Y mae rheolau cyfreithiol ynghylch ddefnyddio chwynladdwyr. Cyn defnyddio chwynladdwyr, dylech ystyried yr holl ffyrdd eraill o reoli chwyn. Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â ffyrdd priodol o reoli rhywogaethau estron goresgynnol, gallwch gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru a gofyn i siarad ag un o'n swyddogion sydd wedi'u hyfforddi yn unol â Chynllun Arolygu Safonau Agrocemegol Prydain.

Wedyn, os ydych yn penderfynu ei bod yn briodol defnyddio chwynladdwr, mae angen i ni fod yn sicr y caiff ei ddefnyddio'n briodol, yn unol â label y cynnyrch, a chan bobl gymwys.

Mae angen cydsyniad Cyfoeth Naturiol Cymru pe câi chwynladdwyr eu defnyddio yn yr achosion canlynol:

  • Defnyddio chwynladdwyr yn gyfagos i gorff dŵr* (o fewn 5m) neu o fewn corff dŵr
  • Defnyddio chwynladdwyr o fewn safle dynodedig (h.y. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Safle Ramsar)

*Diffiniad corff dŵr yw unrhyw gorff o ddŵr fel llyn, pwll, ffos, nant, afon a.y.b.

Rydym yn cynnig dau fath o gytundeb chwynladdwyr: risg isel a risg uchel.

Cytundebau risg isel

Mae’n bosibl y cewch  ddefnyddio chwynladdwyr heb anfon cais atom, ond dim ond os yw eich gweithgaredd yn risg isel.

Os yw eich gweithgaredd yn bodloni'r holl feini prawf isod, yna fe’i hystyrir yn weithgaredd risg isel:

  • Bydd chwynladdwr yn cael eu defnyddio’n agos at ddŵr, ond nid yn uniongyrchol mewn dŵr nac ar ddŵr. Er enghraifft, rydych yn bwriadu defnyddio chwynladdwr ar ben glan afon, ond nid o fewn y sianel
  • nid yw lleoliad y driniaeth o fewn safle dynodedig neu gallai effeithio ar safle dynodedig (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig neu Safle Ramsar), a/neu
  • Nid yw'r lleoliad lle y cwblheir y driniaeth o fewn 1km i fan tynnu dŵr yfed ac nid yw o fewn 500m i unrhyw fath arall o fan tynnu dŵr trwyddedig

Os nad ydych yn siŵr a allwch fodloni'r meini prawf risg isel hyn, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth sgrinio lleoliadau chwynladdwyr – gweler 'Gwirio eich lleoliad' isod.

Dylech hefyd sicrhau'r canlynol:

  • Y cydymffurfir â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a Rheoliadau Rheoli Plaleiddiad 1986
  • Y caiff y gwaith o chwistrellu ei gwblhau o dan yr amodau cywir, fel yr amlinellir yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion, ac y caiff ei gadw i'r lefel leiaf posibl
  • Mae'n rhaid i'r cynnyrch fod wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio o gwmpas dŵr. Caiff hyn ei nodi yn rhan cnydau/sefyllfaoedd y label. Os nad ydych yn sicr a yw'r chwynladdwr yr ydych yn dymuno ei ddefnyddio wedi cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio o gwmpas dŵr, gallwch chwilio cronfa ddata. Cyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau. Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys manylion cynhyrchion nad ydynt ar gael mwyach a'r cynhyrchion sydd wedi’u disodli
  • Na ddefnyddir unrhyw gynnyrch arall (e.e. defnydd cynorthwyo), oni bai ei fod wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio mewn dŵr neu yn agos at ddŵr
  • Y cymerir gofal i osgoi'r posibilrwydd o halogi unrhyw ddŵr wyneb neu wlyptiroedd cyfagos
  • Yn gyffredinol, ni ddylech ddefnyddio plaladdwyr sy’n para’n hir a phlaladdwyr a all ledu o fewn ardal a adwaenir fel 'Parth Diogelu Ffynhonnell' 1, neu o fewn 50m i darddiant, ffynnon neu dwll turio
  • Nad effeithir ar fuddiannau dŵr cyfreithiol eraill, gan gynnwys cyflenwadau dŵr preifat
  • Mae'n rhaid i'r driniaeth gael ei chwblhau gan berson sy'n meddu ar y dystysgrif cymhwysedd NPTC neu LANTRA berthnasol, neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol rhywun sy'n meddu ar y dystysgrif cymhwysedd NPTC berthnasol. Mae mwy o wybodaeth ynghylch tystysgrifau cymhwysedd yn nodyn canllaw Cytundeb i ddefnyddio chwynladdwyr mewn dŵr neu gerllaw

Os gallwch fodloni'r meini prawf risg isel a chydymffurfio â'r safonau a amlinellir uchod, gallwch gymryd ein bod yn cymeradwyo'r gweithgarwch yn awtomatig.

