Yn unol ag Atodlen 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae dal llygon trwy ddefnyddio ambell ddull penodol yn drosedd.

Rhaid i lygon fwyta bob 3-4 awr ar bryfed, mwydod, ac infertebratau eraill. Gall eu dal mewn trapiau am amser maith arwain at farwolaeth nifer helaeth ohonynt, oni bai bod rhagofalon yn cael eu cymryd.

Mae defnyddio trapiau heb eu haddasu i ddal llygon yn gofyn am drwydded i gwmpasu eu dal yn fwriadol. Nid oes angen trwydded wrth ddefnyddio trapiau wedi’u haddasu pan nad oes bwriad i ddal llygon.

Rydym yn rhoi trwyddedau at ddibenion gwyddonol ac addysgol, ac ar gyfer gwneud gwaith ymchwil neu waith cadwraeth, yn cynnwys modrwyo a marcio.

Trapiau wedi’u haddasu

Os nad oes angen ichi ddal llygon, dylech ddrilio twll 13mm mewn diamedr ym mlwch nythu’r trap, er mwyn i’r llygon allu dianc. Dylid glynu wasier bres o amgylch y twll er mwyn atal cnofilod rhag cnoi ei ymyl. Dylid glynu’r wasier bres ar gorff y trap. Mae yna berygl bach y gallai anifeiliaid sy’n rhy fawr i ddianc drwy’r twll farw, ac wrth gwrs bydd modd i gnofilod bach neu ifanc, yn ogystal â llygon, ddianc.

Mewn ambell drap lle mae modd dal anifeiliaid yn fyw, gellir addasu sensitifrwydd y droedlath. Yn ymarferol, nid yw hyn yn ddigon i atal llygon rhag cael eu dal. Nid yw’n ymarferol addasu trapiau pydew. Os caiff trapiau pydew eu defnyddio i ddal llygon, rhaid darparu bwyd a gwellt gwely.

Trapiau heb eu haddasu

Dylech ddylunio, gosod a defnyddio trapiau byw er mwyn osgoi marwolaeth neu anaf. Dylid defnyddio blwch nythu gyda’r rhain a dylid rhoi gwellt gwely addas yn y nyth.

Sut i osod y trapiau

Rhaid sicrhau bod trapiau’n sefydlog, a bod y siambr nythu mewn trapiau Longworth ar ogwydd er mwyn atal dŵr rhag llifo i’r gwellt gwely.

Bwyd

Gadewch ddigon o fwyd addas yn y trap. Larfâu neu chwilerod pryfed chwythu sydd orau. Defnyddiwch ddigon, gan roi 10g ymhob trap. Dylid rhoi bwyd newydd yn rheolaidd.

Gwellt gwely/gorchudd

Gadewch wellt gwely sych (gwair glân) yn y trap er mwyn ei inswleiddio.  Gorchuddiwch drapiau Longworth â llystyfiant amgylchynol neu ddeunyddiau eraill. Bydd hyn yn helpu i insiwleiddio yn erbyn tymheredd eithafol.

Archwilio trapiau

Archwiliwch y trap yn rheolaidd. Dylech archwilio’r trapiau bob 12 awr (wrth iddi nosi, a ben bore). Nod hyn yw sicrhau bod digon o fwyd a gwellt gwely. 

Os na ddarperir bwyd, mae’n debyg y bydd y llygon yn marw os cânt eu gadael am fwy na 3-4 awr. Mewn amgylchiadau o’r fath,  rhaid archwilio’r trapiau o leiaf bob pedair awr. Cofiwch y bydd archwilio’r trapiau’n rhy aml yn amharu ar y cynefin, a gall hyn effeithio ar lwyddiant y trapio.

Os dewch ar draws llyg wedi marw, ceisiwch addasu faint o fwyd a gwellt gwely a roddwch yn y trapiau, neu ba mor aml rydych yn eu harchwilio, fel sy’n briodol. Os bydd y marwolaethau’n parhau er gwaethaf hyn, rhowch y gorau i drapio llygon a gofynnwch am gyngor.

Peidiwch â thrapio pan fydd y tywydd yn oer neu’n boeth iawn.

Pan na fydd y trapiau’n cael eu defnyddio, sicrhewch fod y bachyn drws ‘cyn rhoi abwyd’ yn weithredol.

Trapiau pydew

Gorchuddiwch drapiau pydew â bwrdd (sy’n fwy na diamedr y trap). Dylech godi hwn uwchben y ddaear ar gerrig er mwyn cadw’r glaw allan.

Wrth ddefnyddio trapiau pydew, archwilio’n rheolaidd yw’r unig ffordd o ddiogelu rhag marwolaethau damweiniol llygon.

Pan na fydd trapiau pydew yn cael eu defnyddio, dylid rhoi caead ar eu pen. 

Diweddarwyd ddiwethaf