Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Safleoedd dynodedig

Dod o hyd i ardaloedd o dir a môr gwarchodedig

Defnyddiwch yr offeryn chwilio hwn i ganfod y dogfennau dynodi cysylltiedig â gwahanol fathau o ardaloedd o dir a môr gwarchodedig.

Beth yw ‘safleoedd dynodedig’?

Gall ardaloedd o dir a môr fod yn ardaloedd ‘dynodedig’, sy’n golygu fod ganddynt statws arbennig fel ardaloedd gwarchodedig oherwydd eu pwysigrwydd naturiol a diwylliannol.

Sut mae chwilio am ddogfennau a mapiau ar gyfer safleoedd dynodedig

Os gwyddoch enw’r safle ac os ydych eisiau gwybod mwy amdano, gallwch chwilio drwy deipio’r enw neu ran o’r enw.

Os ydych yn dewis sir, bydd yr holl safleoedd o fewn y sir honno yn cael eu harddangos.

Gallwch hefyd chwilio am sawl sir a sawl math o ddynodiadau drwy ddal i bwyso’r allwedd [Ctrl] ar eich bysellfwrdd a dewis un ohonynt gyda’ch llygoden.

Drwy glicio ar unrhyw leoliad yng nghanlyniad y chwilio gallwch ehangu’r dewis i restru dolennau i’r dogfennau, mapiau ac adnoddau eraill.

Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru’r offeryn chwilio hwn i gynnwys dogfennau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r holl leoliadau a dynodiadau.

Os nad yw dogfen safle ar gael, Cysylltwch â ni.

Chwilio am Safleoedd Dynodedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.