Cytundebau risg uwch

Os na allwch fodloni'r meini prawf neu'r safonau ar gyfer lleoliad risg isel, mae'n rhaid ichi wneud cais am gytundeb risg uwch.

Mae gweithgareddau risg uwch fel a ganlyn:

  • Pan fyddwch yn bwriadu defnyddio chwynladdwyr i reoli chwyn dŵr mewn dŵr neu ar ddŵr ac/neu
  • Mae'r lleoliad lle y cwblheir y driniaeth o fewn safle dynodedig (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig neu Safle Ramsar) ac/neu
  • Mae'r lleoliad lle y cwblheir y driniaeth o fewn 1km i fan tynnu dŵr yfed neu 500m i unrhyw fath arall o fan tynnu dŵr trwyddedig

Os yw eich gweithgaredd yn bodloni unrhyw rai o'r meini prawf uchod, mae'n rhaid ichi gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer chwynladdwyr risg uwch a'i dychwelyd atom yn y cyfeiriad isod. Dylech ddarllen y canllawiau Cytundeb i ddefnyddio chwynladdwyr mewn dŵr neu gerllaw cyn ichi wneud cais. 

Gwirio eich lleoliad

Os nad ydych yn siŵr a allwch fodloni'r meini prawf ar gyfer lleoliad risg isel, gallwn ni eich helpu. Gallwn gynnig gwasanaeth sgrinio lleoliadau chwynladdwyr.

Noder na allwn ddweud beth yw union leoliad rhai mannau tynnu dŵr. Ni allwn ddweud dim wrthych ond a yw’r adroddiad sgrinio wedi rhoi canlyniadau o fewn y pellter dan sylw.

Ni fydd ein gwasanaeth sgrinio lleoliadau yn cofnodi mannau tynnu dŵr preifat. Mae'r mannau tynnu dŵr hyn wedi'u cofrestru gydag awdurdodau lleol. Gweler yr adran ‘Cwestiynau a ofynnir yn aml am gytundebau chwynladdwyr’ isod am ragor o wybodaeth am fannau tynnu dŵr preifat.

Gallwch weld gwybodaeth am safleoedd dynodedig ar MapDataCymru.

Anfonwch e-bost atom gyda'ch cais am y gwasanaeth sgrinio lleoliadau chwynladdwyr. Mae'n rhaid ichi gynnwys manylion lleoliad y safle (h.y. cyfeirnod grid cenedlaethol 12 digid), a’r arwynebedd cyfan lle bydd taenu. Byddwn bob amser yn ceisio ymateb cyn pen deg diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais. Os na fydd hynny’n bosibl, byddwn yn dweud wrthych.

Ble i anfon eich cais ynglŷn â risg uchel

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi a’r holl wybodaeth ategol berthnasol:

Trwy e-bost at: permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk Defnyddiwch ‘Cais am gytundeb chwynladdwr risg uchel’ yn nheitl yr e-bost.

Yn y post at: Canolfan Dderbyn Caniatadau, Cyfoeth Naturiol Cymru, 29 Heol Casnewydd, Tŷ Cambria, Caerdydd, CF24 0TP.

Os gwyddoch y byddwch am chwistrellu yn ystod y gwanwyn a’r haf, gofynnwn ichi gyflwyno eich cais yn ystod y gaeaf cyn hynny. Nifer fach o geisiadau a gawn yn ystod y gaeaf. Golyga hynny y gallwn wedyn brosesu eich cytundeb yn gyflymach, gan roi digon o amser ichi cyn dechrau chwistrellu.

Rheoli effaith chwistrellu ar Wenyn Mêl

Dylech gysylltu â'r Uned Wenyn Genedlaethol neu Gymdeithas Gwenynwyr Cymru i sicrhau na fydd eich gweithgareddau arfaethedig yn cael effaith andwyol ar boblogaethau lleol o Wenyn Mêl.

