Gwaharddiad mynediad arfaethedig i Feysydd Tanio Trawsfynydd

Yn ôl Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003, mae’n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru, fel awdurdod perthnasol, gyhoeddi cyfarwyddyd drafft ar wefan pan fo’n fwriad ganddo wahardd neu gyfyngu ar fynediad am gyfnod o fwy na chwe mis.

Mae’r safle, a elwir yn lleol yn Faes Tanio Trawsfynydd, yn 365.5 hectar o faint. Y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ar gyfer canol y safle yw SH760326 ac fe’i lleolir oddeutu 350m uwchben lefel y môr.

Ar hyn o bryd caiff mynediad ar y safle ei wahardd dan gyfarwyddyd hirdymor presennol sydd i fod i ddod i ben ar 28 Awst 2018. Mae cyfarwyddyd yn golygu bod caniatâd wedi’i roi gan yr Awdurdod Perthnasol, sef Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr achos hwn, i wahardd mynediad dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Nid yw’n effeithio ar hawliau eraill a allai fodoli ar y tir, fel hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cais dan adran 25(1)(b) – Osgoi Perygl i’r Cyhoedd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i wahardd mynediad am bum mlynedd arall gan nad oes unrhyw beth wedi’i wneud ar y safle i gael gwared â’r risg yn sgil ordnans heb ffrwydro, ac mae yna berygl o hyd o anaf difrifol neu farwolaeth.

Mae’n ofynnol yn ôl y Ddeddf i’r awdurdod perthnasol ymgynghori â Fforwm Mynediad Lleol yr ardal, ynghyd â sefydliadau eraill (a nodir yn y Rheoliadau) wrth ymgeisio am gyfarwyddyd a fydd yn para am fwy na chwe mis, gan ystyried unrhyw gyngor a roddir. Cyrff cynghori yw Fforymau Mynediad Lleol a sefydlwyd dan Adran 94 y Ddeddf er mwyn rhoi cyngor ynghylch gwella mynediad i’r cyhoedd ar gyfer hamddena awyr agored.

Os cred CNC y bydd hynny’n briodol, efallai y bydd yn ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir ganddo.

Gellir gweld y cyfarwyddyd hirdymor a gynigir, ynghyd ag adroddiad asesu, trwy glicio ar y dolenni canlynol:

Mae’r cyfarwyddyd drafft hwn yn cynnwys manylion, gwybodaeth a chymeradwyaeth dros dro i wahardd mynediad i’r cyhoedd am gyfnod o 5 mlynedd namyn diwrnod, yn dechrau ar 29 Awst 2018.

Adroddiad Asesu

Mae’r adroddiad asesu hwn yn nodi sut y mae CNC wedi ystyried y cais trwy ddefnyddio canllawiau statudol cymeradwy Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Awdurdodau Perthnasol.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r cyfarwyddyd hirdymor arfaethedig hwn wneud hynny’n ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad postio a nodir isod, o fewn y cyfnod ymgynghori uchod.

crow.relevantauthoritywales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu 

Lucy Swannell

Cynghorydd Mynediad a Hamdden
Adeilad Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR