Sut i ddosbarthu ac asesu eich gwastraff
Fel rhan o'ch dyletswydd gofal gwastraff mae'n ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i bob gwastraff gael ei ddisgrifio'n gywir cyn iddo gael ei gasglu, ei waredu neu ei adfer.
Sut i ddosbarthu eich gwastraff
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio'r canllawiau ar ddosbarthu ac asesu gwastraff (GOV.UK) er mwyn dosbarthu pob un o'r mathau o wastraff rydych chi'n eu cynhyrchu a neilltuo’r cod mwyaf priodol.
Rhaid i'ch gwaith papur gynnwys y rhestr gywir o godau gwastraff a'r disgrifiad ysgrifenedig. Bydd hyn yn caniatáu ichi wneud y canlynol:
- nodi'r rheoliadau sy'n berthnasol ar gyfer symud y gwastraff
- cwblhau'r dogfennau a'r cofnodion gwastraff angenrheidiol
- sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei gludo i safle sydd wedi'i awdurdodi i'w dderbyn
- atal niwed i bobl a'r amgylchedd
Penderfynu a yw eich gwastraff yn beryglus
Bydd angen i chi benderfynu a yw'r gwastraff yn beryglus ai peidio.
Yn gyffredinol, ystyrir gwastraff yn beryglus os yw (neu os yw'r deunydd neu'r sylweddau y mae'n ei gynnwys) yn niweidiol i bobl neu'r amgylchedd. Dyma enghreifftiau o wastraff peryglus:
- asbestos
- cemegau, fel hylif brêc neu arlliw argraffu
- batris
- toddyddion
- plaladdwyr
- olewau (ac eithrio rhai bwytadwy), fel olew car
- offer sy'n cynnwys sylweddau sy'n disbyddu osôn, fel oergelloedd
- cynwysyddion gwastraff peryglus
Mae rhai mathau o wastraff peryglus llai amlwg yn cynnwys:
- rhywfaint o offer trydanol ac electronig gwastraff
- tecstilau wedi'u trin â chemegau gwrth-dân
- priddoedd halogedig
Gwiriadau y gallwch eu gwneud i benderfynu a yw'r gwastraff yn beryglus
Gallwch wneud y canlynol:
- gwirio’r daflen ddata diogelwch cynnyrch
- darganfod o beth mae wedi cael ei wneud (gellir gwneud rhywfaint o offer electronig a thrydanol gwastraff gyda llygryddion organig parhaus (POPs))
- ystyried a yw wedi'i drin â chemegau peryglus
- chwilio am unrhyw symbolau neu farciau ar y cynnyrch ei hun neu unrhyw labeli neu gyfarwyddiadau a allai ddweud wrthych fod yr eitem yn beryglus
- trefnu ei fod yn cael ei ddadansoddi
- darganfod sut y gallai unrhyw brosesau cynhyrchu fod wedi effeithio arno
Os nad ydych yn siŵr a yw'r gwastraff yn beryglus
Os nad ydych yn siŵr a yw eich gwastraff yn beryglus - ar ôl gwirio a darllen y canllawiau dosbarthu - rhaid i chi ddefnyddio’r egwyddor ragofalus a'i drin fel gwastraff peryglus.
Darllenwch fwy am yr hyn y dylech ei wneud fel cynhyrchydd gwastraff peryglus.
Os ydych wedi penderfynu nad yw eich gwastraff yn beryglus, darllenwch y ddyletswydd gofal gwastraff.