Gwneud cais i drosglwyddo trwydded gwastraff

Diweddariad: 31/03/2023 

 

Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.   

 

Gweler manylion y ffioedd arfaethedig yr ydym yn bwriadu eu gweithredu ar gyfer 2023-2024, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol.  

Cyn i chi wneud cais

Mae trwydded amgylcheddol yn ymwneud â lleoliad penodol (oni bai ei bod ar gyfer gwaith symudol). Felly, os ydych chi’n gwerthu’ch tŷ neu safle, allwch chi ddim mynd â’ch trwydded gyda chi a pharhau â gweithgarwch y drwydded yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo’ch trwydded i’r perchnogion newydd.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo rhan o’ch trwydded neu’ch trwydded i gyd i berson arall. Mae’n bosib llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi Rhan A, D1 neu D2 a rhaid i’r ddau barti lofnodi’r datganiad yn Rhan F1.

Nodwch: Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf. Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, gallai'r wybodaeth yn y ddolen Help gyda'ch cais eich helpu. Os hoffech gyngor cyn ymgeisio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol.

Help gyda’ch cais

E-bost ymholiadau cyffredinol – ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol – 0300 065 3000

Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP

Amserlenni

Byddwn yn penderfynu ar eich cais cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib. Os yw’ch cais am drwydded yn fwy cymhleth oherwydd deddfwriaeth arall neu gyfyngiadau cynllunio, neu os oes gennym ni bryderon penodol am y cynnig, efallai y bydd angen i ni gytuno ar amserlen wahanol gyda chi.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen - Rhan A WORD [176.9 KB]
NODYN CANLLAW A.doc WORD [208.0 KB]
Ffurflen - Rhan D2 WORD [162.7 KB]
NODYN CANLLAW D2.doc WORD [252.5 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf