Lleoliad Monitro Morol: Llandarsi/Martin’s Haven
Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.
Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22/05/2024
Teitl y lleoliad: |
Lleoliad Monitro Morol |
Lleoliad: |
Allan yn y maes – Sir Benfro/Ceredigion |
Swyddfa/Depo: |
Llandarsi/Martin’s Haven |
Dyddiad dechrau: |
Dydd Sul 30 Mehefin 2024 |
Dyddiad gorffen: |
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024 |
Oriau’r lleoliad: |
I'w gadarnhau – bydd yn golygu dechrau'n gynnar |
Nifer y lleoliadau sydd ar gael: |
2 |
Lefel y Lleoliad: Israddedig Lefel A/AS neu gyfwerth TGAU neu gyfwerth Pawb 15+
|
TGAU neu gyfwerth; Lefel A |
Y Gymraeg: |
Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg. |
Gwybodaeth Ychwanegol
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
Ar y dydd Sul, byddwch yn ymuno â'n staff yn Martin's Haven ar eu patrôl o Barth Cadwraeth Morol Sgomer. Bydd hyn yn golygu ymuno â nhw ar y cwch lle byddant yn ymweld â gwahanol safleoedd o fewn y Parth Cadwraeth Morol i adolygu gweithgareddau.
Ar y dydd Llun, byddwch yn ymuno â’n staff ar arolwg macroalgâu oportiwnistaidd o aber afon Teifi. Byddwch yn arsylwi’r gwaith o dracio perimedrau gwelyau macroalgâu oportiwnistaidd, cymryd cwadradau o fewn y gwelyau gan amcangyfrif canran gorchudd, ac yna byddwch yn cymryd cofnodion biomas o’r ardaloedd cwadrad yn y gwelyau, sy’n cynnwys golchi a phwyso’r algâu.
Ar y dydd Mawrth, byddwch yn ailadrodd yr arolwg macroalgâu oportiwnistaidd ond ar gyfer aber Afon Nyfer.
Sylwch, bydd angen dechrau'n gynnar iawn ar gyfer yr arolygon hyn.
Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio
Byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol yn CNC; ar y dydd Sul byddwch yn ymuno â'r staff sydd wedi'u lleoli yn Martin's Haven, ac ar y dydd Llun a'r dydd Mawrth byddwch yn ymuno â staff Rheoleiddio’r Amgylchedd Dŵr yn y maes.
Ble byddwch chi'n gweithio
Bydd yr holl waith maes yn cael ei wneud yn y lleoliadau canlynol:
- Parth Cadwraeth Morol Sgomer (cyfarfod yn Martin's Haven),
- Aber Afon Teifi – cyfarfod yn Aberteifi neu deithio o Swyddfa Llandarsi
- Aber Nyfer – cyfarfod yn Nhrefdraeth, Sir Benfro neu deithio o swyddfa Llandarsi
Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad
Fel y nodwyd uchod, rhaid bod yn barod ar gyfer cychwyn cynnar, bod yn gyfforddus ar gwch (ar gyfer y dydd Sul) a bod yn barod i weithio mewn tywydd gwlyb a gwyntog gan y bydd yr arolygon yn digwydd hyd yn oed os nad yw’r tywydd yn sych.
Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad
Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22/05/2024
Cyflwyno eich cais
Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod
Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.
Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.