Mae gwybodaeth am effaith bosibl chwynladdwyr ar Wenyn Mêl i'w chael yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion. Mae’r Cod yn dweud y dylech roi gwybod i wenynwyr neu’r swyddog cyswllt chwistrellu yn lleol 48 awr cyn defnyddio chwynladdwyr ar adegau o’r flwyddyn pan fydd gwenyn mewn perygl, neu os bydd chwynladdwr arbennig yn niweidio gwenyn yn benodol. Mae hyn yn rhoi amser i wenynwyr gymryd unrhyw gamau diogelu angenrheidiol.

Chwistrellu plaladdwyr a chwynladdwyr o'r awyr

Y Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau, sy’n rhan o’r Awdurdod Iechyd a Diogelwch, sy’n gyfrifol am roi trwyddedau chwistrellu o’r awyr i unrhyw un sy’n gwneud cais am ddefnyddio plaladdwyr o awyren.

Os bydd angen ichi wneud cais am y trwyddedau hyn, gallwn eich helpu drwy ddarparu map ar sail gwybodaeth os gofynnwch inni. Gall y wybodaeth hon eich helpu i lenwi’r asesiad risg angenrheidiol. Anfonwch e-bost atom gyda'ch cais am y gwasanaeth mapiau chwistrellu o'r awyr. Mae'n rhaid ichi gynnwys manylion lleoliad y safle (h.y. cyfeirnod grid cenedlaethol 12 digid), a’r arwynebedd cyfan lle bydd taenu. Byddwn bob amser yn ceisio ymateb cyn pen deg diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais. Os na fydd hynny’n bosibl, byddwn yn dweud wrthych. 

Cwestiynau a ofynnir yn aml am gytundebau chwynladdwyr

C: A oes angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pob math o chwynladdwyr?

Nac oes. Nid oes angen caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru oni bai y defnyddir y chwynladdwr:

- yn gyfagos i ddŵr neu mewn dŵr

- o fewn safle dynodedig (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig neu Safle Ramsar)

- ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru

C: Beth yw cytundeb chwynladdwyr risg isel?

Mae’r rhain yn ffordd symlach a chyflymach i gael eich cytundeb i ddefnyddio chwynladdwyr, mewn rhai amgylchiadau, ac nid oes angen cyflwyno ffurflen gais. Nid ydyn nhw ar gael ond ar gyfer gweithgareddau sy’n bodloni'r meini prawf penodol a amlinellir uchod, a phan fyddant yn cael eu cwblhau yn unol â’r safonau gofynnol. Ystyrir bod unrhyw weithgaredd na all fodloni’r meini prawf risg isel yn weithgarwch risg uwch.

C: Beth yw cytundeb chwynladdwyr risg uwch?

Yr holl weithgareddau chwistrellu sy’n methu â bodloni ein meini prawf risg isel yw’r rhain. Maen nhw’n golygu defnyddio chwynladdwr mewn safleoedd mwy sensitif. Mae angen inni sicrhau bod camau addas yn cael eu cymryd i warchod yr amgylchedd. Mae'n rhaid i gwsmeriaid anfon cais am gytundeb chwynladdwr risg uchel. Sylwer: cyfeiriwyd at y rhain gynt fel Cytundebau ‘Cymhleth’.

C: A yw'r holl gytundebau chwynladdwyr yn awtomatig?

Nac ydyn. Dim ond cytundebau ar gyfer gweithgareddau risg isel sy’n cael eu rhoi’n ‘awtomatig’. Mae'n rhaid ichi fod yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf a’r safonau lleoliadau risg isel. Os na, bydd angen o hyd ichi wneud cais am gytundeb risg uwch.

C: A yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal i gynnig gwasanaeth adnabod planhigion/chwyn am ddim?

Ydy. Os bydd angen adnabod y planhigion rydych yn dymuno eu trin, gallwn eich helpu. Siaradwch ag un o'r swyddogion Bioamrywiaeth sy'n gweithio yn eich ardal leol i drefnu adnabod sampl. Peidiwch ag anfon samplau i’r Ganolfan Derbyn Caniatadau neu i’n cyfeiriad canolog.

C: Beth yw cyflenwad dŵr preifat?

Cyflenwad dŵr preifat yw cyflenwad dŵr nad yw’n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr. Gall y cyflenwad ddod o darddiant, ffynnon, twll turio neu ddŵr wyneb (nentydd, llynnoedd, ac ati). Gall cyflenwad wasanaethu un annedd, sawl eiddo neu adeiladau masnachol neu gyhoeddus.

C: Ble gallaf gael gwybodaeth am gyflenwadau dŵr preifat?

Mae’n ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol gynnal cofrestri o gyflenwadau dŵr preifat yn eu hardal. Cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol perthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf