Canllawiau ar fewnforio ac allforio gwastraff

IWS ar-lein

Mae'r system ar-lein newydd ar gyfer Cludo Gwastraff rhyngwladol - IWS ar-lein - ar gael i chi ei ddefnyddio: IWS ar-lein

Bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr. Yr unig wybodaeth sydd angen i chi wneud hyn, a yw eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn, cwmni, cyfeiriad e-bost ac i greu cyfrinair. IWS Bydd ar-lein yn anfon e-bost i wirio'r cyfeiriad ac yna gallwch ddechrau defnyddio'r system i wneud cais am hysbysiadau allforio, gweld cynnydd eich ceisiadau, cynhyrchu cyn-hysbysiadau a data cofnodi llwyth.

Gallwch ddefnyddio IWS ar-lein ar eich desg gliniadur uchaf neu ddyfais symudol, felly byddwch yn gallu i ddechrau arni cyn gynted ag y byddwch yn dymuno. Gallwch ddod o hyd i'r ddolen ar Gov.uk.

Hysbysiadau ydych wedi cyflwyno cyn 18 Ebrill

Os byddwch yn cyflwyno hysbysiad cyn 18 Ebrill ni fydd yn ar IWS ar-lein. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i symud yr hysbysiadau hynny ymlaen IWS ar-lein, sy'n golygu y bydd angen i chi barhau i anfon dogfennau symud 'papur' i ni fel eich bod wedi gwneud bob amser.

Beth am os bydd angen help gyda IWS ar-lein i?

Nodwch fod IWS ar-lein wedi cael ei ddatblygu gan Asiantaeth yr Amgylchedd (o Loegr), felly efallai y bydd angen cyfeirio atynt rai materion, fodd bynnag, yn y lle cyntaf os oes angen unrhyw help neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am IWS ar-lein, cysylltwch â Uned Cludo Gwastraff (CNC) - ffôn. 0300 065 3073 neu e-bostiwch ni: cludiant-gwastraff@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mewnforio ac allforio gwastraff

O ran allforio a mewnforio gwastraff i’w adfer, mae angen caniatâd ysgrifenedig (gan holl ‘Awdurdodau Cymwys’ yr holl wledydd dan sylw) cyn y gallwch chi symud y gwastraff. Rhaid i chi gydymffurfio ag ystod o ofynion eraill, yn enwedig y gofynion i ddarparu Gwarant Ariannol a chael contract ysgrifenedig dilys gyda’r safle adfer (allforion) neu gynhyrchydd y gwastraff (mewnforion).

Sylwch y bydd rhaid i chi dalu ffi, hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â mewnforio ac allforio gwastraff ar gael trwy’r ddolen gyswllt ar y gwedudalen hon.

Allforio Gwastraff

Mae angen i chi bennu pa lefel o reolaeth fydd yn berthnasol i’r gwastraff rydych chi am ei allforio i wlad arall.

Mae yna 3 phosibilrwydd:

  • efallai y bydd wedi’i wahardd (ni fydd modd ei allforio)
  • angen hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw
  • ‘rhestr werdd’ (rheolaethau Erthygl 18 / Atodiad VII)

I’ch helpu chi i bennu pa lefel o reolaeth sy’n berthnasol, gallwch ddefnyddio’r ‘adnodd rheolaethau allforio gwastraff’ ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae dolen gyswllt â’r adnodd ar gael ar y wedudalen hon.

Mewnforio Gwastraff

Os ydych chi’n bwriadu mewnforio gwastraff i’r DU, rhaid i chi sicrhau bod y gweithdrefnau cywir wedi’u dilyn. Bydd angen i chi wybod a oes gennych chi hawl i fewnforio’r gwastraff ac, os felly, o dan ba reolaethau.

Yn achos gwastraff sy’n amodol ar reolaeth hysbysu, bydd angen i chi gwblhau “dogfennau symud” (Atodiad 1B) pan fyddwch chi’n derbyn y gwastraff a phan fyddwch chi’n gorffen ei adfer neu ei waredu, ac anfon copïau o’r dogfennau hynny at yr holl Awdurdodau Cymwys perthnasol ac at yr unigolyn/cwmni a anfonodd y gwastraff.

Ym mhob achos, bydd angen i chi gadw copïau o’r dogfennau sy’n ymwneud â’r gwastraff sy’n cael ei fewnforio am o leiaf dair blynedd.

Beth sydd angen i chi ei wneud

I allforio gwastraff, y peth cyntaf y mae’n rhaid i chi ei wneud yw cael ffurflenni hysbysu a symud gan Cyfoeth Naturiol Cymru / yr Uned Cludo Gwastraff.

Cludo Gwastraff: cludiant-gwastraff@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd gan y ffurflen hysbysu y byddwn yn ei hanfon atoch rif unigryw. Byddwch yn derbyn templedi atodiadau i’ch helpu chi i ddarparu unrhyw wybodaeth ategol ofynnol.

Bydd rhaid i chi dalu ffi yn dibynnu ar uchafswm y llwythi y bwriedir eu cludo. Gweler y matrics ffioedd.

Cludo Gwastraff Rhyngwladol – ffioedd hysbysu
Llwythi
Gweithgarwch 1 2 i 5 6 i 20 21 i 100 101 i 500 500+
Allforio ar gyfer adfer £1,450 £1,450 £2,700 £4,070 £7,920 £14,380
Allforio ar gyfer gwaredu parhaol £1,540 £1,540 £3,330 £5,500 £10,600 £19,500
Allforio ar gyfer gwaredu dros dro £1,700 £1,700 £3,330 £6,000 £12,900 £24,000
Mewnforio ar gyfer adfer parhaol £1,250 £1,250 £2,700 £4,900 £10,600 £19,500
Mewnforio ar gyfer adfer dros dro £1,450 £1,450 £2,830 £5,500 £12,900 £24,000
Mewnforio ar gyfer gwaredu parhaol £1,540 £1,540 £3,330 £5,500 £10,600 £19,500
Mewnforio ar gyfer gwaredu dros dro £1,700 £1,700 £3,330 £6,000 £12,900 £24,000

Noder bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoi’r gorau i brosesu hysbysiadau gwastraff (ar gyfer allforio a mewnforio gwastraff) ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ar 1 Tachwedd 2014, bydd angen i chi anfon pob hysbysiad newydd ar gyfer Cludo Gwastraff Rhyngwladol (ar gyfer safleoedd yng Nghymru) a’r dogfennau ‘symud’ (Atodiad 1B) i Uned Cludo Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfeiriad canlynol:

Uned Cludo Gwastraff
Cyfoeth Naturiol Cymru
Parc Busnes Llaneirwg
Caerdydd CF3 0EY
Ffôn: 0300 065 3073
E-bost: cludiant-gwastraff@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Taliadau

Bydd rhaid i chi dalu ffi am bob hysbysiad, sy’n daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru pan fyddwch chi’n gwneud yr hysbysiad.

Gallwch chi dalu’r ffioedd trwy drosglwyddiad electronig, dros y ffôn (cerdyn credyd neu ddebyd) neu drwy’r post.

I dalu dros y ffôn, ffoniwch:0300 065 3073 neu 0300 065 3000 + opsiwn 3. 

Cludo Gwastraff Ymbelydrol

  • Cludo Gwastraff Ymbelydrol a Gweddillion Tanwydd – mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweinyddu’r gwasanaeth hwn ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Canlynwch y ddolen ar y wedudalen hon am ragor o wybodaeth
Diweddarwyd ddiwethaf