gydol y diwrnod gwaith.

Mae croeso i chi gysylltu â ni cyn eich lleoliad os oes gennych unrhyw gwestiynau.

 

Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad

Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24/05/2024

Cyflwyno eich cais

Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod

Ffurflen gais

Ffurflen monitro cydraddoldeb

Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.



Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.

Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

 

Diweddarwyd ddiwethaf