Cynllun Rheoli Risg Llifogydd Gollyngfa Gutter Fawr, Talacre

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn hysbysu ei fod yn bwriadu cyflawni gwaith ar strwythur gollyngfa lanwol rheoli perygl llifogydd ger Talacre yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Cyfeirnod Grid: SJ 125 835).

Mae'r gwaith uwchraddio yn cynnwys gosod drysau ochr sy’n hongian yn lle’r fflap presennol sy’n hongian o’r top, cael gwared ar y sgrîn sbwriel bresennol a gosod llifddor wrth gefn newydd, grisiau mynediad newydd ar yr ochr i fyny'r afon ac ar yr ochr i lawr yr afon y strwythur a gosod camera cylch cyfyng a thelemetreg newydd i fonitro llif i gynorthwyo presenoldeb y tu allan i oriau gwaith.

Mae CNC yn ystyried nad yw'r gwaith gwella yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar eu cyfer.

Er na chynigir datganiad amgylcheddol, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol lle bo'n ymarferol.

Gellir darparu dyluniad y cynllun ar gais drwy anfon e-bost at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk neu drwy ffonio 03000 65 3000.

Dylai unrhyw berson sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, i'r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn.

Cynnal Prosiectau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
Sir Fflint
CH7 3AJ

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol am y prosiect, cysylltwch â rheolwr prosiect CNC  andrew.basford@cyfoethnaturiol.cymru. Diolch yn fawr.