Dyletswydd gofal gwastraff i sefydliadau

Rydym yn ceisio eich barn ar gynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau a’n gweithgareddau cydymffurfio ar gyfer 2024 - 2025.

 

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein a bydd yn cau ddydd Llun 8 Ionawr 2024.

Eich dyletswydd gofal gwastraff

Os ydych yn cynhyrchu, mewnforio, cario, cadw, trin neu'n gwaredu gwastraff, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol dros y gwastraff hwn. Yr enw ar hyn yw eich dyletswydd gofal.

Cynhyrchwyr gwastraff

Cynhyrchydd gwastraff yw’r person, neu’r sefydliad, y mae ei weithgarwch yn creu gwastraff. Ni waeth a ydynt wedi’u cyfarwyddo gan rywun arall ai peidio. Os yw person yn creu gwastraff fel gweithiwr, ei gyflogwr yw’r cynhyrchydd gwastraff. Os yw person yn creu’r gwastraff fel contractwr neu is-gontractwr, nhw yw’r cynhyrchydd gwastraff.

Cludwyr gwastraff

Cludwr gwastraff yw unrhyw berson sydd fel rheol yn casglu, yn cario neu’n cludo gwastraff fel rhan o’u busnes neu gyda’r bwriad o wneud elw. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cynhyrchu ac yn cludo eu gwastraff eu hunain.

Broceriaid gwastraff

Brocer gwastraff yw unrhyw berson, busnes neu sefydliad sy’n trefnu cludo gwastraff a rheoli gwastraff ar ran parti arall. Gallai’r sefydliad hwn fod yn gorff sy’n contractio gwasanaethau casglu gwastraff, fel awdurdodau lleol, archfarchnadoedd a chynlluniau cydymffurfio â chyfrifoldeb y cynhyrchydd.

Delwyr gwastraff

Gall deliwr gwastraff fod yn unrhyw berson, busnes neu sefydliad sy’n prynu gwastraff gyda’r nod o’i werthu wedi hynny. Mae hyn yn cynnwys amgylchiadau lle nad yw’r deliwr yn cymryd meddiant corfforol o’r gwastraff.

Mae'n rhaid i chi ddilyn rhai rheolau syml

Cod ymarfer y ddyletswydd gofal gwastraff

Darllenwch fwy am fodloni gofynion cod ymarfer y ddyletswydd gofal gwastraff (Saesneg in unig).

Diweddarwyd ddiwethaf